NI YW’R GWEITHLU ADDYSG OEDOLION
Nid oes rhaid i addysg ddod i ben yn yr ysgol. Rydym yn dysgu yn barhaus ac yn addasu i heriau bywyd. Fel y gweithlu addysg oedolion, rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo oedolion â chyflawni eu huchelgeisiau dysgu gydol oes.
Mewn marchnad swyddi sy’n esblygu’n gyflym, mae ffocws helaethach ar y pwysigrwydd o ddysgu sgiliau newydd i sicrhau bod ymgeiswyr yn parhau’n gystadleuol ac yn berthnasol. Rydym yn helpu oedolion (ôl-16) i ganfod y llwybr cywir at ddysgu ychwanegol. O ddysgwyr yn bwriadu mynd i mewn i gyflogaeth eto, newid gyrfa, cyrchu addysg bellach, neu hyd yn oed sefydlu busnes newydd, rydym yn darparu cyrsiau i roi cychwyn cryf i uchelgeisiau dysgwyr.
Mae dysgu oedolion yn cynorthwyo datblygu sgiliau, yn gwella iechyd a lles, ac mae’n gatalydd ar gyfer ymgysylltu ac integreiddio cymdeithasol. Rydym am i bob dysgwr gael y cyfle i ennill y sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag y bo’u cefndir neu amgylchiadau, yn teimlo wedi’u hannog a’u cynorthwyo trwy gydol eu cyrsiau cyfan.
Mae pawb yn haeddu cyfle i gyflawni eu gwir botensial. Ymunwch â’r gweithlu addysg oedolion a helpwch ysbrydoli a a chynorthwyo dysgwyr newydd yn eich cymuned leol.