TELERAU AC AMODAU GWEFAN ADDYSGWYR CYMRU

Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus os gwelwch yn dda cyn defnyddio gwefan Addysgwyr Cymru.

  1. Ynglŷn â’r telerau hyn

Mae’r telerau a’r amodau defnyddio hyn (“Telerau”) yn egluro sut y gallwch ddefnyddio gwefan Addysgwyr Cymru – www.addysgwyr.cymru ac www.educators.wales – (y “Wefan”) ac unrhyw gynnwys sydd arni. 

Mae’r Telerau hyn yn gymwys rhwng:

  • Cyngor y Gweithlu Addysg (“ni” neu “ein”); a
  • chi, y person neu’r sefydliad sy’n asesu neu’n defnyddio’r Wefan (“chi” neu “eich’ ayb), fel un ai Addysgwr, Cyflogwr, Darparwr neu Ddefnyddiwr Awdurdod Addysg Lleol.

Dylech ddarllen y Telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Wefan.  Drwy ddefnyddio’r Wefan neu drwy ddynodi fel arall eich bod yn cydsynio, yr ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn.  Os ydych yn dymuno i’ch manylion gael eu cynnwys ar y Wefan, rhaid i chi gytuno i’r Telerau hyn.  Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw un o’r Telerau hyn, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan ar unwaith.

Mae’r Telerau hyn yn gymwys ar gyfer unrhyw ran o’r wefan, y modd y mae’n gweithredu, a’r cynnwys a ddarperir ar eich cyfer.

 Os hoffech dderbyn y Telerau hyn mewn rhyw fformat arall (er enghraifft: clywedol, print bras, breil), cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy ddefnyddio’r cyswllt gwybodaeth@addysgwyr.cymru

  1. DIFFINIADAU A DDEFNYDDIR YN Y TELERAU HYN

Yn y Telerau hyn, ystyr y geiriau canlynol fydd:

  •  “Addysgwr” – defnyddiwr unigol
  •  “Manylion yr Addysgwr” – manylion a/neu gynnwys a ddarperir gan Addysgwr drwy gyfrwng y wefan
  • “Cyflogwr” – ysgolion, colegau, prifysgolion, sefydliadau gwaith ieuenctid neu ddarparwyr addysg eraill sy’n hysbysebu, neu’n dymuno hysbysebu, Swyddi drwy’r Wefan
  •  “Manylion y Cyflogwr” – manylion a/neu gynnwys a ddarperir gan Gyflogwr drwy gyfrwng y Wefan
  • “Defnyddiwr Awdurdod Addysg Lleol” – unigolyn a gyflogir gan awdurdod addysg lleol
  • “Darparwr” – ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant neu ddarparwyr addysg neu hyfforddiant eraill sy’n hysbysebu, neu’n dymuno hysbysebu cymwysterau a chynigion dysgu proffesiynol i sefydliadau addysgol drwy’r Wefan "“Manylion Darparwr” – manylion a/neu gynnwys a ddarperir gan Ddarparwr drwy gyfrwng y Wefan
  •  “Gwasanaeth” – gwasanaeth hysbysebu Swyddi i Addysgwyr a/neu gynigion cymhwyster a dysgu proffesiynol i Addysgwyr neu Gyflogwyr ar lein ar y Wefan a darparu mecanwaith yn galluogi Addysgwr i wneud cais uniongyrchol i’r Cyflogwr neu i’r Darparwr
  • “Swydd” – safle cyflogaeth a hysbysebir gan Gyflogwr ar y Wefan

3. YNGLŶN Â’R WEFAN

Gweithredir y Wefan gan Gyngor y Gweithlu Addysg (“CGA”). Mae’r Wefan yn darparu gwybodaeth i bobl sy’n chwilio am yrfa ym myd addysg.  Mae hefyd yn lletya porth hyfforddi ar gyfer sefydliadau addysgol i hyrwyddo eu cynigion cymwysterau a dysgu proffesiynol a phorth swyddi ar gyfer sefydliadau addysgol ledled Cymru i uwchlwytho swyddi yn rhad ac am ddim, ac i egin ddoniau fedru ymgeisio.

4.  PWY YDYM NI A SUT I GYSYLLTU Â NI

Corff corfforaethol a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yw Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae ein prif swyddfa yng Nghyngor y Gweithlu Addysg, 9fed Llawr, Eastgate House, 35-43 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0AB.

