BETH YW GWEITHIWR CYMORTH IEUENCTID?

Rydym ni'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc i ddarparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu eu hyder ac i gyflawni eu huchelgeisiau.

Rydym yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau personol a chymdeithasol sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu llawn botensial fel unigolion a hefyd fel aelodau o'n cymunedau rhyfeddol o amrywiol.

Mae ein cefnogaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae ein hystod eang o ddiddordebau yn caniatáu inni gynnal amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau cyffrous.

Efallai byddwn yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr ieuenctid cymwys gyda phrofiad a gweithwyr proffesiynol eraill, gan eu cefnogi yn eu gwaith o ddydd i ddydd i gynllunio, darparu a monitro darpariaeth leol. Mae hyn yn caniatáu inni ddarparu gwasanaeth cynhwysol sy'n hygyrch i bob person ifanc.

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc i sicrhau bod ganddyn nhw lais, yn deall eu hawliau ac yn datblygu sgiliau i ymgysylltu â'u ffrindiau a'r gymuned ehangach.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Bydd angen i weithiwr cymorth ieuenctid gwblhau cwrs a gydnabyddir gan y Cydbwyllgor Negodi trwy'r Pwyllgor Safonau Addysg Hyfforddiant (Cymru). 

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

SGILIAU DYMUNOL
  • sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol cryf
  • yn egnïol ac yn ymroddedig
  • sgiliau TG da
  • sgiliau trefnu da
  • amynedd
  • personoliaeth atyniadol
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Ystod cyflog:
£18000
-
£25000