BETH YW CYNORTHWY-YDD CLERIGOL?

Rydym yn cynorthwyo â thasgau gweinyddol o ddydd i ddydd a TG, gan ddarparu gwybodaeth am y cwrs a helpu dysgwyr sy’n oedolion deimlo’n gyfforddus yn ystod cofrestru.  

Mae hon yn rôl bwysig mewn helpu dysgwyr sy’n oedolion i gychwyn eu taith yn ôl i mewn i addysg. Felly, rydym yn empathetig ac yn amyneddgar wrth ddelio â dysgwyr newydd posibl, yn ymwybodol fod ein rhyngweithrediadau yn gallu dylanwadu ar benderfyniad y rheini sy’n nerfus ynghylch mynd i mewn i addysg.  

Mae’n trefn ddyddiol yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau posibl, cymryd taliadau, sicrhau bod ffurflenni cofrestru yn cael eu cwblhau’n gywir, a darparu diweddariadau cyfryngau cymdeithasol a chynnwys gwefan yn ôl y gofyn. Rydym yn mwynhau’r cyfeillgarwch o weithio fel rhan o dîm, gan ddarparu cymorth ychwanegol wrth weithio i derfynau amser. 

Rydym yn ffynnu wrth fod yng nghalon y gymuned, yn cydlynu tasgau gweinyddol i danio dyfodol dysgwyr newydd. Rydym yma i helpu, helpu i wneud gwahaniaeth. 
 

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

  • Wedi cymhwyso i Lefel 2 o leiaf mewn cymhwyster galwedigaethol perthnasol
  • Gallu i ddefnyddio cymwysiadau MS Office gan gynnwys Excel, Word ac Outlook
     
SGILIAU DYMUNOL
  • Defnydd da o gyfres Microsoft Office
  • Profiad o drafod taliadau a phrosesu anfonebau
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â’r cyhoedd
  • Dealltwriaeth o ddiogelu data a gofynion Diogelu Data Cyffredinol 
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog (ysgrifenedig a llafar)
  • Empathi â dysgwyr
  • Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
  • Adnabyddiaeth o’r sector dysgwyr sy’n oedolion
  • Sgiliau cyfathrebu da 
  • Gwaith tîm
  • Cymryd cofnodion