 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Wefan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy:

  • yrru e-bost at gwybodaeth@addysgwyr.cymru

5     DRWY DDEFNYDDIO EIN GWEFAN YR YDYCH YN DERBYN YN TELERAU HYN

Drwy ddefnyddio ein Gwefan, yr ydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.  Mae i chi barhau i ddefnyddio’r Wefan yn dynodi eich bod yn cytuno i’r Telerau hyn.  Os nad ydych yn cytuno i’r Telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio’r Wefan. Yr ydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o’r Telerau hyn er gwybodaeth.

Gallwn atal neu wahardd eich mynediad i’r Wefan os nad ydych yn cydymffurfio â’r Telerau hyn neu ag unrhyw gyfraith gymwys.

 6   GWASANAETHAU

Mewn cydnabyddiaeth am i chi gytuno i gydymffurfio â’r Telerau hyn, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn cytuno i ddarparu’r Gwasanaethau i chi yn unol â’r Telerau hyn.

7    TELERAU ERAILL A ALL FOD YN GYMWYS I CHI

Mae’r Telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn gymwys ar gyfer eich defnydd o’r Wefan:

Ein Polisi Preifatrwydd a Briwsion www.addysgwyr.cymru/polisi preifatrwydd/www.educators.wales/privacypolicy.  Gweler ymhellach o dan y pennawd “Sut gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

8    GALLWN NEWID Y TELERAU HYN

Yr ydym yn diwygio’r Telerau hyn o dro i dro. Bob tro yr ydych yn dymuno defnyddio’r Wefan, gwiriwch y Telerau hyn os gwelwch yn dda er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn deall y telerau sy’n gymwys y pryd hwnnw.  Y tro diwethaf i ni ddiweddaru’r Telerau hyn oedd 1 Mehefin 2021. 

9    GALLWN NEWID, ATAL NEU WRTHOD MYNEDIAD I’N GWEFAN

Mae ein Gwefan ar gael i chi yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu fod ein Gwefan, nac unrhyw gynnwys sydd arni:

  • yn gweithio gyda phob caledwedd a meddalwedd
  • ar gael bob amser, yn ddidoriad neu’n rhydd o wallau.

Gallwn newid ein Gwefan ar unrhyw adeg.  Gallwn atal neu wrthod mynediad neu gyfyngu ar argaeledd y Wefan gyfan neu unrhyw ran ohoni am resymau busnes neu weithrediadol. Ceisiwn roi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw atal neu wrthod mynediad.

Gall Cyngor y Gweithlu Addysg bob amser wrthod darparu mynediad i’r Wefan neu wrthod darparu’r Gwasanaeth neu unrhyw ran ohono a gwahardd unrhyw ddefnyddiwr rhag defnyddio’r Wefan yn y dyfodol lle bo’n credu’n rhesymol fod Manylion yr Addysg, Manylion y Cyflogwr neu Fanylion y Darparwr yn anghywir neu’n camarwain yn fwriadol neu eu bod, ym marn Cyngor y Gweithlu Addysg:

  • Yn anghyfreithlon, yn ddigyfraith, yn anweddus, yn anllad, yn ddifenwol, yn amharu ar hawliau trydydd parti (o ba natur bynnag a chan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw hawliau eiddo deallusol)
  • Yn groes i unrhyw gyfraith, reoliadau, safonau neu godau ymarfer cymwys (er efallai nad yw cydymffurfio yn orfodol).
  • Yn niweidio enw da Cyngor y Gweithlu Addysg mewn unrhyw fodd.

Gall Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd atal neu wrthod mynediad i’r wefan os ydych yn mynd yn groes i’r Telerau hyn mewn unrhyw fodd.

