Latest Professional Learning
Parentkind
Ni yw'r unig ddarparwr hyfforddiant ysgol sy'n awdurdod ar lais rhieni. Wedi'i gynllunio ar gyfer pawb sy'n gyfrifol am gyfranogiad rhieni, ym mhob math o ysgolion, rydym yn cynnig: -Gweithdai a dosbarthiadau meistr wedi'u hachredu gan DPP ar gyfer cyfranogiad rhieni -Pecyn pwrpasol HMS a hyfforddiant Opsiynau ar-lein a mewnol -Dewiswch ystod o opsiynau hyblyg i weddu i'ch union anghenion hyfforddi.
Gyrfa Cymru
Gyrfa Cymru yw'r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd dwyieithog i bob oedran ar gyfer Cymru. Mae ein Cynghorwyr Gyrfa â chymwysterau proffesiynol yn helpu unigolion i ddod yn fwy effeithiol wrth reoli a chynllunio datblygiad eu gyrfa yn llwyddiannus. Mae ein Tîm Cwricwlwm yn darparu ymgynghoriaeth, adnoddau a dysgu proffesiynol a'r rhai sy'n cefnogi pobl ifanc â Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith.
BE.Xcellence
Nod BE.Xcellence yw codi cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn Addysg. Rydym yn darparu rhwydwaith cynorthwywyr addysgu pwrpasol o'r enw, (TAN) i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol cynorthwywyr addysgu Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Cymorth Allgymorth Ecsema
Mae ecsema yn aml yn cael ei gamddeall fel croen coslyd yn unig, ond gall gael effaith enfawr ar fywyd person ifanc. Mae Cymorth Allgymorth Ecsema wedi datblygu animeiddiad hyfforddi staff ysgolion uwchradd rhad ac am ddim 'Cefnogi Pobl Ifanc ag Ecsema' trwy weithio gyda phobl ifanc, dermatolegwyr ac arbenigwyr addysg. Edrychwch ar ein proffil i ddarganfod mwy.
New Directions Addysg
Mae New Directions yn arwain y farchnad o ran darparu hyfforddiant i'r sector addysg. Gyda dros ddau ddegawd o brofiad, rydym yn deall anghenion hyfforddi'r gymuned addysg ac wedi datblygu portffolio helaeth o gyrsiau.
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol
Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad byw a phroffesiynol drwy hwb dysgu ac adnoddau proffesiynol sydd â safbwynt Cymreig o ran codi ymwybyddiaeth amlddisgyblaethol o hiliaeth, wrth i ni weithio gyda'n gilydd yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Prifysgol Wrecsam
Mae rhaglen MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (JNC) yn cynnig cyfle unigryw i ennill cymhwyster JNC mewn gwaith ieuenctid proffesiynol, sy'n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghymru, ac i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn y DU ac mewn mannau eraill. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr fyddai'n hoffi ennill cymhwyster proffesiynol JNC, ond sydd, efallai, â Gradd Bagloriaeth mewn pwnc arall.
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy
Ni yw Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy ac rydym yma ar dy gyfer, yn ysgwydd i bwyso arni, yn glust i wrando pwy bynnag wyt ac o ble bynnag yr wyt yn dod. Pam na ei i fan diogel yn agos atat lle medri ymlacio a chael hwyl. Os wyt yn edrych am rywbeth i'w wneud, beth am ddod draw i un o'n canolfannau ieuenctid llawn-amser neu gymryd rhan yn un o'n prosiectau? Bydd ein staff croesawgar yn hapus i dy helpu, cefnogi a'ch cynghori a thrin dy anghenion unigol.
Technocamps
Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd trwy ein rhaglen Cyfoethogi STEM ac ysgolion cynradd trwy ein rhaglen Playground Computing. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon i'w paratoi at yr heriau o ddarparu amgylchedd technegol a deinamig. Mae ein hymrwymiad i addysg gyfrifiadurol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Rydym yn darparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i bobl mewn cyflogaeth, ynghyd â chyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu gydol oes.
Pitman Training Swansea
Ein hamcan cyson yn Pitman Training yw cynnig hyfforddiant proffesiynol o ansawdd uchel sydd nid yn unig yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol yr ydych yn eu chwilio ar gyfer, ond hefyd yn hyblyg ac wedi'i neud yn benodol i ffitio o gwmpas ymrwymiadau a gofynion cyflym ffordd o fyw heddiw. Rydym yn falch iawn o weld pobl yn cyflawni ac yn llwyddo ar ôl cwblhau eu hyfforddiant gyda ni. Mae gennym gysylltiadau cyflogaeth dda wrth ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol drwy'r amser.
Taith
Rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu yw Taith, sy'n creu cyfleoedd i deithio, gwirfoddoli, dysgu a chael profiadau all newid bywydau. Mae cyfleoedd ariannu ar gael i ddysgwyr a staff o sectorau Ysgolion, Addysg Ieuenctid, AB a VET, Addysg Oedolion ac Addysg Uwch.
Cwmni Urdd Gobaith Cymru
Rydym yn darparu Prentisiaethau Chwaraeon, Awyr Agored, Gwaith Ieuenctid a Gofal Plant, yn ogystal â darpariaeth sgiliau hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw i feithrin gweithlu hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl i ddysgu, i ddatblygu'n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.