Addysgwyr Cymru – Datganiad Hygyrchedd

Mae Addysgwyr Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a mynediad cyfartal at wybodaeth. Bydd Addysgwyr Cymru yn parhau i weithio i wneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl. Rydym ni’n croesawu eich sylwadau – rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau rydych chi’n eu cael, neu am unrhyw nodweddion sy’n arbennig o ddefnyddiol.

e-bost: information@educators.wales 

Nodweddion hygyrchedd

Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n rhedeg y wefan hon. I sicrhau ei bod mor hygyrch i gynifer o bobl â phosibl, dylech allu:

•          nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo’r sgrin

•          llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

•          llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

•          gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

•          ymestyn sesiynau seibiant pan fyddwch wedi mewngofnodi

Hefyd, rydym wedi gwneud i destun y wefan fod mor syml â phosibl ei deall ac mae pob fideo sy’n cael ei dangos ar wefan Addysgwyr Cymru ar gael gydag is-deitlau.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

•          mae rhai delweddau sy’n cael eu defnyddio ar y safle yn cynnwys testun

•          mae peth cynnwys ar ffurf pdf ac nid yw’n gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin

 

Cydymffurfio â safonau

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio sydd wedi’i restru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch yn cael ei amlinellu isod gyda manylion:

Nid yw fideos yn cynnwys disgrifiadau sain.

Hygyrchedd Adnoddau

Caiff adnoddau a chynnwys gwybodaeth ar y platfform hwn eu creu gan amrywiaeth eang o gyfranwyr.  Rydym yn argymell bod pob cyfrannwr yn cynnal profion hygyrchedd ar eu cynnwys cyn ei lwytho i Addysgwyr Cymru. Os byddwch yn amlygu unrhyw gynnwys nad yw’n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: information@educators.wales a byddwn yn rhoi gwybod i greawdwr y cynnwys.

Cael at ein cyhoeddiadau

Fel arfer, mae ein cyhoeddiadau ar gael ar ffurf electronig yn unig.

Os bydd angen unrhyw rai o’n cyhoeddiadau arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2946 0099

E-bost: information@educators.wales 

Cael at gyhoeddiadau trydydd parti

Mae Addysgwyr Cymru’n rhannu nifer o gyhoeddiadau trydydd parti i gefnogi defnyddwyr. Os bydd angen unrhyw rai o’r cyhoeddiadau hyn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â’r cyhoeddwr yn uniongyrchol.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym bob amser am wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: information@educators.wales.  

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Sut profom ni’r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2023. Gwnaed y prawf gan Gyngor y Gweithlu Addysg a CREO.

Fe wnaethom brofi cyfuniad o’n templedi CMS, ein rhaglenni wedi’u mewngofnodi a’n rhaglenni wedi’u hallgofnodi.

Caiff y wefan ei phrofi’n flynyddol.

Paratowyd y datganiad hwn ar 07.06.2021