Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol

Diversity and Anti-Racist Professional Learning
Publicly Funded Training Institute/Academy
EIN CYFEIRIADAU:
  • Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF23 6XD
USEFUL LINKS:
Amdanom Ni

Mae gwaith DARPL yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol i'r rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o wrth-hiliaeth, a ddylai arwain at ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol. Mae'r dysgu proffesiynol wedi cael ei ddatblygu i ystyried rolau gwahanol y rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol ac mae wedi'i deilwra i gefnogi hynny.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod y rheini sy'n gweithio ym maes addysg yn barod i ymgymryd ag ymarfer gwrth-hiliol sy'n cefnogi'r nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae DARPL yn cynnwys ymchwil, enghreifftiau cyfredol, clipiau fideo a phrofiadau byw er mwyn sicrhau bod y cysyniadau a ystyrir yn cael eu deall a bod ymarfer gwrth-hiliol yn cael ei roi ar waith ar bob lefel, ym mhob lleoliad.

Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad i'n llyfrgell adnoddau, ewch i'n gwefan