NI YW'R GWEITHLU YSGOL
Rydym ni'n fodelau rôl ac yn gefnogwyr yr holl ddysgwyr, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu pob person ifanc â'r wybodaeth a'r sgiliau i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Fel rhan o'r gweithlu ysgol, rydym yn gallu gweithio mewn ystod eang o leoliadau gan gynnwys ysgolion meithrin (3-4), ysgolion babanod (3-7), ysgolion iau (7-11), ysgolion cynradd (3-11), ysgolion uwchradd (11-16), ysgolion pob oed (3-19), chweched dosbarth (16-19), ysgolion arbennig (3-19), ysgolion Cymraeg, ysgolion dwyieithog, ysgolion annibynnol ac unedau cyfeirio disgyblion (3-16).
Rydym yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’n unigolion annibynnol, yn llawn brwdfrydedd, sgiliau ac uchelgais.
Mae ein swyddi yn cynnig amrywiaeth a gwobrau personol trwy effaith ein rolau. Gyda'n gilydd, rydym yn ysbrydoli ac yn cymell dysgwyr o bob oed, gan eu paratoi i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'u cymunedau.