BETH YW DIRPRWY BENNAETH?

Fel Dirprwy Benaethiaid, ein gwaith ni yw cefnogi'r prifathro trwy gyfrannu at godi safonau a chreu cyfleoedd dysgu dilys i bob dysgwr.

Rydym yn arweinwyr ymroddedig ac yn ddatryswyr problemau, bob amser yn barod i gamu mewn yn absenoldeb y pennaeth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym hefyd yn cyflawni rôl athro dosbarth sy'n caniatáu i ni cyfrannu at addysgu a dysgu a ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â dysgwyr, staff, rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol.

Fel aelodau o'r Uwch Dîm Rheoli, rydym yn hyrwyddo ac yn gweithredu ymddygiad cadarnhaol gan ddysgwyr ac yn annog datblygiad, gan ysgogi staff i ymdrechu i gyflawni'r canlyniadau gorau posib i bawb.

Rydym yn wrandawyr effeithiol ac yn mynegi barn, gan adolygu a datblygu polisïau a gweithdrefnau’r ysgol gydag anghenion pob dysgwr wrth wraidd y penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Rhaid i ddirprwy benaethiaid fod â Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy addysg gychwynnol i athrawon (AGA) a chwblhau cyfnod sefydlu'n llwyddiannus. Gallant hefyd geisio ennill cymwysterau pellach mewn arweinyddiaeth a rheolaeth i'w cynorthwyo.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

SGILIAU DYMUNOL
  • annog, cymell ac ysbrydoli disgyblion a staff
  • cyfathrebwr rhagorol
  • amyneddgar ac yn gallu arddangos disgresiwn
  • trefnydd a chynlluniwr effeithiol
  • y gallu i ysgwyddo cyfrifoldeb
  • hybu'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
  • y gallu i feddwl yn strategol
  • y gallu i wneud penderfyniadau
  • cymryd rhan mewn ymchwil
  • y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau
  • arweinydd a rheolwr effeithiol
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Ystod cyflog:
£42195
-
£81942