Technocamps

Technocamps
EIN CYFEIRIADAU:
  • Technocamps
  • Abertawe
  • Cymru Gyfan
  • SA2 8PP

  • Technocamps
  • Caerdydd
  • Cymru Gyfan
  • CF24 4AG

  • Technocamps
  • Pontypridd
  • Cymru Gyfan
  • CF37 1DL

  • Technocamps
  • Bangor
  • Cymru Gyfan
  • LL57 2DG

  • Technocamps
  • Wrecsam
  • Cymru Gyfan
  • LL11 2AW
Amdanom Ni

Mae Technocamps yn rhaglen ddigidol eang ei chyrhaeddiad. Ein prif nod yw cefnogi uwchsgilio digidol ledled Cymru trwy ein partneriaethau cryf â holl brifysgolion Cymru. Mae ein holl raglenni am ddim i'r derbynnydd, gan eu bod yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a CCAUC. Maent yn cael eu hwyluso gan ymrwymiad prifysgolion Cymru sy'n gweithio ar y cyd.

Yn yr Ysafell Ddosbarth
Ein nod yn y pen draw yw cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â phynciau STEM. Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd trwy ein rhaglen Cyfoethogi STEM ac ysgolion cynradd trwy ein rhaglen Playground Computing. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon i'w paratoi at yr heriau o ddarparu amgylchedd technegol a deinamig.

Y tu allan i ysgolion
Mae ein hymrwymiad i addysg gyfrifiadurol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Rydym yn darparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i bobl mewn cyflogaeth, ynghyd â chyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu gydol oes. Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaeth a ariennir yn llawn yn cynnig cyfle i unigolion 'ennill cyflog a dysgu' trwy weithio tuag at radd pan fyddant mewn cyflogaeth lawn-amser. Rydym hefyd yn gweithio gyda busnesau a diwydiant i greu cyfleoedd i sicrhau bod y biblinell ddigidol yn cael ei chynhyrchu'n lleol, gan helpu i ddarparu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi economi Cymru.

I ddarganfod mwy am ein cynnig cyffredinol, ewch i: www.technocamps.com

I ddarganfod mwy am ein cynnigion DP ar gyfer athrawon, ewch i: https://www.technocamps.com/cy/programmes/#section-technoteach