BETH YW GWEITHIWR IEUENCTID?

Rydym am helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau personol a chymdeithasol sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym yn cymryd yr amser i wrando ar bobl ifanc yn siarad am eu hoff a'u cas bethau, eu teimladau a'r problemau maent yn eu hwynebu - nid yn unig oherwydd mae hyn yn rhan allweddol o'r swydd, ond oherwydd mae hyn yn bwysig i ni. Mae ein cefnogaeth yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â ffrindiau a phobl newydd a magu hyder.

Nid oes un diwrnod yr un peth mewn gwaith ieuenctid. Mae amrywiaeth y gwaith yn ei wneud yn bleserus ac yn ddiddorol. Rydym yn gweithio gydag ystod o asiantaethau ac rydym yn ymwneud â gwahanol fathau o brosiectau. Gall rhain amrywio o waith amgylcheddol, prosiectau celfyddydau a diwylliant i chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.

Beth bynnag rydym yn gwneud, rydym yn ei wneud gyda thrugaredd

Gwelir ein brwdfrydedd tuag at gefnogi pobl ifanc yn ein profiad a'n hymrwymiad i'n datblygiad proffesiynol ein hunain. Gall y rôl amrywio ac weithiau bydd angen i ni weithio ar fenter ein hun neu oruchwylio staff cymorth a gwirfoddolwyr. Rydym yn dilyn polisïau ein sefydliad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob person ifanc a grŵp cymunedol.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Fel rheol, dylai gweithiwr ieuenctid fod wedi ennill gradd mewn pwnc a gydnabyddir yn broffesiynol ee BA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Dylai'r cymwysterau hyn cael eu cydnabod gan Gydbwyllgor Negodi trwy'r Pwyllgor Safonau Addysg Hyfforddiant (Cymru).

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

SGILIAU DYMUNOL
  • bod yn hyderus wrth arwain tîm
  • cyfathrebwr rhagorol
  • y gallu i weithio tuag at dargedau a'u cyflawni
  • y gallu i ddarparu gwasanaeth o safon
  • ymroddedig i'ch dysgu eich hun
  • ymroddedig a gwydn
  • wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Gweithiwr Ieuenctid Profiadol:
£25000
-
£30000