Rhybudd Preifatrwydd Addysgwyr Cymru
Mae Addysgwyr Cymru yn parchu prefiatrwydd y sawl sy’n cofrestru gyda ni, ein rhanddeiliaid a’r sawl sy’n ymweld â’n gwefan.
Eich preifatrwydd
Mae’r ddyletswydd sydd arnom i brosesu eich data personol yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn hynod o ddifri. Mae’r polisi hwn yn egluro sut yr ydym yn casglu, yn rheoli, yn defnyddio, ac yn gwarchod eich data personol. Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o dro i dro er mwyn cydfynd â’r ymarfer gorau. Gwiriwch hynny yn gyson os gwelwch yn dda.
Nodyn am Addysgwyr Cymru
Cyfrifoldeb Cyngor y Gweithlu Addysg yw ymgyrch a phlatfform digidol Addysgwyr Cymru. Bydd gan rai defnyddwyr Addysgwyr Cymru y gallu i rannu gwybodaeth am eu proffil gyda’u cyfrif Cyngor y Gweithlu Addysg a vice versa. Gallwch edrych ar rybudd preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn y fan hon.
Eich gwybodaeth
Os ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch, gallwn eich sicrhau ein bod yn prosesu’r wybodaeth honno yn deg, yn gyfreithlon ac yn ddiogel. Adnabyddir Cyngor y Gweithlu Addysg fel ‘rheolwr’ y data personol a ddarperir i ni.
Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn dweud wrthoch beth i’w ddisgwyl pan fo Addysgwyr Cymru yn casglu eich gwybodaeth bersonol.
Ymwelwyr â’n Gwefan
Pan fyddoch yn ymweld â’n gwefan byddwn yn defnyddio Google analytics i gasglu gwybodaeth log safonol y we ynghyd â manylion am ymwelwyr a’u patrymau ymddygiad. Prosesir y wybodaeth hon yn y fath fodd fel na bo neb yn cael eu hadnabod. Mae’r wybodaeth a gasglwn drwy gyfrwng gweinyddion ein gwefannau yn ein cynorthwyo i wella cynnwys, cynllun a pherfformiad y safle perthnasol.
Onid ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy drwy ein gwefan, byddwn yn gwneud datganiad clir i’r perwyl hwn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pryd y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi. Mae Addysgwyr Cymru yn sicrhau fod y platfform sy’n lletya eu gwefan yn cael ei ddiweddaru â’r feddalwedd ac â’r diweddariadau diogelwch diweddaraf, a bod mynediad HTTPS wedi ei alluogi er mwyn sicrhau amgryptio o’r naill ben i’r llall.
Defnyddio briwsion
Mae Addysgwyr Cymru yn defnyddio Google Analytics, Google Maps a YouTube Cookies ar y safle.
Ffeil fechan yn cynnwys cyfres o gymeriadau a yrrir at eich cyfrifiadur pan fyddoch yn ymweld â gwefan yw briwsionyn. Pan fyddoch yn ailymweld â’r safle eto, mae’r briwsionyn yn caniatáu i’r safle gydnabod eich porwr. Gall briwsion gadw dewisiadau defnyddiwr a gwybodaeth arall. Gallwch ffurfweddu eich porwr i wrthod pob briwsionyn neu i ddynodi pryd y gyrrir briwsionyn. Gall na fydd rhai nodweddion neu wasanaethau ar y wefan yn gweithio yn iawn heb friwsion.
Er mwyn gwybod mwy am ein defnydd Google analytics a YouTube Cookies ymwelwch os gwelwch yn dda â’r ddolen isod:
https://policies.google.com/technologies/partner-sites?hl=en
E-lythyr
E-Newsletter
Yr ydym yn casglu gwybodaeth fel y gallom eich darparu â gwasanaeth a’ch hysbysu am swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi.
