GWAITH IEUENCTID

NI YW'R GWEITHLU GWAITH IEUENCTID

Rydym yn helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau a'r hyder fel y gallant wneud gwahaniaeth i gymunedau ar draws Cymru.

Fel gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr, rydym ni yno i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i'w llais, rhannu eu syniadau, datblygu sgiliau, gwneud ffrindiau ac - yn bwysicaf oll - i gael hwyl.

Agwedd allweddol o waith ieuenctid yw'r berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a'r gweithlu gwaith ieuenctid. Trwy adeiladu hyder phobl ifanc, gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac annog eu datblygiad gyda gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.

Mae gwaith ieuenctid yn cael ei arwain gan ein pobl ifanc - mae ganddyn nhw lais yn y rhaglenni, y prosiectau a'r gweithgareddau maen nhw'n cymryd rhan ynddynt.

Mae ein gwaith yn annog pobl ifanc i fynegi eu hunain, gan ganiatáu iddynt gael llais, arddangos eu creadigrwydd a'u helpu i ddeall sut i amddiffyn eu hawliau eu hunain a hawliau eraill. Yn ogystal â hynny, mae ein swydd yn hanfodol i ddarparu lle diogel i bobl ifanc gael gafael ar wasanaethau a chefnogaeth. Beth bynnag rydym yn gwneud neu sut rydym yn ei wneud, rydym yn help llaw ac yn fodel rôl pwysig.

Mae gwaith ieuenctid yn agored i bawb rhwng 11 a 25 oed ac yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Er fod gennym deitlau swydd a chyfrifoldebau gwahanol, rydym yn rhannu diddordeb cyffredin - i sicrhau bod pobl ifanc bob amser wrth wraidd popeth a wnawn.

Gemma Mark
Uwch Weithiwr Ieuenctid
"Rydw i wedi cael fy ysbrydoli pan fydd person ifanc yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor barod am her ydyn nhw - hyd yn oed y bobl ifanc fwyaf di-hyder. Rwyf wrth fy modd yn gwylio eu hyder yn tyfu. Mae'n gwneud i mi fod eisiau gwthio fy ffiniau a rhoi cynnig ar bethau newydd hefyd."
ADNODDAU DEFNYDDIOL
Dysgwch fwy am yr hyn y mae'n ei olygu i weithio mewn gwaith ieuenctid yma