BETH YW ARWEINYDD YSGOL?
Rydym yn helpu ysgolion i greu'r amgylchedd gorau er mwyn i ddisgyblion o bob oedran a chyfnod allweddol i ddysgu a symud ymlaen yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mae arweinwyr ysgol yn cynnwys prifathrawon, dirprwy benaethiaid, prifathrawon cynorthwyol, rheolwyr busnesau, penaethiaid blwyddyn a phenaethiaid adran, sy’n ffurfio uwch dimau rheoli a thimau arwain eraill mewn ysgolion.
Mae arweinwyr ysgol yn awyddus i greu timau llwyddiannus a gyrru perfformiad er budd disgyblion. Mae'n ofynnol i ni weithredu gyda phroffesiynoldeb ac uniondeb bob amser. Rhyngddom ni, mae arweinwyr ysgol yn derbyn ystod o gyfrifoldebau penodol dros feysydd megis datblygiad y cwricwlwm, dysgu ac addysgu, addysgeg, gofal bugeiliol a diogelu plant, data a systemau ac adnoddau dynol.
Rydym hefyd yn cydweithio ag ystod o randdeiliaid y tu hwnt i gatiau’r ysgol gan gynnwys teuluoedd, awdurdodau lleol, consortia gwella ysgolion rhanbarthol a mudiadau eraill.
Gall gweithwyr addysg proffesiynol ar bob lefel ddechrau derbyn cyfrifoldebau arwain a gwneud cynnydd mewn ysgolion. Mae rolau arwain ysgolion yn darparu llwybrau gwerthfawr a boddhaus, sy’n caniatáu cyfleoedd amrywiol ac atyniadol i ddatblygu eich gyrfa yn y sector addysg.