Defnyddiwn y darparwr trydydd parti Mailchimp i gyflenwi ein he-lythyrau. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch os gwelwch yn dda at eu polisi preifatrwydd: https://mailchimp.com/legal/privacy/
Yr ydym hefyd yn defnyddio’r darparwr trydydd parti SendGrid, i yrru ebyst unwaith ac am byth o’r system megis e-byst cofrestru.
Lle yr ydym yn caffael eich gwybodaeth
Yr ydym yn caffael gwybodaeth yn uniongyrchol gennych drwy eich cyfathrebu â ni, gan gynnwys pan fyddoch yn cofrestru cyfrif gydag Addysgwyr Cymru. Pan fyddoch yn dod yn ddefnyddiwr safle Addysgwyr Cymru byddwn yn casglu data perthynol i’ch math chi o broffil. Yr ydym hefyd yn casglu gwybodaeth drwy gyfrwng ein ffurflenni cyswllt a’n sgyrsiau byw er mwyn darparu ein gwasanaeth.
Pa wybodaeth bersonol a gesglir gennym
Mae’r data personol a gesglir gennym yn dibynnu ar pa un ai a ydych yn defnyddio Addysgwyr Cymru fel Addysgwr, fel Cyflogwr neu fel Darparwr.
Os ydych yn cofrestru fel Addysgwr, byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol:
- Enw
- Rhif Cyngor y Gweithlu Addysg (os ydych yn meddu ar rif felly)
- Dyddiad geni
- Cenedligrwydd
- Cyfeiriad IP
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Cymwysterau a chyflogaeth (gan gynnwys manylion cymwysterau addysgol, manylion cyflogaeth gyfredol a blaenorol, eich datganiad personol a manylion canolwyr)
- Unrhyw wybodaeth arall y byddoch yn ei darparu drwy gyfrwng gwefan Addysgwyr Cymru
Os ydych wedi eich cofrestru fel Cyflogwr neu Ddarparwr, byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol:
- Enw
- Teitl swydd
- Sefydliad
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad IP
Os ydych yn ymweld â gwefan Addysgwyr Cymru heb gofrestru cyfrif, gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch:
- Cyfeiriad IP
Os ydych yn cysylltu â Chyngor y Gweithlu Addysg heb greu cyfrif gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn
Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Os ydych yn cofrestru fel Addysgwr, Cyflogwr neu Ddarparwr byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ganiatáu i chi ddefnyddio gwefan Addysgwyr Cymru
Os ydych yn cofrestru fel Addysgwr ac yn gwneud cais am swydd drwy wefan Addysgwyr Cymru, gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol gyda’r sefydliad yr ydych yn ymgeisio iddo. Bydd gwefan Addysgwyr Cymru fel arfer fodd bynnag yn caniatáu i chi rannu’r wybodaeth bersonol yn uniongyrchol gyda’r sefydliad hwnnw.
Gallwn hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol gyda’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â gwefan Addysgwyr Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys YMLP, Mailchimp a SendGrid. Mae’n ofynnol gennym fod pob darparwr gwasanaeth trydydd parti yn parchu diogelwch eich data personol ac yn ei drin yn unol â’r gyfraith. Yr ydym yn gomedd i’n darparwyr trydydd parti ddefnyddio eich data personol ar gyfer eu dibenion eu hunain ac ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodedig ac yn unol ân cyfarwyddiadau ni.
Pam y mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon
Er mwyn i’n defnydd o’ch data personol fod yn anghyfreithlon, mae angen i ni ddiwallu un (neu ragor) o’r amodau yn y ddeddfwriaeth diogelu data.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn prosesu eich data wrth gyflawni tasg gyhoeddus (a ddiffinir mewn cyfraith gwarchod data) er lles y cyhoedd o dan adran 8 Deddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn hybu gyrfaoedd yn y proffesiynau cofrestradwy yng Nghymru.
Beth yw eich hawliau?
Gallwch ofyn am weld eich gwybodaeth bersonol neu ei chael wedi ei chywiro. O dan Ddeddf Diogelu/Gwarchod Data (Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliadau Cyffredinol Gwarchod Data mae gennych hawliau y mae angen i ni eich gwneud yn ymwybodol ohonynt. Mae’r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.