10     EICH YMRWYMIADAU I NI

Yr ydych yn cytuno i’r canlynol:

  • i gydymffurfio â’r Telerau hyn ac â phob cyfraith gymwys
  • i’n hysbysu o unrhyw newidadau i’ch manylion o dro i dro neu o unrhyw anghywirdebau yn y manylion a ddarperir i ni
  • i wneud yn siŵr fod eich Manylion Addysgwr, eich Manylion Cyflogwr neu eich Manylion Darparwr a ddarparwyd drwy’r Wefan yn gywir
  • i geisio mynediad i’r Wefan yn unig er mwyn cael mynediad i’r Gwasanaeth;
  • na fydd unrhyw ddata, gwybodaeth nac unrhyw fanylion eraill a ddarperir gennych yn anllad, yn anweddus, yn ddifenwol o unrhyw berson neu fel arall yn anghyfreithlon neu’n groes I’r gyfraith o dan gyfreithiau unrhyw awdurdodaeth o’r hon y gellir cael mynediad I’r Wefan.
  •  i wirio’r holl ddata neu ddogfennau a gyflenwir i Gyngor y Gweithlu Addysg neu a uwchlwythwyd/gyflwynwyd I’r Wefan am unrhyw feirysau
  • i hysbysu Cyngor y Gweithlu Addysg unwaith y byddoch yn dymuno i’ch manylion beidio â chael eu cynnwys fel rhan o’r Wefan
  • i gydweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ym mhopeth yn ymwneud â’r Wefan neu â’r Gwasanaethau
  • i beidio â mynd yn groes, neu achosi Cyngor y Gweithlu Addysg i fynd yn groes, i’r Polisi Preifatrwydd
  1.   ADDYSGWYR

Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir gennych ar y Wefan fod yn eirwir, yn gyflawn ac yn gywir.  Os ydych wedi i chi gyflwyno gwybodaeth i Gyflogwr yn nodi eich bod wedi gwneud camgymeriad, chi sy’n gyfrifol am gysylltu â’r Cyflogwr yn uniongyrchol i gywiro’r camgymeriad. 

Byddwch yn ymwybodol y gall Cyflogwyr neu Ddarparwyr ddewis cau Swydd cyn y dyddiad a hysbysebwyd.

12        CYFLOGWYR

Rhaid i chi beidio â chyhoeddi, golygu neu ddileu Swydd a restrwyd onid oes gennych awdurdod i wneud hynny.

 Rhaid i chi beidio â chyhoeddi ar y Wefan:

  • Swyddi nad ydynt yn berthnasol i’r sector addysg yng Nghymru neu nad ydynt wedi eu cymeradwyo gan dîm Addysgwyr Cymru
  • Swyddi nas cadarnhawyd neu nad ydynt yn bodoli
  • Cynnwys sy’n camwahaniaethu: rhaid i chi beidio â datgan neu awgrymu mewn hysbyseb swydd y byddwch yn camwahaniaethu yn erbyn unrhyw un (yn ddarostyngedig i rai eithriadau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn enwedig y sawl sy’n ceisio i ysgolion a chanddynt briodoleddau crefyddol)

13     MYNEDIAD O’R TU ALLAN I’R DEYRNAS GYFUNOL

Nid ydym yn addo o gwbwl fod y Wefan yn briodol neu ar gael i’w defnyddio mewn lleoliadau y tu fas i’r Deyrnas Gyfunol. Tra gall fod mynediad i’r Wefan y tu fas i’r Deyrnas Gyfunol, nid ydym yn honni fod cynnwys sydd ar gael ar y Wefan neu drwy’r Wefan yn addas i’w ddefnyddio neu ar gael mewn mannau eraill. Os ydych yn dewis cael mynediad i’r Wefan o leoliadau y tu fas i’r Deyrnas Gyfunol yr ydych yn cydnabod eich bod yn gwneud hynny ar eich cymhelliad eich hunan a chi sy’n gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol lle bônt yn gymwys.

14    HYGYRCHEDD

Ceisiwn wneud y Wefan mor hygyrch â phosib.  Os oes gennych unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio’r Wefan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar gopa’r dudalen hon.

 15     COFRESTRU

Gall defnyddio’r Wefan olygu fod angen cofrestru, yn enwedig er mwyn cyrchu mynediad i ardaloedd o’r Wefan lle cyfyngir mynediad.

Nid oes rheidrwydd arnom ganiatáu i unrhyw un gofrestru gyda’r Wefan a gallwn wrthod, terfynu neu atal cofrestru i unrhyw un ar unrhyw adeg.

16      RHAID I CHI GADW MANYLION EICH CYFRIF YN DDIOGEL

Os ydych yn dewis, neu os darperir ar eich cyfer, enw defnyddiwr, cod adnabod, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n dulliau gweithredu er lles diogelwch, rhaid i chi drin y cyfryw wybodaeth fel gwybodaeth gyfrinachol.  Rhaid i chi beidio â’i datgelu i drydydd parti.

