Gwasanaethau Governors Cymru Ltd

Governors Cymru Services Ltd
Private Training Provider
EIN CYFEIRIADAU:
  • Gwasanaethau Governors Cymru Ltd
  • Cardiff
  • Caerdydd
  • CF23 8RS
Amdanom Ni

Mae Gwasanaethau Governors Cymru Cyf yn wasanaeth cefnogi cenedlaethol, sydd yn darparu amrediad o gefnogaeth i ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant effeithiol, arweiniad, mewnwelediad ac atebion i gwestiynau ar lwodraethiant ysgol.  Mae gan Jane Morris a Samantha MacNamara brofiad helaeth o fframwaith deddfwriaethol llywodraethiant ysgolion ac maen nhw wedi cynghori a chefnogi nifer o lywodraethwyr, clercod, Awdurdodau Lleol a Chonsortia Rhanbarthol ar rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu dros y blynyddoedd.

 

Rydym yn cynnig pecyn yn seiliedig ar danysgrifiad sydd yn cynnwys mynediad i gyfoeth o wybodaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion, fel eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a’ch bod yn gydsyniol, yn ogystal ag arbed amser i chi a darparu gwerth ardderchog.  Mae hyn yn cynnwys llinell gefnogi, gwefan hawdd ei defnyddio, canllawiau ar-lein o ansawdd uchel, modiwlau e-ddysgu, cyngor a gwybodaeth am adnoddau, e-fwletinau a sesiynau briffio a llawer mwy.  Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael hefyd.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yma - http://governors.cymru/tanysgrifiadau/

 

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn cynnig tawelwch meddwl bod gan gyrff llywodraethu fynediad i’r wybodaeth y maen nhw ei hangen i gyflawni eu rolau yn effeithiol, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau newydd – does yna’r un cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach! Ffoniwch ni i drafod neu anfon ebost 01443 844532 / support@governors.cymru

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am ddod yn llywodraethwr edrychwch ar: http://governors.cymru/dod-llywodraethwr/