Mae'r llwybr cymwysterau yn dangos yr ystod lawn o lefelau hyfforddiant a chymwysterau sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Efallai y bydd eich man cychwyn chi yn cael ei ddylanwadu gan eich profiad a lefel gyfredol eich cymwysterau.
Yn eich cyflwyno i ddamcaniaethau Gwaith Ieuenctid Allweddo
Mae sefydliadau unigol yn cynnig eu hyfforddiant sefydlu eu hunain i wirfoddolwyr. Gall hyn gynnwys rhaglenni datblygu'r gweithlu neu hyfforddiant fel diogelu ac ati.
Os oes diddordeb gennych mewn archwilio cyfleoedd, dyma'r sefydliadau yng Nghymru sy'n cynnig llwybrau i waith ieuenctid:
Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Mae gennych Brofiad Gwaith Ieuenctid cyfyngedig a hoffech weithio gyda Phobl Ifanc.
Yn eich paratoi i arwain gwaith gyda phobl ifanc mewn ystod o leoliadau Gwaith Ieuenctid.
Mae Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain gwaith gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, ac os oes angen ychydig o gymorth arnoch. Mae Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn cymhwyso'r dysgwr yn weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig gyda JNC ac yn galluogi dysgwyr i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth ieuenctid.
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.
Mae Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) yn paratoi dysgwyr i arwain gwaith gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, ac arbenigo mewn meysydd sy’n berthnasol i chi neu eich gwaith. Mae Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid yn addas os ydych wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (sy'n ofynnol ar gyfer y rheini sy'n dymuno gweithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid JNC) ac yn dymuno ehangu eich gwybodaeth am sgiliau a meysydd pwnc arbenigol.
Nid yw'r cymhwyster hwn yn unig yn eich cymhwyso'n weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig gyda JNC, ond mae'n adeiladu ar Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) ac mae ar gyfer unigolion sy’n cyflawni gwaith ieuenctid gweithredol ac sy’n ymgymryd â dyletswyddau ar eu liwt eu hunain neu sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb goruchwylio dros brosiectau bach, fel clybiau un noson yr wythnos. Bydd gweithwyr sydd â’r cyfrifoldebau hyn yn cael cyfarwyddyd ar arwain a gweithredu gan weithwyr ieuenctid cymwysedig proffesiynol.
Mae'r cwrs dewisol hwn yn eich cefnogi a'ch galluogi i ddatblygu ymarfer gwaith ieuenctid, wedi'i lywio gan theori berthnasol, y sgiliau, yr wybodaeth, y nodweddion a'r gwerthoedd sydd eu hangen ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid effeithiol a sgiliau astudio perthnasol.
Mae Gwaith Ieuenctid wedi bod yn ganolog i waith Gwaith Celfyddydau ac Eiriolaeth Urban Circle sydd wedi digwydd ers 17 mlynedd. Bydd y profiad a rennir yn y cyrsiau hyn, sy'n dechrau ym mis Tachwedd, yn dangos pa mor effeithiol y gall Gwaith Ieuenctid da fod. Yn y pen draw, mae cymhwyster Gwaith Ieuenctid yn gwella ansawdd y cymorth a ddarperir i bobl ifanc ac yn cyfrannu at adeiladu cymdeithas gryfach a mwy cynhwysol.
Gallwch hefyd gwblhau unedau unigol o fewn Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid (Cymru). I gael rhagor o wybodaeth am yr unedau sydd ar gael, ewch i wefan Agored Cymru
I ddod o hyd i swyddi gwag yn y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru ar hyn o bryd, ewch i borth swyddi Addysgwyr Cymru.
Yn eich paratoi i gyflawni, cynllunio a datblygu Gwaith Ieuenctid. Gall fod disgwyl i weithwyr Ieuenctid a Chymunedol cymwysedig proffesiynol ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli gweithredol a strategol hefyd.
Nid yw cyflawniadau addysg uwch ar y lefel hon yn unig yn eich cymhwyso'n weithiwr ieuenctid cymwysedig gyda JNC, ond mae dysgu ar y lefel hon yn rhan o'r radd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (gall teitlau amrywio yn dibynnu ar y brifysgol).
Gallwch hefyd gwblhau unedau dysgu proffesiynol unigol ar y lefel hon sy'n addas os ydych yn dymuno ehangu eich gwybodaeth am sgiliau a meysydd pwnc arbenigol.
Mae'r radd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (gall teitlau amrywio yn dibynnu ar y brifysgol) yn addas os oes gennych Dystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid, neu gymhwyster Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol, a 100 o oriau o brofiad perthnasol. Y radd BA (Anrh) yw'r cymhwyster sydd ei angen ar y rheini sy'n dymuno gweithio fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol proffesiynol cymwysedig gyda JNC ac mae'n galluogi'r dysgwr i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr ieuenctid. Mae hyn ar gyfer gweithwyr sy'n gyfrifol am gyflawni, cynllunio a datblygu gwaith ieuenctid. Gall fod disgwyl i weithwyr ieuenctid a chymunedol cymwysedig proffesiynol ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli gweithredol a strategol hefyd.
Yn eich paratoi i gyflawni'r cyfrifoldeb am gyflwyno, dylunio a datblygu Gwaith Ieuenctid.
Gellir disgwyl i chi hefyd gyflawni cyfrifoldebau gweithredol a rheoli.