Cyhoeddwyd y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr addysg oedolion ym mis Gorffennaf 2023.

Gan ychwanegu at safonau 2017 ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, maen nhw bellach yn cynnwys ymarferwyr sy’n cyflwyno addysg oedolion yn y gymuned. Mae’r safonau’n dangos rhagoriaeth mewn ymarfer proffesiynol addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion, gan ddarparu fframwaith ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydweithio a hunanfyfyrio i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y sector. 

Archwiliwch y safonau

Mae’r offeryn rhyngweithiol isod yn caniatáu i chi archwilio’r hyn y mae’r safonau’n ei olygu i chi ac edrych ar gymhwyso’r safonau ar wahanol lefelau ymarfer – archwilio, ymsefydlu a thrawsnewid.

Archwiliwch y Safonau

Arddangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles

Ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu man cychwynnol a’u hopsiynau o ran gwneud cynnydd

Cydweithio ag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn
Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant

Croesawu amrywiaeth ac arddel agwedd o gynhwysiant

Herio pob ffurf ar wahaniaethu
Deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog

Manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd 

Manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill
Arddangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill

Gwrando ar farn, sylwadau a syniadau pobl eraill, a’u parchu

Bod yn enghraifft i eraill wrth arddel ymddygiad teg, cwrtais a pharchus
Diweddaru fy ngwybodaeth am fy mhwnc/pynciau, a sut orau i’w haddysgu a’u hasesu

Bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes fy mhwnc neu alwedigaeth ac o’r dulliau dysgu ac asesu effeithiol

Defnyddio asesiadau o ddysgu ac ar gyfer dysgu i gefnogi cynnydd dysgwyr
Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arferion

Defnyddio ac arbrofi gydag ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau

Ystyried y theorïau a’r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr, gan roi sylw i ba mor berthnasol ydynt yng nghyd-destun fy nulliau dysgu ac addysgu fy hun
Cynllunio dulliau addysgu, dysgu ac asesu effeithiol a’u rhoi ar waith

Pennu, paratoi, cyflawni ac asesu rhaglenni dysgu

Defnyddio ystod o wahanol gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau digidol, yn effeithiol er mwyn gwella’r broses ddysgu
Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

Gweithio i feithrin a chynnal perthynas â dysgwyr, cydweithwyr, cyflogwyr, ac unigolion eraill lle bo hynny’n briodol

Arwain ar bob agwedd ar arferion proffesiynol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt
Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesu eu hunain

Gweithio gyda phob dysgwr i’w grymuso i osod amcanion a thargedau heriol, ac i werthuso eu cynnydd yn eu herbyn

Cyfathrebu’n effeithio gyda phob dysgwr, cyflogwr ac eraill fel sy’n briodo
Myfyrio’n feirniadol ar fy ngwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fy hun i wella dysgu

Datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ar y cyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill

Gwerthuso fy arferion yn feirniadol a’u haddasu ar ôl myfyrio a chael adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr.
Arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

Ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau sefyllfa sero net

Cefnogi dysgwyr i ddysgu’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy
Previous Chapter
Professional Standards