 Mae gennym yr hawl i ddirymu unrhyw enw defnyddiwr, god adnabod neu gyfrinair, pa un ai a ddewiswyd hwy gennych chi neu a gawsant eu dyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydym o’r farn resymol eich bod wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu unrhyw rai o’r darpariaethau o’r Telerau hyn.

Os ydych yn gwybod neu’n amau fod unrhyw un heblaw chi eich hunan yn gwybod eich enw defnyddiwr, eich cod adnabod neu eich cyfrinair, rhaid i chi ein hysbysu yn brydlon yn y cyfeiriad hwn gwybodaeth@addysgwyr.cymru.

  1.  DIOGELWCH

Fel amod defnyddio’r Wefan yr ydych yn cytuno i beidio â/ag

  • c(h)amddefnyddio neu ymosod ar ein Gwefan drwy wybyddus gyflwyno feirysau, ymwelwyr nas gwahoddwyd, llyngyr, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol (er enghraifft drwy ymosodiad sy’n esgor ar fethu cyflawni’r gwasanaeth).
  •  c(h)esio cael mynediad heb ei awdurdodi i’n Gwefan, i’r gweinydd lle caiff ein Gwefan ei storio neu i unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data sydd wedi ei gysylltu â’n Gwefan, neu
  • ymosod ar ein Gwefan drwy gyfrwng ymosodiad gwrthod gwasanaeth. Drwy fynd yn groes i’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifaduron 1990.  Yr ydym yn adrodd am unrhyw dor-cyfraith o’r fath i’r awdurdodau cynnal cyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithio gyda’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu iddynt pwy ydych chi. Yn achos tor-cyfraith o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn darfod ar unwaith.
  1. GWARCHOD RHAG FEIRYSAU

Tra gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd bob cam o’r daith gynhyrchu, nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan yn ddiogel nac yn rhydd o namau a feirysau.  Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrth-feirws drwy bob deunydd a lawrlwythir o’r we.  Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i’ch data nac i’ch system gyfrifiadurol a allasai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’n Gwefan.

Chi sy’n gyfrifol am gyflunio eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni a’ch platfformau cyfrifiadurol er mwyn cael mynediad i’n Gwefan.  Dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwarchod rhag feirws eich hunan.

  1. SUT Y GALLWCH DDEFNYDDIO DEUNYDD AR EIN GWEFAN

Ni sydd berchen neu ni yw trwyddedai pob hawl eiddo deallusol ar ein Gwefan, a’r deunydd a gyhoeddir arni.  Gwarchodir y gweithiau hynny gan gyfreithiau a chytundebau hawlfraint ledled byd.  Cedwir pob cyfryw hawl.

Gallwch lawrlwytho darnau neu argraffu un copi o unrhyw dudalen o’n Gwefan ar gyfer eich defnydd personol.  Gallwch hefyd rannu’r wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan at ddibenion yn ymwneud â’r Gwasanaethau (gan gynnwys rhannu ag eraill wybodaeth am Swyddi).  Rhaid i chi beidio ag addasu mewn unrhyw fodd y copïau papur na’r copïau digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu hargraffu neu eu lawrlwytho, a rhaid i chi beidio â defnyddio ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig unrhyw ddyluniadau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu glywedol nac unrhyw graffeg.

Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn yn rhoi hawl gyfreithiol i chi yn y Wefan nac yn y cynnwys heblaw yn unol â’r i angen i gael mynediad iddi. Yr ydych yn cytuno i beidio ag addasu, i beidio â cheisio osgoi ac i beidio â dileu unrhyw rybuddion a gynhwysir ar y Wefan na’r Cynnwys (gan gynnwys unrhyw rybuddion eiddo deallusol) ac yn enwedig, mewn unrhyw dechnoleg hawliau digidol neu dechnoleg diogelwch arall sydd wedi ei chorffori neu ei chynnwys o fewn y Wefan neu yn y cynnwys.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein Gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu gan ein trwyddedwyr.

 Os ydych yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’n Gwefan yn groes i’r Telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn darfod ar unwaith, a bydd raid i chi, yn unol â’n dewis ni, ddychwelyd neu ddifa unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi eu gwneud.

