BETH YW ATHRO?

Rydym yn creu amgylchedd dysgu lle mae addysg yn dod yn fyw. Amgylchedd lle mae dysgwyr yn cael eu hysbrydoli fel y gallant ffynnu a chyflawni eu nodau a'u huchelgeisiau. Rydym yn sicrhau bod gan bob dysgwr y sgiliau sydd eu hangen i ymgysylltu fel dinasyddion gweithredol yn ein cymunedau. Rydym yn ysbrydoli, cymell, a magu hyder, gan helpu hyd yn oed y dysgwyr mwyaf amharod i lwyddo ym mhob agwedd ar addysg.

Rydym yn gweithio gyda dysgwyr o bob oed, mor ifanc â thair oed hyd at ddeunaw oed. Rydym yn hyblyg ac yn addasadwy i sicrhau ein bod bob amser yn diwallu anghenion ein dysgwyr. Mae rhai ohonom hefyd yn arbenigo mewn gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn dibynnu ar y cyfnod rydym yn gweithio, gallwn gallwn ddysgu ystod o feysydd dysgu a phrofiad neu ganolbwyntio ar un maes.

Bob dydd, rydym ni'n defnyddio ein hyfforddiant, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad bywyd i helpu dysgwyr i ddatgelu eu gwir botensial. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i staff cymorth addysgu a chydweithio i sicrhau bod ein dysgwyr yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes.

Mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys cynllunio a pharatoi gwersi ac adnoddau o ansawdd uchel. I ni, mae addysgu'n fwy na gwyddoniaeth, mathemateg a Saesneg yn unig - mae'n cynnwys llenyddiaeth a thirweddau; gwaith metel a gwaith nodwydd. Rydym yn monitro cynnydd ein dysgwyr yn gyson, gan ddarparu adborth a chyngor gwerthfawr tra hefyd yn sicrhau'r safonau a'r ymddygiad uchaf.

Rydym hefyd yn rhan annatod o gymuned ehangach yr ysgol, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr, cyfrannu at gyfarfodydd staff, hyrwyddo digwyddiadau dysgu proffesiynol, ac ymgysylltu â rhieni, gofalwyr ac asiantaethau cymorth eraill. Oherwydd gyda'n gilydd, credwn ein bod am greu amgylchedd dysgu cefnogol ac ysgogol er budd pawb sy'n cymryd rhan.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Er mwyn bod yn gymwys fel athro, mae angen Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA). Rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn cymhwyster AGA fodloni’r gofynion mynediad lleiaf. I gael gwybod mwy am ofynion mynediad cliciwch yma. Ar ôl i chi ennill SAC bydd angen i chi gwblhau cyfnod sefydlu. Mae sawl llwybr AGA yng Nghymru.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer cyrsiau yng Nghymru. Dysgu mwy am hyfforddiant athrawon yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gall athrawon ysgol cymwys o bedwar ban byd wneud cais am gydnabyddiaeth yng Nghymru.

O 1 Ionawr 2021, gall unrhyw athro a gymhwysodd y tu allan i Gymru ond sydd eisiau gweithio yng Nghymru fel athro ysgol cymwys wneud cais i gydnabod ei gymwysterau gan y CGA.

Dysgwch fwy am gwneud cais am gydnabyddiaeth yma

 

CYLLID

Gall graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys i gael ystod o gymhelliant i ymgymryd â TAR yng Nghymru. Os ynych chi’n dewis astudio trwy gyfrwng Cymraeg mae £5,000 ychwanegol ar gael. Mae £5,000 ar gael i athrawon dan hyfforddiant o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Dysgwch fwy am gymhelliant yma

Gall myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau AGA hefyd fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dysgwch fwy am Cyllid yma

Mae dwy fath o ysgoloriaeth ar gael trwy’r Coleg Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BA Addysg os ydych yn ymgymryd â rhan o'ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr Ysgoloriaeth Cymhelliant a’r Brif Ysgoloriaeth.

Dysgwch fwy am ysgoloriaethau yma

Llwybrau Llawn Amser

 

 

 

Am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i wneud cais, ymwelwch â'r proffiliau Darparwyr yma.

Llwybrau Rhan Amser
  • Mae'r cwrs TAR rhan amser ar gael ar lefel gynradd ac uwchradd a bydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau. Byddwch angen gradd anrhydedd arnoch er mwyn astudio’r llwybr hwn.
  • Mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol os ydych am astudio'ch cwrs TAR o amgylch eich swydd bresennol neu ymrwymiadau eraill.
  • Gall y llwybr hwn fod ar sail hunan-ariannu neu gallwch wneud cais am fenthyciad i fyfyriwr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda'r costau.

 

 

Am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan y Brifysgol Agored.

LLWYBRAU SEILIEDIG AR GYFLOGAETH
  • Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn ysgol fel gweithiwr cymorth dysgu neu mewn swydd nad yw'n addysgu, a bod gennych radd er anrhydedd, gallwch wneud cais i'ch ysgol gymeradwyo'ch astudiaeth i ddod yn athro cymwys. Byddwch yn astudio ar gyfer eich TAR o gwmpas eich dyletswyddau ysgol presennol, a thelir cyflog ichi. Bydd eich costau astudio yn cael eu talu o grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru.
  • Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster TAR dros ddwy flynedd i fodloni'r safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).
  • Gallwch dal wneud cais ar gyfer y llwybr cyflogedig uwchradd mewn pynciau prinder os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, ond bydd angen ichi fod ag ysgol uwchradd sy'n barod i'ch noddi, a gallai’r Brifysgol Agored eich helpu i wneud hyn.
  • Mae'r llwybr yn seiliedig ar gyflogaeth ar gael ar gyfer lefel gynradd ac uwchradd.

 

 

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth a manylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan y Brifysgol Agored

SGILIAU DYMUNOL
  • y gallu i annog, cymell ac ysbrydoli dysgwyr
  • arloesol, creadigol, brwdfrydig ac egnïol
  • cyfathrebwr rhagorol
  • amyneddgar ac yn gallu dangos disgresiwn
  • trefnus, gyda sgiliau cynllunio rhagorol
  • y gallu i weithio'n dda dan bwysau
  • wedi ymrwymo i arwain dysgu
DISGWYLIADAU CYFLOG
Gall athrawon â chyfrifoldebau dysgu ac addysgu a dyletswyddau rheoli derbyn tâl ychwanegol.
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Ystod cyflog (codiadau cyflog gyda phrofiad):
£32433
-
£44802