Consortiwm Canolbarth y De

Central South Consortium
Regional Consortia
EIN CYFEIRIADAU:
  • Consortiwm Canolbarth y De
  • Canolfan Menter y Cymoedd
  • Abercynon
  • Rhondda Cynon Taf
  • CF45 4SN
Amdanom Ni

Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD) yn Wasanaeth Addysg ar y Cyd i bum awdurdod lleol, sef:

Mae'r Consortiwm wedi'i gomisiynu gan, ac yn gweithredu ar ran, y pum awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth gwella ysgolion sy'n herio, monitro ac yn cefnogi ysgolion i godi safonau.

Gweledigaeth graidd CCD yw ‘Grymuso Ysgolion i Wella Deilliannau i Bob Dysgwr’ gan ddatblygu galluedd ysgolion yn y rhanbarth, i arwain gwelliant trwy gefnogi athrawon ac arweinwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Her Canol De Cymru (HCDC) yw partneriaeth yr holl ysgolion a lleoliadau ar draws rhanbarth CCD yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu system sydd yn gwella ei hun.

Dyluniwyd y model HCDC i fod yn:

  • gyson ar draws y rhanbarth
  • arweinir gan ysgolion
  • wedi’i lywio gan wybodaeth flaenorol o system ysgol sydd yn gwella ei hun
  • canolbwyntio ar ddarparu gwerth am arian
  • ymatebol i anghenion newidiol ysgolion.

Mae HCDC yn cynnwys nifer o gydrannau sydd yn cefnogi system ysgol sydd yn gwella ei hun. Chwaraea bob cydran rôl allweddol wrth sicrhau bod pob ysgol a lleoliad yn y rhanbarth yn gallu cael mynediad at ddysgu proffesiynol (DP) a chefnogaeth.

Dylai ysgolion a sefydliadau ymgysylltu â’r cydrannau a’r gweithgareddau DP sy’n gweddu i’w blaenoriaethau gwella ysgolion nhw orau.

Caiff y model HCDC a’i gydrannau unigol eu gwerthuso a’u mireinio yn flynyddol, gan sicrhau bod anghenion ysgolion yn y rhanbarth a’r system ehangach yn cael eu hystyried.

Caiff yr agenda diwygio cwricwlwm ei hintegreiddio ar draws HCDC, gan gynnwys arweinwyr MDPh fel ymarferwyr arweiniol. Diffinnir y cydrannau o fewn dau brif faes:

  • Cydweithrediadau dysgu proffesiynol rhanbarthol
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol

Mae hyn yn cydnabod ffocws a phwrpas gwahanol y cydrannau a'r gweithgareddau yn y model. Caiff gweithgareddau DP CCD eu gwerthuso gan ddefnyddio model Kirkpatrick.

Am fwy o wybodaeth am HCDC cliciwch yma