  1. GWYBODAETH AR Y WEFAN HON

Darperir y cynnwys ar ein Gwefan mewn ewyllys da ac er gwybodaeth yn unig. Gall newid yn ddirybudd ac nis bwriedir fel cyngor y dylech ddibynnu arno.  Rhaid i chi geisio eich cyngor proffesiynol neu arbenigol eich hun cyn cymryd neu ymatal rhag unrhyw gam gweithredol ar sail y cynnwys ar ein Gwefan.

Er ein bod yn ymdrechu’n rhesymol i wneud yn siŵr fod y Wefan yn gywir, yn gyfoes ac yn rhydd o namau, ni allwn addo mai felly y bydd. Nid ydym yn honni nac yn gwarantu yn ddatganedig neu yn ymhlyg, fod y cynnwys ar ein Gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfoes. Ar ben hynny, ni allwn addo fod y Wefan yn addas nac yn gymwys ar gyfer unrhyw bwrpas. Chi sy’n cynnal y risg o ddibynnu ar y wefan am unrhyw wybodaeth.

 Er ein bod yn ymdrechu’n rhesymol i ddweddaru’r wybodaeth ar ein Gwefan, nid ydym yn gwarantu:

21    NID YDYM YN GYFRIFOL AM WEFANNAU Y MAE GENNYM DDOLENNI IDDYNT

Lle bo gan ein Gwefan ddolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli’r cyfryw ddolenni fel sêl bendith gennym ni ar y gwefannau hynny y mae gennym ddolenni iddynt na chwaith ar y wybodaeth y gallwch ei chael oddi arnynt na chwaith gymeradwyaeth ar ein rhan ni ohonynt.

Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd na thros gynnwys yr adnoddau hynny ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau eraill.

  1. NID YW CYNNWYS A GYNHYRCHIR GAN DDEFNYDDWYR WEDI EI GYMERADWYO GENNYM

Mae’r Wefan hon yn cynnwys gwybodaeth a deunyddiau a uwchlwythwyd gan ddefnyddwyr eraill o’r Wefan, gan gynnwys gan Addysgwyr, Cyflogwyr a chan Ddarparwyr.  Nid yw’r wybodaeth na’r deunyddiau hyn wedi eu gwirio na’u cymeradwyo gennym ni.  Nid yw barn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein Gwefan yn cynrychioli ein barn na’n gwerthoedd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cyfryw gynnwys.

 Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am unrhyw ddeunyddiau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr cofrestredig y Wefan ac ni fyddant yn atebol mewn perthynas â chynnwys y cyfryw dduenydd.  Cyfrifoldeb llwyr y defnyddiwr cofrestredig a gynhyrchodd y cyfryw ddeunyddiau yw deunyddiau a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr cofrestredig y Wefan.

 Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymdrechu’n rhesymol i gywiro unrhyw anghywirdebau wrth dderbyn rhybudd gennych o unrhyw anghywirdebau mewn cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.

23    CYNNWYS A GYNHYRCHIR GENNYCH CHI

Eich cyfrifoldeb chi yn llwyr yw gwneud yn siŵr fod pob cynnwys a gynhyrchir gennych neu ar eich rhan ar y Wefan – gan gynnwys Manylion yr Addysgwr, Manylion y Cyflogwr a Manylion y Darparwr (fel y bo’n gymwys) – yn gywir ac yn gyflawn.

Yr ydych yn gwarantu fod unrhyw gynnwys a gynhyrchir gennych yn cydymffurfio â’r Telerau hyn ac â  phob cyfraith gymwys a chi fydd yn atebol i ni ac yn ein rhyddarbed am unrhyw gam gennnych sy’n mynd yn groes i’r warant honno. Golyga hyn mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydym yn eu dioddef o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn mynd yn groes i’r warant.

Gall Cyngor y Gweithlu Addysg wrthod prosesu unrhyw gynnwys os yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn tybio ei fod yn dramgwyddus neu’n amhriodol neu os yw’n barnu’n derfynol fod y cyfryw fanylion yn anghywir neu’n anwir.

