Os yr ydych am gymryd y cam cyntaf neu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa addysg, Addysgwyr Cymru yw'r lle i chi gael mynediad i wybodaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol i'ch tywys yno.

 

Ble bynnag yr ydych ar eich taith, rydym ni yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru.

 

Nid yw gweithio ym myd addysg bob amser yn hawdd, ond mae bob amser yn werth chweil. Gwyliwch yma i weld pam:

SUT MAE ADDYSGWYR CYMRU'N GWEITHIO
Cofrestrwch i ddechrau chwilio am swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi heddiw, a pharatowch i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yfory.
Sut mae'n gweithio i...
Ymunwch ag Addysgwyr Cymru

Crëwch gyfrif neu cofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfrif FyCGA presennol.

Dywedwch wrthym pwy ydych chi

Crëwch eich proffil. Gadewch i gyflogwyr wybod am yr hyn rydych chi’n frwdfrydig amdano, eich uchelgeisiau, a beth sy'n eich cymell.

Rhannwch eich sgiliau a'ch profiadau

Crëwch neu lanlwythwch eich CV – gwnewch i'ch hun sefyll allan a dangoswch pam mai chi yw'r person gorau ar gyfer y swydd.

Dewch o hyd i'ch swydd nesaf

Chwiliwch am swyddi yn eich sector neu heriwch eich hun i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cymerwch y naid

Cyflwynwch eich proffil a'ch dogfennau ategol – mae ein system ymgeisio hawdd ei defnyddio yn tynnu'r straen allan o ymgeisio am eich swydd ddelfrydol.

Arhoswch un cam ar y blaen

Mae addysg yn daith gydol oes – porwch cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau wrth i chi aros i glywed nôl!

Ymunwch ag Addysgwyr Cymru

Crëwch gyfrif gyda ni.

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Crëwch eich proffil yn barod i hysbysebu'ch cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Ychwanegwch wybodaeth fanwl at eich proffil

Cyrraeddwch dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA a'r rheini sy'n ystyried ymuno â'r sector addysg yng Nghymru.

Derbyn ymholiadau

Byddwch yn cael eich darganfod gan bobl sy'n defnyddio platfform Addysgwyr Cymru i chwilio am hyfforddiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr.

Cofrestrwch ddysgwyr!

Ehangwch eich cyrhaeddiad a gwella ansawdd y gweithwyr proffesiynol sy'n cofrestru yn eich rhaglenni.

Cadwch eich gwybodaeth yn gyfredol

Diweddarwch Addysgwyr Cymru yn rheolaidd wrth i'ch cynigion newid a datblygu dros amser.

Ymunwch ag Addysgwyr Cymru

Crëwch gyfrif neu cofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfrif FyCGA presennol.

Dywedwch wrthym pwy ydych chi

Crëwch eich proffil yn barod i hysbysebu'ch swyddi gwag ac i hyrwyddo'ch sefydliad fel cyflogwr o ddewis. 

Rhannwch eich swyddi gwag yn rhad ac am ddim

Cyrraeddwch dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA a'r rheini sy'n ystyried ymuno â'r sector addysg yng Nghymru.

Derbyn ceisiadau

Caniatewch i ymgeiswyr gwneud cais trwy blatfform Addysgwyr Cymru neu'n uniongyrchol trwy'ch sianeli presennol.

Lluniwch rhestr fer o'ch hoff ymgeiswyr

Cymharwch a lluniwch rhestr fer o geisiadau i gyd mewn un lle trwy blatfform Addysgwyr Cymru.

Penodwch eich gweithiwr nesaf!

Ehangwch eich tîm o addysgwyr rhagorol.

Mae Addysgwyr yng Nghymru yn gweithio ar draws ystod eang o sefydliadau:

PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?
Serch ein bod yn genedl fechan, mae ein dulliau arloesol a'n huchelgeisiau yn gwneud inni sefyll allan.
  • Mae gan Gymru system addysg o safon fyd-eang ac mae ein cwricwlwm newydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y byd.
  • Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cymru yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i chi weithio ynddynt.
  • Mae gennym hanes cyfoethog, ffordd fywiog o fyw ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth.

 

  • Mae addysg yng Nghymru yn yrfa ac yn alwedigaeth, sydd yn eich galluogi i symud ymlaen wrth gael effaith gadarnhaol ar eraill.
  • Mae addysgwyr yng Nghymru yn mwynhau gyrfaoedd gwobrwyol a boddhaus, yn gyllidol ac yn bersonol.
  • Mae ein dwyieithrwydd hefyd yn gwneud system addysg Cymru a'n dysgwyr yn unigryw.

 

 

Gyda'n gilydd, fe adeiladwn weithlu addysg amrywiaethol sy'n cynrychioli Cymru gyfan yn well. Ydych chi'n credu gallwch chi ein helpu i wireddu hyn?

CENHADAETH EIN CENEDL
Ni fu addysg erioed yn bwysicach: er mwyn adeiladu uchelgais, annog dysgu gydol oes a chymhwyso dysgwyr â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn cymdeithas sydd yn gyflym yn newid.

I gyflawni safonau uwch o lythrennedd a rhifedd

I fod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog

I dyfu’n ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar yng Nghymru

Mae addysg yn daith gydol oes ac felly nid yw cenhadaeth ein cenedl yn aros o fewn gatiau'r ysgol. 

Ni allwn godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad heb wella mynediad i wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, sicrhau bod pob dysgwr mewn sefydliadau addysg bellach yn cael eu cefnogi gyda chostau byw, a bod digonedd o gyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn i bobl ddysgu a datblygu sgiliau trwy gydol eu gyrfaoedd.

Rydym yn annog pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), ac iaith Gymraeg i ddilyn gyrfaoedd yn y sector addysg er mwyn amrywio ein gweithlu.

Mae hyn i gyd yn dibynnu ar adeiladu gweithlu o weithwyr proffesiynol addysg ymroddedig a chryf sydd yn gallu helpu dysgwyr i anelu'n uchel a chyflawni eu nodau. Ai chi yw'r person hwn?