Beth yw’r safonau proffesiynol? 

Mae safonau proffesiynol yn disgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau sy’n dangos ymarfer rhagorol ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol. 

Mae’r safonau proffesiynol yn ffurfio fframwaith dyheadol sy’n eich grymuso i fod yr addysgwr gorau posibl. 

Maen nhw’n rhan hollbwysig o gefnogi’r holl ymarferwyr yn ein sector wrth iddynt ymwneud â dysgu a datblygiad proffesiynol. 

Mae’r safonau hyn, a luniwyd ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, yn ffrwyth ymdrech ar y cyd gan y gweithlu, ar ran y gweithlu. Maen nhw’n ymgorffori arbenigedd a gweledigaeth gyffredin gweithwyr proffesiynol fel chi, sy’n rhannu ymrwymiad i gael yr effaith fwyaf posibl ar ddysgwyr.

Rhoddir isod ddolenni i safonau proffesiynol sydd wedi’u teilwra i’ch rôl benodol; ar gyfer athrawon addysg bellach, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, athrawon sy’n cyflwyno addysg oedolion yn y gymuned, a staff cymorth ac arweinwyr mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

 

Defnyddio’r safonau
Bydd defnyddio’r safonau hyn yn eich helpu i gael trafodaethau agored gyda’ch cymheiriaid, gan feithrin sgyrsiau ystyrlon i ffurfio nodau datblygiad proffesiynol. Maen nhw hefyd yn helpu i ddarparu fframwaith ar gyfer hunanfyfyrio, o ran eich ymarfer a damcaniaeth addysgu.

Adnoddau allweddol yw’r rhain i gyflawni dealltwriaeth ddyfnach o’ch ymarfer, a hybu eich twf fel gweithiwr proffesiynol.
  • Gosod disgwyliadau clir ar gyfer sut dylech chi a’ch cydweithwyr weithio. 
  • Myfyrio ar eich ymarfer – yn unigol ac fel rhan o dîm, a helpu i ddiffinio llwyddiant fel addysgwr.
  • Amlygu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt ar gyfer eich datblygiad proffesiynol a’ch dysgu parhaus eich hun. 
  • Diffinio’r llwybr tuag at gamu ymlaen yn eich gyrfa, gan roi trywydd clir i chi i wella’ch gyrfa.
Adnoddau Defnyddiol
Mae adnoddau defnyddiol sy’n gysylltiedig â safonau proffesiynol isod
Y Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn offeryn ar-lein hyblyg, sydd ar gael i holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sy’n llawn nodweddion a ddyluniwyd i’ch helpu i gofnodi eich dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod o wella’ch ymarfer, yn y pen draw. Rydym ni i gyd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol a lluniwyd y PDP i fodloni ystod eang o anghenion.

Fe welwch eich safonau proffesiynol yn eich PDP hefyd, a gall unrhyw eitem rydych wedi’i chreu neu ei hychwanegu at eich PDP gael ei chysylltu â nhw. 

Darllenwch fwy am sut gallwch ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i wella’ch ymarfer.

 

 

Next Chapter
Continuing Professional Development (CPD)