Prifysgol Bangor University

Prifysgol Bangor University
University
EIN CYFEIRIADAU:
  • Prifysgol Bangor University
  • Bangor
  • Gwynedd
  • LL57 2DG
Amdanom Ni

Ym Mhrifysgol Bangor, ers ei sefydlu ym 1884, mae traddodiad hir o ragoriaeth academaidd a phwyslais cryf ar brofiad myfyrwyr. 

Yma cewch addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg rhagorol a phrofiad myfyrwyr heb ei ail, cymuned groesawgar ddwyieithog, un o brofiadau myfyrwyr gorau'r Deyrnas Unedig a chyrsiau seiliedig ar ein hymchwil rhagorol. Rydym mewn lleoliad gwych rhwng y mynyddoedd a'r môr. Cewch edrych ar yr amrywiaeth eang o gyrsiau yn y rhestr cyrsiau ar dudalen gartref ein gwefan https://www.bangor.ac.uk/cy.

Addysg Gychwynnol Athrawon 

Mae Cymru ar flaen y gad ym maes diwygio addysgol ac mae Prifysgol Bangor, sydd yn meddu ar draddodiad gwych o hyfforddi ac addysgu athrawon, wedi creu partneriaeth gydag ysgolion o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru a'r consortia rhanbarthol i gynnig rhaglenni addysg athrawon o safon uchel trwy 'CaBan' Bangor.

Wrth ddewis un o'r cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon gan CaBan Bangor byddwch yn graddio gyda set o sgiliau addysgu a sylfaen wybodaeth a fydd yn eich gwneud yn gyflogadwy iawn. Yn CaBan Bangor rydym yn credu'n gryf ein bod yn 'addysgu'r rhai fydd yn arwain newidiadau yfory'. Trwy astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn gallu hyrwyddo'r Gymraeg gyda chenedlaethau'r dyfodol a chyfrannu at agenda Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn 2050. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i fod yn addysgwr effeithiol ble bynnag y bydd eich gyrfa ym myd addysg yn mynd â chi. Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth fodern, drylwyr nid yn unig o addysgu ond hefyd o arweinyddiaeth addysgol, a fydd yn llwyfan rhagorol i ddatblygu eich gyrfa addysgu yn gyflym. 

Dilynwch y dolenni isod i ganfod mwy am addysg gychwynnol athrawon. 

Cyrsiau Ol-radd mewn Addysg

Mae cymhwyster ol-radd mewn pwnc cysylltiedig ag Addysg nid yn unig yn berthnasol a defnyddiol i rai sy'n gweithio ym myd addysg ond hefyd i swyddi eraill fel yr heddlu, gofal iechyd neu waith cymdeithasol er mwyn i chi allu datblygu yn broffesiynol yn eich maes.  

Astudio Ôl-raddedig Trwy Ddysgu - mae'r cyrsiau hyn yn cynnwys yr MA Addysg Cenedlaethol newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cynnig hefyd ein MA  Addysg sydd ar gael yn amser llawn neu'n rhan amser. Mae gennym hefyd gyrsiau cysylltiedig ag addysg e.e. Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Dadansoddi Ymddygiad Cymwysedig.  

Rhaglenni Ymchwil a Doethuriaethau Proffesiynol 

Gyda'i thraddodiad hir a chydnabyddedig o arbenigedd ymchwil mewn meysydd cysylltiedig ag addysg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig y cyfleoedd gorau i chi hyfforddi fel ymchwilydd effeithiol ac i gynyddu ardrawiad eich ymchwil i'r eithaf. 

Cyrsiau Ymchwil Ol-radd 

Mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynnal ymchwil rhagorol yn rhyngwladol ym maes addysg yn seiliedig ar feysydd arbenigol strategol. Rydym yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff trydydd sector i gwblhau ymchwil sydd ag ardrawiad real. Mae modd cael mwy o wybodaeth yma

Mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynnig cyrsiau eraill mewn meysydd cysylltiedig ag addysg gan gynnwys Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid,  Iechyd a Gofal Cymdeithasol a nifer o raddau yn yr Ysgol Seicoleg ar lefel israddedig ac mae cymwysterau ol-radd yn cynnwys Gwaith Cymdeithasol.

Cewch wybod mwy ar wefan Prifysgol Bangor.
Cewch wybod am Ymweld â Phrifysgol Bangor.