ACT

ACT
Private Training Provider
EIN CYFEIRIADAU:
  • ACT
  • East Tyndall Street
  • Caerdydd
  • CF24 5ET
USEFUL LINKS:
Amdanom Ni

Wedi'i sefydlu yn 1988, mae gennym beth wmbredd o brofiad mewn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gyfer unigolion a chyflogwyr yng Nghymru.

Yn ACT, rydym i gyd yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu gwych - ac mae pob un o’r 372 ohonom yn dod i'r gwaith bob dydd i wneud hynny.

Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddiant a chymwysterau sydd wir yn helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial. O Hyfforddeiaethau, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a Chyrsiau Masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb a’r peth gorau yw, ariennir y rhan fwyaf o’n hyfforddiant yn llawn.

P'un a ydych yn Athro, yn Gynorthwyydd Addysgu neu'n staff cymorth allweddol yn y sector addysg, mae cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach yn eich rôl bresennol gyda'n cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Gallwch weld rhai o'r llwybrau niferus sydd ar gael isod:

  • Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (STLS)
    Datblygwch y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cymorth ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion anghenion arbennig.
     
  • Cymorth Dysgu
    Datblygwch y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymhwysedd angenrheidiol i gefnogi disgyblion yn well a'u hysgogi i gyflawni eu nodau ar gyfer y dyfodol. Gan gynnwys ystod o gymwysterau sydd â'r nod o gefnogi llythrennedd, rhifedd, iaith a TGCh.
     
  • Cyngor ac Arweiniad
    Datblygwch y sgiliau a'r wybodaeth arbenigol sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc mewn swydd ymgynghorol.
     
  • Dysgu a Datblygu (L&D)
    Datblygwch sut rydych chi'n hwyluso dysgu yn eich ystafell ddosbarth ar hyn o bryd i wella eich dulliau cyflwyno yn y dyfodol, a chreu gwersi mwy effeithiol.
     
  • Gwaith Chwarae
    Mae pob plentyn yn ffynnu drwy chwarae. Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi hwyluso plant yn y ffordd orau i greu ac archwilio eu profiadau chwarae eu hunain. Addas i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant rhwng 4-16 mlwydd oed.
     
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD)
    Ewch ati i feithrin gwybodaeth sylfaenol am Fframwaith Ymsefydlu newydd Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a chodi ansawdd eich darpariaeth gofal plant. Addas i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant o dan 8 mlwydd oed.
     
  • Dylunio Dysgu Digidol
    Byddwch yn dechnegol gyda'ch addysgu! Dysgwch sut i integreiddio dysgu digidol yn eich ystafell ddosbarth.
     
  • DEFNYDDWYR TG: Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
    Dysgwch sut i ddarparu sesiynau wedi’u gwella’n ddigidol yn unol â Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru.
     
  • Rheoli
    Datblygwch eich sgiliau arwain a rheoli gyda'n cymwysterau achrededig ILM.
     
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
    Ewch ati i wella eich gwybodaeth am afiechydon meddwl a'u hymyriadau, datblygu dealltwriaeth o strategaethau cymorth cyntaf priodol, a magu hyder wrth helpu pobl ifanc sy'n profi problem iechyd meddwl.
     
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
    Wedi'i anelu at unigolion neu grwpiau sy'n gyfrifol am les plant mewn lleoliad proffesiynol, bydd ein cymhwyster Cymorth Cyntaf Pediatrig yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi ddefnyddio cymorth cyntaf mewn sefyllfa bywyd go iawn.
     
  • Diogelu Plant a Phobl Ifanc
    Bydd y cymhwyster hwn yn gwella eich gwybodaeth am sut i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn y gweithle, yn ogystal â sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon a godwyd ynghylch lles person ifanc neu blentyn.

 

I ddarganfod mwy am ACT neu'r cymwysterau a gynigiwn, ewch i acttraining.org.uk