Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cardiff Metropolitan University
University
EIN CYFEIRIADAU:
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF5 2YB

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF23 6XD
GWEFAN Y DARPARWYR:
Amdanom Ni

Met Caerdydd yn brifysgol gefnogol a chynhwysol sy'n darparu hyfforddiant i athrawon, addysg, gwaith blynyddoedd cynnar a gwaith ieuenctid a chymunedol o'r ansawdd uchaf.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn darparu cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon ers dros 75 mlynedd a chydnabyddir ei bod ymhlith y canolfannau addysg a hyfforddiant mwyaf yn y DU. Yn gartref i Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon rydym yn gweithio ar y cyd â'i bartneriaid ysgol i sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu addysg broffesiynol, achrededig o ansawdd uchel sy'n hollol ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.

Mae gan ein cyrsiau addysgu, addysg, gwaith ieuenctid a dysgu proffesiynol enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda llawer yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â chyrff rheoleiddio a phroffesiynol. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC), Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cydbwyllgor Negodi (JNC), Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a Chymdeithas Dyslecsia Prydain (BDA).

Mae gan bob un o'n cyrsiau leoliadau gwaith dewisol neu orfodol sy'n rhoi cyfle i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr a gwella'ch cyflogadwyedd.

Fe'ch addysgir gan ddarlithwyr sy'n weithredol ym maes ymchwil, arbenigwyr yn eu maes gwaith ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu cefnogol o ansawdd uchel. Mae gennym gysylltiadau rhagorol ag ysgolion, cyflogwyr a'r gymuned, ac mae ein cyfleusterau rhagorol ar y campws, fel ein canolfan ddysgu awyr agored, Ty Froebel, a labordai yn cyfoethogi'ch profiad dysgu.

Cysylltu â ni: askadmissions@cardiffmet.ac.uk

 

Cyrsiau Israddedig

Cyrsiau Ôl-raddedig

Pynciau eilaidd sydd ar gael: Celf a Dylunio, Bioleg gyda Gwyddoniaeth, Cemeg gyda Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch, Bwyd a Maeth, Ffasiwn a Thecstilau a Dylunio Peirianneg), Drama, Saesneg, Daearyddiaeth, Hanes, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Chyfrifiadura, Mathemateg, Ieithoedd (Ieithoedd Tramor Modern gynt – gan arbenigo mewn Ffrangeg, Ffrangeg a Sbaeneg, neu Ffrangeg ac Almaeneg.), Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Ffiseg gyda Gwyddoniaeth, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (Addysg Grefyddol gynt), Cymraeg

 

Cyrsiau Byr 

Ymchwil

Dysgwch fwy am ein hamrywiaeth o raddau ymchwil ôl-raddedig ym Met Caerdydd.