Prifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.
Mae ein campysau glan môr hardd a’n cyfleusterau addysgu ardderchog yn sicrhau ein bod ni’n gyrchfan dymunol ar gyfer myfyrwyr a staff o ledled y byd ac mae ein cymuned amlddiwylliannol yn rhoi safbwynt byd-eang gan alluogi’r rhai sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu gosod ar ben y ffordd tua gyrfaoedd llwyddiannus a chyfoethog.
Mae'r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran arloesol, ddeinamig a arweinir gan ymchwil. Mae ein rhaglenni'n adeiladu ar ein hymchwil ardderchog, ein partneriaethau rhyngwladol urddasol a chydweithrediadau â gwasanaethau addysg rhanbarthol. Caiff myfyrwyr eu hymdrochi mewn profiadau addysgol perthnasol ac eang. Maent yn datblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn partneriaeth â'n rhwydwaith helaeth o ddarparwyr addysg, trwy bortffolio amrywiol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Cysylltu â ni: studyfhss@swansea.ac.uk
Prosbectws Ôl-raddedig - Prifysgol Abertawe
Prosbectws Israddedig - Prifysgol Abertawe
Cyrsiau Ôl-raddedig:
- Astudiaethau Plentyndod, MA / PGDip / PGCert
- Chwarae Datblygiadol A Therapiwtig, MA / PGDip / PGCert
- Addysg, MA / PGDip / PGCert
- Addysg (Cymru), MA
Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol, MA - Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth, MA
- MA mewn Addysg (Cymru) Cwricwlwm
- MA mewn Addysg (Cymru) Tegwch mewn Addysg
- Cynradd gyda SAC, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Daearyddiaeth, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Hanes, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg, PGCert
- Tar Uwchradd Gyda Sac: Ffrangeg, Sbaeneg, PGCert / Sbaeneg PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg, PGCert
- TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg, PGCert
Cyrsiau israddedig:
- Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Hons), gyda neu heb Flwyddyn Dramor
- Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Hons)
- Addysg, BA (Hons), gyda neu heb Flwyddyn Dramor
- Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Hons)
- Addysg a Seicoleg, BSc (Hons)
- Addysg a'r Gymraeg, BA (Hons), gyda neu heb Flwyddyn Dramor
- Addysg a'r Gymraeg, BA (Hons), (Llwybr I Fyfyrwyr Ail Iaith), gyda neu heb Flwyddyn Dramor
- Dyniaethau, BA (Hons)