Latest Professional Learning

Itec Training Solutions Limited
Rydym ni yn un o brif ddarparwyr sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru. Rydym yn cefnogi dysgwyr a chyflogwyr drwy Hyfforddeiaethau, Sgiliau Cyflogadwyedd, Prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru, a Kickstart. Mae ein ethos yn syml. Rydym yn helpu unigolion i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd drwy baru eu sgiliau â sgiliau cyflogwyr lleol. Alinio'r cyflenwad a'r galw fel hyn yw'r unig ffordd o sicrhau bod ein rhaglenni yn ystyrlon, yn effeithiol, yn werthfawr ac yn gynaliadwy i unigolion a chyflogwyr.

ACT
Wedi'i sefydlu yn 1988, mae gennym beth wmbredd o brofiad mewn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gyfer unigolion a chyflogwyr yng Nghymru. Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddiant a chymwysterau sydd wir yn helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau masnachol byr.

Panda Education and Training Ltd
Rydym yn angerddol am godi safon yr addysgu, hyfforddiant ac asesu mewn addysg ôl-16. Rydym yn darparu datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel ac atyniadol ar gyfer tiwtoriaid, hyfforddwyr ac aseswyr. Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar ymarferwyr ôl-16 a gwaith, gan wella eu sgiliau addysgu, hyfforddiant ac asesu. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau Dysgu a Datblygu a gweithdai pwrpasol gan gynnwys Aseswr, IQA, cymwysterau Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant. Rydym yn ddwyieithog.

Coleg Gwent
Fel un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru, rydym yn goleg AB cynhwysfawr ac amrywiol, gyda 5 campws ym Mrynbuga, Glynebwy, Crosskeys, Casnewydd a Chwmbrân. Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser, rhan amser, addysg uwch, e-ddysgu a phrentisiaethau ar gyfer bob lefel. Felly, pa un ai eich bod yn cychwyn eich taith yn y sector addysg, yn newid gyrfa, eisiau gwella eich set sgiliau, neu'n dychwelyd at addysg ar ôl ychydig o flynyddoedd, byddwch yn siŵr o lwyddo yn Coleg Gwent.

Safonau Addysg Hyfforddiant
Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru yw'r Corff Statudol neu Reoleiddio Proffesiynol (PSRB) ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae ETS Cymru yn cynnal cymeradwyaeth broffesiynol sy'n sicrhau hyfforddiant Gwaith Ieuenctid ar ran y Cyd-bwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r JNC yn negodi cyflogau a thelerau ac amodau ar gyfer gweithwyr ieuenctid ac yn gosod y lefelau cymwysterau. Mae eich cymhwyster JNC yn cael ei gydnabod ledled y DU ac Iwerddon.

Coleg Penybont
Sefydliad Addysg Bellach aml ei wobrau yn ne Cymru yw Coleg Penybont, sy'n cefnogi dros 7,500 o fyfyrwyr bob blwyddyn ar draws cyrsiau llawn amser a rhan amser, cymwysterau Addysg Uwch a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.

Coleg Sir Benfro
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn helpu pobl i ennill y cymwysterau sydd eu hangen i addysgu mewn lleoliadau ôl-16, mae Coleg Sir Benfro yn fan cychwyn gwych i'r rheini sydd newydd gychwyn ar eu taith addysgu, yn ogystal â chynnig datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr profiadol. Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr profiadol, gyda mynediad i'r adnoddau addysgu diweddaraf, a byddwch chi'n gorffen eich cymhwyster gyda'r wybodaeth a'r hyder i allu addysgu mewn amrywiaeth o leoliadau ôl-16.

Coleg y Cymoedd
Mae dros 10,000 o ddysgwyr yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd bob blwyddyn gyda safleoedd yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae'r Coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau llawn amser a rhan amser o Lefel Mynediad i Radd mewn dros 15 o feysydd cwricwlwm. Gan weithio mewn partneriaeth â mwy na 800 o gyflogwyr, mae tîm Gwasanaethau Busnes y Coleg yn cynnig ystod eang o brentisiaethau a phecynnau hyfforddiant masnachol wedi'u teilwra.

Young Enterprise
Mae Young Enterprise, sy'n adnabyddus am ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus o ansawdd uchel ar Addysg Ariannol i athrawon, yn frwd ynglŷn â darparu'r wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen ar athrawon ac addysgwyr i helpu pobl ifanc i lwyddo.

Consortiwm Canolbarth y De
Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD) yn Wasanaeth Addysg ar y Cyd i bum awdurdod lleol, sef: • Pen-y-bont ar Ogwr • Caerdydd • Merthyr Tudful • Rhondda Cynon Taf • Bro Morgannwg Mae'r Consortiwm wedi'i gomisiynu gan, ac yn gweithredu ar ran y pum awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth gwella ysgolion sy'n herio, monitro ac yn cefnogi ysgolion i godi safonau.

Grŵp Llandrillo Menai
Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'n cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn a siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd.

ITEC Abertawe
Ni yw Abertawe ITeC! Rydym yn dîm bach tyn sy'n gweithio gyda'n gilydd i ddarparu hyfforddiant a Gwasanaethau TG o ansawdd yng Nghymru. Er ein bod wedi ein lleoli yn Abertawe, rydyn ni'n cyflwyno prentisiaethau ledled De Cymru gan gynnwys Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro - rydyn ni hyd yn oed wedi eu cyflwyno yng Ngorllewin a Gogledd Cymru!