Canolfan materion rhyngwladol Cymru

Welsh Centre for International Affairs
Private Training Provider
EIN CYFEIRIADAU:
  • Canolfan materion rhyngwladol Cymru
  • Cardiff
  • Caerdydd
  • CF10 3AP
Amdanom Ni

Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu gan gynnwys dysgu proffesiynol i athrawon ac arweinwyr; adnoddau, digwyddiadau a phrosiectau ar gyfer myfyrwyr a phrosiectau gweithredu i bobl ifanc. Mae ein rhaglen ddysgu fyd-eang yn ymgyfuno â phwrpas Dinasyddiaeth Foesegol y Cwricwlwm Newydd ac yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau'r unfed ganrif ar hugain sydd mor allweddol i'r byd rydyn ni'n byw ynddo.

 

Ar gyfer athrawon, rydym yn cynnig cyrsiau proffesiynol gan gynnwys cefnogi ymchwil sydd yn ymwneud a’r cwricwlwm newydd, datblygu creadigrwydd a dinasyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth a sut i fesur a datblygu sgiliau dadlau, meddwl yn feirniadol a sut i gynnal trafodaeth. Rydym hefyd yn gweithio gydag athrawon i ddatblygu prosiectau arloesol ac mae gennym ystod eang o adnoddau i gynorthwyo athrawon i gyflawni prosiectau sy'n ymwneud â materion byd-eang - gan gynnwys pynciau megis newid yn yr hinsawdd, ymfudo, effaith ddinistriol ffasiwn gyflym a ffonau symudol ar yr amgylchedd.

Mae ein gwaith gyda myfyrwyr yn cynnwys prosiectau wyneb yn wyneb ar gyfer gweithredu cymdeithasol fel ein prosiect Creu Newid, hyfforddiant mewn sgiliau dadlau a datblygu dadleuon, yn ogystal â chynnal cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig. Mae ein cynhadledd Cenhedloedd Unedig yn ffurfio'r ddau ddigwyddiad cydgysylltiedig (gyda llawer o ysgolion yn cael eu gwahodd i ddod) ac rydym hefyd yn eu cynnal fel digwyddiadau "yn yr ysgol" i wella dinasyddiaeth fyd-eang.

‘Y mae Cynllun Ysgolion Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cefnogi ysgolion i ddatblygu agweddau ysgol-gyfan, trawsgwricwlaidd, gan ymgorffori materion heddwch i ethos a dysgu’r Ysgol.  Y mae’r Cynllun yn cefnogi disgyblion i ddatblygu fel unigolion iach, hyderus a dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.’

‘Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru’.  Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn galluogi plant a phobl ifanc i fynegi eu barn a’u dyheadau am heddwch a chynaladwyedd yn greadigol mewn amryw ffordd, ac i gael eu cydnabod yn gyhoeddus am eu gwaith.’

Mae rhaglen wirfoddoli ryngwladol WCIA yn ffordd anhygoel o brofi'r byd, wrth wneud gwahaniaeth i gymuned arall ac ychwanegu rhywbeth arbennig at eich CV. Mae dod at ein gilydd a gweithio fel rhan o dîm rhyngwladol ar brosiect cymunedol lleol neu gyda sefydliad dielw, yn rhoi cyfle gwych i ddysgu am wahanol ddiwylliannau, agweddau a ffyrdd o fyw.

I ddarganfod mwy am wirfoddoli tramor: Gwirfoddoli tramor- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Mae ein cwrs sydd yn ffocysu ar sgiliau ymchwil a hunaniaeth Ewropeaidd yma : Ydw i'n Ewropeaidd?

Cyfranwyr Creadigol Lefel 2

Hyfforddiant ar Ddadlau

Dinasyddion moesegol gwybodus o Gymru a'r byd

Sgiliau Ymchwil 1

Partneriaethau llwyddiannus lefel 2

Fy Lle, Eich Lle, Ein Hyfforddiant Gwerthuso Lle

Hanesion Heddwch Cudd

Camau byd-eang profwch eich sgiliau