Mae llwyddiant y sector ôl-16 yng Nghymru yn dibynnu ar effeithiolrwydd ei arweinwyr.
Os ydych eisiau camu i’r rôl allweddol a chyffrous hon, gweler isod ystod o adnoddau cefnogol i’ch helpu i ddatblygu’ch sgiliau arwain.

Safonau Proffesiynol

Cyhoeddwyd safonau proffesiynol ar gyfer AB a DSW ym mis Hydref 2023.

Cyhoeddwyd safonau proffesiynol ar gyfer AB a DSW ym mis Hydref 2023.

Maen nhw’n ceisio hyrwyddo proffesiynoldeb arweinwyr AB, DSW ac addysg oedolion, a darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, gan hyrwyddo arferion gwell trwy hunanfyfyrio a chydweithio, ac felly sicrhau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel.

Mae’r safonau’n dangos rhagoriaeth mewn ymarfer proffesiynol AB, DSW ac addysg oedolion, gan ddarparu fframwaith ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydweithio a hunanfyfyrio i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y sector.

Archwiliwch y safonau

Dysgu Proffesiynol 

 

Mae ystod o gyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol ar gael i chi – yn dechrau gyda’n hyb dysgu proffesiynol. 

 

Archwiliwch yr Hyb

 

Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â chymwysterau mwy ffurfiol hefyd, fel y radd Meistr mewn Addysg (Cymru) genedlaethol. Gallwch gael gwybod mwy am y cymhwyster hwn yma neu archwilio’r holl gymwysterau trwy ein cyfleuster chwilio am gymwysterau.

 

Chwiliwch am gymwysterau

 

Deall Arweinyddiaeth yn y Sector Addysg Bellach yng Nghymru 

 

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Colegau Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol adroddiad yn canolbwyntio ar ddeall arweinyddiaeth yn y sector addysg bellach. 

 

Darllenwch yr adroddiad yma.

Previous Chapter
Working through the medium of Welsh
Next Chapter
Resources