BETH YW GWEITHIWR IEUENCTID GWIRFODDOL?

Rydym yn gwirfoddoli ein hamser i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau wrth gael hwyl.

Rydym yn darparu lle diogel i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau a all gynyddu eu hyder fel y gallant ddefnyddio eu lleisiau i wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.

Rydym yn cysylltu â gwirfoddolwyr eraill a staff taledig yn y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ansawdd i'n pobl ifanc.

Ond yn fwy na hynny, rydym ni'n sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw'n rhan o'u cymuned leol trwy sicrhau bod pob cymuned yn deall y gwaith pwysig rydym ni'n ei wneud.

Mae gwirfoddoli yn caniatáu inni wella ein dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad o waith ieuenctid sydd yn gallu arwain at gyfleoedd a swyddi pellach yn y sector. Ond yn y diwedd, rydym ni'n gwirfoddoli oherwydd mae pobl ifanc yn bwysig i ni ac rydym ni'n eisiau eu cefnogi er mwyn iddynt gflawni eu huchelgeisiau.

SGILIAU DYMUNOL
  • y gallu i uniaethu a gwrando ar bobl ifanc
  • sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol cryf
  • egnïol ac ymroddedig
  • personoliaeth atyniadol
  • sgiliau trefnu da
  • amynedd

Dewch o hyd i swydd gwirfoddolwr heddiw

Fel gweithwyr ieuenctid gwirfoddol, rydym yn cyfrannu ein hamser i alluogi pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau.

Chwilio am wirfoddolwr neu swydd ddigyflog