- Yr hawl i gael eich hysbysu – mae gwybodaeth am breifatrwydd ar gael drwy gyfrwng rhybudd preifatrwydd Addysgwyr Cymru;
- Hawl mynediad – mae gennych hawl i weld y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch a pheth data atodol arall. Cyfeirir yn gyffredin at yr hawliau hyn fel ‘mynediad y gwrthrych’. Bydd angen prawf adnabod arnom cyn datgelu unrhyw wybodaeth. Byddwn yn ymateb i’ch cais heb oedi gormodol ac ar y mwyaf o fewn mis o’i dderbyn. Mae yna eithriadau all olygu nad oes angen i ni gydymffurfio â’r cyfan neu â chyfran o’ch cais.
- Hawl i gywiro – mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth yr ydych yn meddwl ei bod yn wallus. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth yr ydych yn meddwl ei bod yn anghyflawn
- Hawl i ddileu – mae gennych yr hawl (mewn rhai amgylchiadau penodol) i’ch data gael ei ‘ddileu’
- Hawl i gyfyngu ar brosesu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth. Cyfyngir yr hawl hon lle bo’r prosesu wedi ei seilio ar fuddiannau dilys neu at ddibenion ymchwil ac ystadegau
- Hawl i wrthwynebu prosesu – mae gennych hawl (mewn rhai amgylchiadau penodol) i wrthwynebu porsesu
- Hawl i gludadwyedd data – yr hawl i ofyn am drosglwyddo gwybodaeth yn eich cylch i sefydliad arall. Mae’r hawl hon yn gymwys os ydym yn prosesu gwybodaeth ar sail eich cydsyniad, neu o dan gytundeb a bod y prosesu wedi ei awtomeiddio
Dargadw gwybodaeth amdanoch
Mae hyd yr amser yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch yn dibynnu ar ba mor hir y mae angen eich darparu â gwasanaeth. Fe fyddwn yn ei chadw yn unol â’n hamserlen ddargadw, â gofynion deddfwriaethol ac â chyfarwyddyd ymarfer da hyd nes bo’r data yn ddiangen at y pwrpas y’i casglwyd. Yn dilyn hyn fe gaiff y wybodaeth ei difa ac fe geir gwared arni mewn ffordd ddiogel. Os yw’n ofynnol i ni gadw’r wybodaeth am resymau ystadegol byddwn yn dienwi neu’n ffugenwi lle bo hynny’n bosib.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
Mae rhai o’n trydydd partïon allanol wedi eu lleoli y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol felly bydd eu prosesu ar eich data personol yn golygu trosglwyddo data y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Pryd bynnag y byddom yn trosglwyddo eich data personol allan o’r Deyrnas Gyfunol, yr ydym yn sicrhau fod graddfa gyffelyb o warchodaeth yn cael ei chynnig iddi drwy sicrhau fod o leiaf un o’r dulliau diogelu canlynol yn cael ei weithredu:
- Dim ond i wledydd sydd wedi eu barnu i fod yn darparu lefel ddigonol o warchodaeth o ddata personol y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.
- Lle y byddom yn defnyddio rhai darparwyr gwasanaeth, gallwn ddefnyddio cytundebau penodol a gymeradwywyd gan y Deyrnas Gyfunol sy’n rhoi’r un warchodaeth i ddata personol ag a roddir iddo yn y Deyrnas Gyfunol.
Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os ydych am ragor o wybodaeth am y mecanwaith penodol a ddefnyddir gennym pan fyddom yn trosglwyddo eich data personol allan o’r Deyrnas Gyfunol.
