Taith

Taith
EIN CYFEIRIADAU:
  • Taith
  • Sbarc
  • Caerdydd
  • Cymru Gyfan
  • CF24 4HQ
Amdanom Ni

Rhaglen rhyngwladol yw Taith a fydd yn galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd, tra’n caniatáu i sefydliadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un fath yma yng Nghymru.

Mae'n creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw, a rhannu’r hyn a ddysgir gyda phobl yma.

Mae’n golygu y gall Cymru a’i phartneriaid rhyngwladol barhau i elwa ar gyfleoedd cyfnewid mewn ffordd debyg i’r hyn a gafwyd drwy Erasmus+, a hynny yn Ewrop a thu hwnt.

Mae galwad cyllid Llwybr 1 Taith 2023 nawr ar agor. Ymgeisiwch erbyn 16eg Mawrth 2023

Mae prosiectau Llwybr 1 yn darparu symudedd corfforol a rhithiol, allanol a mewnol unigolion neu grwpiau, gan ddarparu cyfleoedd tymor byr a hirdymor hyblyg i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor.

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am y rhaglen, ewch i'n wefan neu cysylltwch â'r tîm.

A rhagor o wybodaeth am Llwybr 1 a chyfleoedd cyllido eraill ar gyfer eich sector, dewiswch o'r dolenni canlynol:

Ysgolion

Addysg Ieuenctid

AB ac AHG

Addysg Oedolion

Addysg Uwch- Symudedd Addysg

Addysg Uwch- Symudedd Ymchwil