Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

National Academy for Educational Leadership
Publicly Funded Training Institute/Academy
EIN CYFEIRIADAU:
  • Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
  • Abertawe
  • Swansea
  • SA1 3SN
Amdanom Ni

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (Academi Arweinyddiaeth) yn rhan hanfodol o’r dirwedd addysg. Ein cenhadaeth yw “Ysbrydoli Arweinwyr - Cyfoethogi Bywydau” gyda’r nod o sicrhau eglurder a chydlyniad i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. Drwy ein gwaith, byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gallu ymgysylltu gyda’r dysgu proffesiynol mwyaf perthnasol, ystyrlon ac ysbrydoledig. Rydym yn gwneud hyn trwy:

 

  • Sicrhau Ansawdd - Mae ein proses sicrhau ansawdd yn cynnwys adolygu’r ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth bresennol yng Nghymru yn systematig. Drwy broses gymeradwyo a fframwaith monitro, dau gam trwyadl a chadarn, rydym yn cynnal ac yn cefnogi darpariaeth sydd o ansawdd uchel, yn gyfiawn ac yn addas i’r diben. Rydym yn cymeradwyo darpariaeth fel: Rhaglen Hyfforddi Weithredol Uwch, Rhaglen Penaethiaid Profiadol, Arweinyddiaeth Eithriadol mewn Addysg, Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth a llawer mwy.
  • Arloesedd - Mae ein Llwybr Arloesedd, sesiynau a gweminarau wedi’u cynllunio i hyrwyddo arweinyddiaeth arloesol, creu syniadau newydd ac ysgogi meddwl a chamau gweithredu arloesol.
  • Arweinyddiaeth System - Mae datblygu ‘arweinwyr systemau’ effeithiol ac ‘arweinyddiaeth system’ yn ganolog i’r daith diwygio addysg a ddisgrifir yn Ein Cenhadaeth Genedlaethol, ac mae wrth wraidd y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru drwy ein model Cymdeithion blaenllaw.
  • Mewnwelediad - Mae’r Gyfres Mewnwelediad yn cyflwyno meddwl newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ffurf comisiynau ymchwil, adolygiadau o lenyddiaeth polisi ac academaidd rhyngwladol a darnau barn.
  • Lles - Rydym am i les arweinwyr addysgol gael ei flaenoriaethu a’i gefnogi’n systematig yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg, yn ogystal â Llywodraeth Cymru ac ymarferwyr, i ddatblygu dull mwy strategol o fuddsoddi yn yr ‘arweinydd cyfan’.
  • Canllawiau - Credwn fod yn rhaid i ganllawiau ymarferol fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac felly mae’r canllawiau a gyhoeddir gennym yn cael eu llywio gan bolisi rhyngwladol, llenyddiaeth ymarferwyr a phrofiad byw arweinwyr addysgol yng Nghymru.

 

Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn bodoli i gefnogi a datblygu arfer arweinyddiaeth pob un o’n cydweithwyr sy’n gweithio ar draws y system addysg yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn er lles ein hymarferwyr a’r plant a phobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw beth bynnag fo’r lleoliad, neu haen o’r system addysg y maen nhw’n gweithio ynddo.

Byddwn yno i gefnogi’r holl arweinwyr waeth pa gyfnod o’u gyrfa maent ynddo. P’un a ydyn nhw’n meddwl am gymryd y camau nesaf i arweinyddiaeth ffurfiol yn unig neu’n arweinwyr profiadol, byddwn yn rhoi’r hyder, y gefnogaeth a’r datblygiad iddyn nhw fydd yn eu helpu i fod y gorau. Byddwn yn cefnogi’r holl arweinwyr ledled Cymru p’un a ydynt yn gweithio mewn ysgolion, darparwyr eraill, mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu sefydliadau addysgol eraill fel yn yr haen ganol. Byddwn yn gosod addysg ac arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru ar flaen y gad ac yn fan gwych i fod.

Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn elfen ganolog o’r daith o ddiwygio’r gyfundrefn addysg a nodir yn Addysg yng Nghymru: cenhadaeth ein cenedl, diweddariad Hydref 2020, lle mae Llywodraeth Cymru yn ei nodi fel sbardun allweddol Amcan Galluogi 2: Arweinyddiaeth sy’n cydweithio i godi safonau.