NI YW'R GWEITHLU DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Ni yw'r arweinwyr yn ein meysydd dewisol, yn rhannu ein gwybodaeth a'n profiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Rydym yn darparu dysgwyr gyda'r offer sydd eu hangen arnynt i adeiladu sylfaen o wybodaeth, angerdd a sgiliau, dim ots pa lwybr maent yn dewis.
Mae ein dull ymarferol o ddysgu yn cyfuno theori ag ymarfer, gan annog dysgwyr i fod yn greadigol, i fentro a dod yn aelodau gwerthfawr o weithlu'r dyfodol. O sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd i brentisiaethau, rydym yn cymryd ein dysgwyr ar daith y tu hwnt i ffiniau'r ystafell ddosbarth ac i mewn i’r gweithle i gyflawni'r canlyniadau gorau posib ar gyfer y dyfodol.
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu mwy am y gwahanol rolau sy'n bodoli mewn dysgu'n seiliedig ar waith yng Nghymru? Efallai eich bod chi'n chwilio am wybodaeth am y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddechrau (neu ddatblygu) gyrfa yn y sector? Os felly, ry'ch chi yn y man cywir.
Isod mae blas o'r rolau cyffrous sydd i'w cael yn y sector ôl-16, sy'n rhoi syniad i chi o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau, a sut beth yw hi i weithio yn y rolau hyn.