Diogelwch
Yr ydym wedi gosod yn eu lle fesurau diogelwch priodol er mwyn diogelu eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu bod rhywrai’n ceisio mynediad iddo mewn dull nas awdurdodwyd, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal yr ydym yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i’r cyflogeion, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon hynny y mae arnynt angen busnes i wybod. Dim ond ar ein cyfarwyddyd ni y byddant yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Yr ydym wedi gosod yn eu lle ddulliau gweithredu i ddelio ag unrhyw achos sydd dan amheuaeth o fynd yn groes i reolau gwarchod data a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o’r tor-rheol lle y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Strategaeth Rheoli Gwybodaeth
Yr ydym yn rheoli’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw gyda’r bwriad o geisio’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau fod gwybodaeth ar gael yn fwy eang i’r cyhoedd, ac ar yr un pryd warchod cyfrinachedd unigolyddol a gwneud yn siŵr fod gwarchodaeth ddigonol yn ei lle.
Mae ein polisïau rheoli gwybodaeth yn cynnwys sut yr ydym yn:
- Ymateb i geisiadau mynediad gwrthrych a cheisiadau rhyddid gwybodaeth
- diogelu’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw
- sicrhau fod y wybodaeth a grëwyd, a gasglwyd ac a storiwyd yn gymesur â’r galw ac yn cael ei chadw gyhyd ag y bo angen yn unig.
Eich hawl i gwyno
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am sut yr ydym wedi trafod eich data personol, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb neu os ydych yn credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/global/contact-us/
Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth:
- yn caniatáu i chi weld gwybodaeth sydd wedi ei chadw gennym;
- yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gael cynllun cyhoeddi.
- Gwnewch gais ysgrifenedig i’r Rheolwr Casglu ac Adrodd am Ddata;
- nodwch yn eglur pa wybodaeth neu ddogfennau yr hoffech gael mynediad iddynt, gan ddarparu cymaint o fanylion ag y bo’n bosib;
- darparwch eich enw a’ch cyfeiriad
- nodwch drwy ba gyfrwng yr hoffech i’r wybodaeth gael ei hanfon atoch, er enghraifft, drwy’r post, drwy ffacs neu e-bost.
Os ydych yn anfodlon gyda’r modd y mae eich cais yn cael ei drafod a/neu ein hymateb, mae gennych hawl i wneud cais am adolygiad mewnol neu wneud cwyn.
Gellir cwyno drwy’r broses adborth a chwyno https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/amdanom-ni/adborth-a-chwynion.html
Lle yr ydych yn anfodlon gyda’r modd y trafodwyd eich cais am wybodaeth ac os na chawsoch eich bodloni drwy drafod gyda’r Swyddog oedd yn delio â’r mater, gallwch wneud cais am adolygiad mewnol. Dylid cyflwyno ceisiadau am adolygiadau mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad derbyn ein hymateb cychwynnol. Ysgrifennwch os gwelwch yn dda at Elizabeth Brimble, Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru ac addasrwydd i ymarfer, Cyngor y Gweithlu Addysg, 9fed llawr, 35-43 Eastgate House, Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0AB.
Cydnabyddir eich llythyr apelio o fewn pum niwrnod gwaith ac fe ddelir ag ef o fewn 20 diwrnod gwaith, gan ddarparu manylion llawn am ganlyniad yr adolygiad.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad mewnol / â’n hymateb gallwch apelio/ mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan Adran 50 Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Dylid gwneud ceisiadau am adolygiad yn ysgrifenedig i: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF.
Sut i gysylltu â ni
Cyngor y Gweithlu Addysg yw rheolwr y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu. Os ydych yn dymuno trafod unrhyw beth yn ein polisi preifatrwydd, darganfod mwy am eich hawliau neu gael copi o wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch, cysylltwch os gwelwch yn dda â dataprotection@ewc.wales. Ar gyfer cysylltu yn gyffredinol defnyddiwch os gwelwch yn dda y cyfeiriad hwn https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/cysylltwch-a-ni.html
Manylion cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data
Data Protection Officer’s contact details
Ein Swyddog Diogelu Data yw Nia Griffith. Gallwch gysylltu â hi yn y cyfeiriad hwn dataprotection@ewc.wales neu drwy ein cyfeiriad post. Nodwch os gwelwch yn dda ‘Swyddog Diogelu Data’ ar yr amlen.