BETH YW PENNAETH CYNORTHWYOL?

Fel Penaethiaid Cynorthwyol, ein gwaith ni yw cefnogi'r pennaeth wrth redeg yr ysgol o ddydd i ddydd, gan sicrhau ein bod yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr a staff.

Rydym yn ymroddedig iawn i'r proffesiwn ac yn defnyddio ein brwdfrydedd i ysgogi staff a hyrwyddo datblygiad proffesiynol. Fel aelodau o'r Uwch Dîm Rheoli, rydym yn rhannu nifer o gyfrifoldebau â'r dirprwy benaethiaid.

Yn y mwyafrif o leoliadau, rydym hefyd yn cyflawni rôl athro dosbarth. Rydym yn ymgymryd â’r ddwy rôl gydag anghenion pob dysgwr wrth wraidd y penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud, gan annog ymddygiad a lles cadarnhaol a sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle cyfartal i lwyddo.

O fewn ei'n swydd rydym yn hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol â staff, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a sicrhau ein bod bob amser yn ymdrechu i gyflawni'r canlyniadau gorau posib.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Rhaid i ddirprwy benaethiaid fod â Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy addysg gychwynnol i athrawon (AGA) a chwblhau cyfnod sefydlu'n llwyddiannus. Gallant hefyd geisio ennill cymwysterau pellach mewn arweinyddiaeth a rheolaeth i'w cynorthwyo.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

SGILIAU DYMUNOL
  • annog, cymell ac ysbrydoli disgyblion a staff
  • cyfathrebwr rhagorol
  • yn amyneddgar ac yn gallu arddangos disgresiwn
  • trefnydd a chynlluniwr effeithiol
  • cymryd rhan mewn ymchwil
  • y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau
  • arweinydd a rheolwr effeithiol
  • hybu'r safonau'r proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Ystod cyflog:
£42402
-
£61467