Latest Professional Learning

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (Academi Arweinyddiaeth) yn elfen ganolog o'r tirlun addysg yng Nghymru. Mae'r Academi Arweinyddiaeth yn cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws system addysg Cymru. Gan weithredu fel arweinydd agweddau, mae'r Academi Arweinyddiaeth yn ymdrechu i ddod ag eglurder a chydlyniaeth i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rydym yn cynnig cyrsiau mewn hyfforddiant i athrawon, addysg a gwaith ieuenctid a chymunedol, mae Met Caerdydd yn Brifysgol gadarnhaol, gyfeillgar â ffocws rhyngwladol sydd ag enw da am weithio gyda diwydiant a'r proffesiynau. Mae ein graddau sy'n canolbwyntio ar ymarfer ac a gydnabyddir yn broffesiynol wedi'u strwythuro i ddiwallu'ch anghenion a disgwyliadau cyflogwyr. Dewch i ymuno â ni ym Met Caerdydd. Dyma brifddinas ffeindio eich lle. Dyma eich prifddinas chi.

Gwasanaethau Governors Cymru Ltd

Gwasanaethau Governors Cymru Ltd

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn wasanaeth cefnogi annibynnol, unigryw yng Nghymru sydd yn darparu amrediad o wasanaethau ar gyfer llywodraethwyr ysgolion. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant ysgolion effeithiol fel bod pob llywodraethwr gwirfoddol yn cael cefnogaeth dda i gyflawni eu cyfrifoldebau niferus.

Prifysgol Bangor University

Prifysgol Bangor University

Cyfleoedd dysgu ac ymchwil dwyieithog rhagorol mewn lleoliad arbennig. Prifysgol Bangor yw'r lle delfrydol i chi gyflawni eich potensial. Cewch ddilyn cwrs israddedig neu ôl-raddedig ymarferol, seiliedig ar ymchwil ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon (CaBan Bangor) neu mewn maes cysylltiedig ag Addysg. Rydym hefyd yn cynnig dysgu proffesiynol i athrawon.

Prifysgol De Cymru

Prifysgol De Cymru

Mae gan Brifysgol De Cymru (PDC) hanes hir o ddarparu cyrsiau o safon sy'n datblygu cenedlaethau o athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol. Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau sy'n adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory. Os ydych chi'n gwerthfawrogi'r ochr ymarferol addysg, yn ogystal â'r theori, mae PDC i chi.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)

Gan elwa ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o addysg ar draws yr ystod oedran, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig rhaglenni i addysgwyr ar bob cam yn eu bywydau proffesiynol - o'r darpar athro i'r arweinydd addysgol mwy profiadol. Mae ein tri llwybr i addysgu - mae'r BA Addysg Gynradd israddedig a'r cymwysterau TAR Cynradd ac Uwchradd - yn boblogaidd iawn ac rydym yn cefnogi mwy na 350 o fyfyrwyr i gymhwyso'n athrawon bob blwyddyn.

Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru

Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru

Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (CGA) yw'r gwasanaeth gwella ysgolion ar gyfer y pum awdurdod lleol (ALl) yn Ne-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen). Gan weithio gyda'n partneriaid allweddol, ein bod yw trawsnewid deilliannau addysgol a chyfleoedd bywyd i'r holl ddysgwyr ledled De-ddwyrain Cymru.

Canolfan materion rhyngwladol Cymru

Canolfan materion rhyngwladol Cymru

Rydym yn ysbrydoli pobl i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang fel y gall pawb yng Nghymru gyfrannu at greu byd tecach a heddychlon. Rydym yn ennyn diddordeb pobl mewn materion byd-eang ac yn datblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd y materion perthnasol hyn i'n bywydau ni i gyd. Rydym yn datblygu sgiliau a hyder pobl i ystyried gwahanol safbwyntiau ac yna i weithredu yn wybodus. I'r perwyl hwn, rydym am i bawb yng Nghymru deimlo y gallant wneud gwahaniaeth ynglŷn â'r pryderon cyffredin hyn.

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe

Mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe yn adran arloesol, ddeinamig a arweinir gan ymchwil. Mae ein rhaglenni'n adeiladu ar ein hymchwil ardderchog, ein partneriaethau rhyngwladol urddasol a chydweithrediadau â gwasanaethau addysg rhanbarthol. Caiff myfyrwyr eu hymdrochi mewn profiadau addysgol perthnasol ac eang. Maent yn datblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn partneriaeth â'n rhwydwaith helaeth o ddarparwyr addysg, trwy bortffolio amrywiol o raglenni israddedig

ERW

ERW

Mae ERW yn un o bedwar consortiwm addysg rhanbarthol yng Nghymru. Ei fwriad yw darparu un gwasanaeth gwella ysgolion cyson, integredig a phroffesiynol ledled pedwar awdurdod lleol. (Abertawe, Powys, Sir Gar, Sir Penfro) Mae'r model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru wedi'i seilio ar weledigaeth o gonsortia rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion yn gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain a chydlynu'r gwelliant ym mherfformiad ysgolion ac yn addysg pobl ifanc.

GwE - Dysgu. Cydweithio. Llwyddo.

GwE - Dysgu. Cydweithio. Llwyddo.

Dysgu. Cydweithio. Llwyddo. GwE yw Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru sydd yn gweithio yn gwbl ddwyieithog ochr yn ochr â ac ar ran Awdurdodau Lleol Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn i ddatblygu ysgolion rhagorol ar hyd a lled y rhanbarth. Mae ein Cynnig Proffesiyniol wedi ei deilwrio i ymateb i anghenion holl weithlu ein ysgolion gyda ffocws ar y daith diwygio.

Youth Cymru

Youth Cymru

Mae Youth Cymru yn elusen gwaith ieuenctid o bwys sy'n gweithredu yng Nghymru gyfan. Rydym wedi bod yn gwasanaethu anghenion pobl ifanc yng Nghymru ers dros 83 mlynedd. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda'n haelodau a sefydliad arall sy'n wynebu ieuenctid i ddarparu cyfleoedd, prosiectau a rhaglenni unigryw, arloesol sy'n newid bywyd, gan wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru.