ERW

ERW
Regional Consortia
EIN CYFEIRIADAU:
  • ERW
  • Carmarthen
  • Carmarthenshire
  • SA31 3EQ
Amdanom Ni

Mae ERW yn un o bedwar consortiwm addysg rhanbarthol yng Nghymru. Ei fwriad yw darparu un gwasanaeth gwella ysgolion cyson, integredig a phroffesiynol ledled pedwar awdurdod lleol. (Abertawe, Powys, Sir Gar, Sir Penfro)

Mae'r model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru wedi'i seilio ar weledigaeth o gonsortia rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion yn gweithio ar ran awdurdodau lleol i arwain a chydlynu'r gwelliant ym mherfformiad ysgolion ac yn addysg pobl ifanc.

NODAU ERW

  1. Gwella ansawdd yr arweinyddiaeth a'i heffaith ar ddeilliannau 
  2. Gwella ansawdd y profiadau addysgu a dysgu, a'u heffaith ar ddeilliannau 
  3. Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad, cefnogi dysgwyr agored i niwed, a sicrhau bod pob dysgwr yn gwireddu ei botensial 
  4. Darparu ymyrraeth, her a chymorth pwrpasol ac o ansawdd uchel i ysgolion
  5. Cyfathrebu mewn modd effeithiol â'r holl randdeiliaid

Cynllun Busnes

Mae cynllun busnes ERW yn gyson â dyheadau ac amcanion galluogi Cenhadaeth ein Cenedl, ac yn eu hadlewyrchu, gan hefyd adlewyrchu blaenoriaethau lleol a rhanbarthol ar yr un pryd, sef:

  • Datblygu a chyflwyno cwricwlwm trawsnewidiol
  • Datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel
  • Creu arweinwyr ysbrydoledig, a'u hwyluso i gydweithredu er mwyn gwella safonau
  • Creu ysgolion cryf a chynhwysol sy'n ymrwymedig i gydraddoldeb a llesiant
  • Datblygu prosesau cadarn o ran asesu, gwerthuso ac atebolrwydd, sy'n cefnogi system sy'n hunanwella