Ystyrir unrhyw gynnwys yr ydych yn ei uwchlwytho i’n Gwefan yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol. Chi sy’n cadw pob hawl perchnogaeth ar eich cynnwys, ond mae’n ofynnol i chi ganiatáu trwydded gyfyngedig i ni ac i ddefnyddwyr eraill y Wefan, i ddefnyddio, cadw a chopïo cynnwys ac i’w ddosbarthu a’i wneud ar gael i drydydd partïon.

Chi sy’n llwyr gyfrifol am ddiogelu eich cynnwys ac am wneud yn siŵr fod gennych gopïau wrth gefn ohono.

 Yr ydych yn cytuno nad yw unrhyw gynnwys a gynhyrchir gennych neu ar eich rhan

  • yn anghyfreithlon, yn groes i’r gyfraith, yn anweddus, yn anllad, yn ddifenwol, yn amharu ar hawliau trydydd partïon (o ba natur bynnag a chan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw hawliau eiddo deallusol)
  • yn mynd yn groes i unrhyw gyfreithiau, rheoliadau, safonau na chodau ymarfer cymwys, (er y gall nad yw cydymffurfiaeth yn orfodol)
  • yn niweidio enw da Cyngor y Gweithlu Addysg na Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fodd.
  1. DIGWYDDIADAU Y TU HWNT I’N RHEOLAETH

Nid ydym yn atebol i chi os ydym yn methu cydymffurfio â’r Telerau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys, ond heb gyfyngu i, streiciau, cloi allan neu anghydfodau diwydiannol eraill; methiant systemau neu fynediad i rwydweithiau; llifogydd, tân, ffrwydriad neu ddamwain; epidemig neu bandemig.

25    EIN CYFRIFOLDEB AM GOLLED NEU DDIFROD A DDIODDEFIR GENNYCH CHI

25.1     Os ydych yn Addysgwr

Heblaw bod hynny wedi ei ddatgan gennym yn ysgrifenedig, darperir y Wefan ‘fel y mae’, heb gynrychiolaeth nac ardystiad ac yn amddifad o warant o unrhyw fath, boed hynny wedi ei fynegi neu ymhlyg.  Mae hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i’r gwarantau ymhlyg o safon ddigonol, addasrwydd i bwrpas neilltuol, diffyg tresmasu ar hawliau, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.  

Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw fodd ein hatebolrwydd i chi lle y buasai’n anghyfreithlon i beidio â gwneud hynny.  Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol a achoswyd gan ein hesgeulustod ni neu gan esgeulustod ein cyflogai, ein hasiantau, neu ein hisgontractwyr ac am dwyll neu am gamliwio twyllodrus.

Ni fyddwn yn gyfrifol i chi o dan ba amgylchiadau bynnag, am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol (mae’r tri Ymadrodd hwn yn cynnwys colled ariannol bur, colli elw (boed golled uniongyrchol neu anuniongyrchol), colli busnes, disbyddu ewyllys da ac unrhyw golled gyffelyb) sut bynnag y’u hachosir mewn perthynas â defnyddio’r Wefan neu ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill a gynhwysir yn y Wefan.

Ni fwriedir i unrhyw beth sydd ar y Wefan fod yn gynnig i ymrwymo i gytundeb.

Ni fydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am unrhyw weithredoedd gan Gyflogwr neu Ddarparwr.

25.2      Os ydych yn Gyflogwr sy’n Ddefnyddiwr neu’n Ddarparwr sy’n Ddefnyddiwr:

Yr ydym yn eithrio unrhyw amodau ymhlyg, gwarantau, cynrychiolaethau neu unrhyw dermau eraill a all fod yn gymwys i’n Gwefan neu unrhyw gynnwys arni.

Ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn cytundeb, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor-ddyletswydd statudol, neu arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi yn sgil neu’n gysylltiedig â:

  • defnydd neu anallu i ddefnyddio ein Gwefan; neu,
  • ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a arddangosir ar ein Gwe.

Yn neilltuol, ni fyddwn yn gyfrifol am:

  • golli elw, gwerthiant, busnes neu gyllid;
  • ymyrryd â llif busnes;
  • golli cynilion rhagweladwy;
  • golli cyfle busnes, colli ewyllys da neu golli enw da;
  • golli data;
  • golli cytundebau neu gontractau;
  • golli defnydd o feddalwedd neu ei lygru (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol);
  • unrhyw feirysau a uwchlwythwyd i’r Wefan gan drydydd partïon neu gan Gyflogwr neu Addysgwr;
  • unrhyw wallau neu oedi a achoswyd gennym ni neu gan drydydd parti: neu
  • unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol

sut bynnag y’i hachosir neu os yw’n gysylltiedig ym mha fodd bynnag â Thelerau Defnyddio’r Wefan.

  1. SUT Y GALLWN DDEFNYDDIO’CH GWYBODAETH BERSONOL

Mae eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol yn bwysig I ni.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych i ni yn cael ei ei thrin yn unol â’n Polisi Preifatrwydd sydd ar gael ar www.addysgwyr.cymru/polisi preifatrwydd / www.educators.wales/privacypolicy sy’n egluro pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu gennych, sut a pham yr ydym yn casglu, yn cadw, yn defnyddio ac yn rhannu’r cyfryw wybodaeth, eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â ni ac ag awdurdodau goruchwyliol os digwydd fod gennych ymholiad neu gwyn am y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.

  1. HAWLIAU YR YDYCH YN EU RHOI I NI I DDEFNYDDIO DEUNYDD YR YDYCH YN EI UWCHLWYTHO

Pan ydych yn uwchlwytho cynnwys fel Cyflogwr neu Ddarparwr i’n Gwefan, yr ydych yn caniatáu’r hawliau canlynol i ni i ddefnyddio’r cynnwys hwnnw ledled byd: trwydded anecliwsif, difreindal, drosglwyddadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, dosbarthu, ac i baratoi ohono weithiau deilliannol, arddangos a pherfformio’r cynnwys hwnnw a gynhyrchwyd gan y defnyddiwr mewn perthynas â’r Gwasnaeth a ddarparwyd gan y Wefan.

28        CYPLYSU Â’N GWEFAN

Nid ydym yn gwrthwynebu eich bod yn cyplysu yn uniongyrchol â thudalennau ar y Wefan hon ac nid oes angen i chi ofyn cennad i wneud hynny.  Nid ydym fodd bynnag yn caniatáu i dudalennau gael eu llwytho i fframau ar eich safle.

Rhaid peidio â fframio ein Gwefan ar unrhyw safle arall.

  1. TERFYNU

Gallwn derfynu ein cytundeb:

  • ar unrhyw adeg lle byddoch yn mynd yn groes i’r Telerau hyn, neu
  • ar unrhyw adeg drwy droi 7 niwrnod o rybudd ysgrifenedig i chi o’r terfynu

Gallwch derfynu’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg drwy ein hebostio.

  1. GALLWN DROSGLWYDDO’R CYTUNDEB HWN I RYWUN ARALL

Gallwn drosglwyddo ein hawliau a’n hymrwymiadau o dan y Telerau hyn i sefydliad arall.  Byddwn wastad yn dweud wrthych yn ysgrifenedig os digwydd hyn a byddwn yn gwneud yn siwr na fydd y trosglwyddo yn cael effaith ar eich hawliau o dan y cytundeb.

31        CYTUNDEB LLWYR

Mae’r Telerau hyn a’r telerau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 yn cynnwys yr holl delerau ac amodau yr ydych chi a Chyngor y Gweithlu Addysg wedi cytuno iddynt mewn perthynas â defnyddio a chael mynediad I’r Wefan.

 

  1. CYFREITHIAU PA WLAD SY’N GYMWYS AR GYFER UNRHYW ANGHYDFODAU?

Os ydych yn Addysgwr, nodwch os gwelwch yn dda fod y Telerau hyn, eu cynnwys a’u ffurfiant, yn cael eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr, fel y bo’n gymwys yng Nghymru.  Yr ydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth ecliwsif ac eithrio os ydych yn breswylydd yng Ngogledd Iwerddon gallwch hefyd ddod ag achos gerbron yng Nghogledd Iwerddon, ac os ydych yn breswylydd yn yr Alban, gallwch hefyd ddod ag achos gerbron yn yr Alban

Os ydych yn Gyflogwr neu’n Ddarparwr, mae’r Telerau hyn, eu cynnwys a’u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau cytundebol) yn cael eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr, fel y bo’n gymwys yng Nghymru.  Yr ydych chi a ninnau yn cytuno i awdurdodaeth ecliwsif llysoedd Cymru a Lloegr.