MAE AELODAU STAFF CYFLENWI YN ALLWEDDOL I ADDYSG YNG NGHYMRU
Rydym yn galluogi ysgolion yng Nghymru i barhau i ddarparu addysg o safon fyd-eang bob dydd, yn aml ar fyr rybudd.
Fel staff cyflenwi, rydym yn gweithio yn lle staff parhaol pan fyddant yn absennol o'r ysgol ac yn darparu parhad i ddysgwyr. Felly, os yw athro'n mynd ar gwrs hyfforddi, yn absennol oherwydd salwch neu i ffwrdd o'r gwaith ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth, rydym yn camu i mewn i sicrhau bod y dysgu'n parhau.
Mae staff cyflenwi yn cyflawni ystod eang o rolau dysgu a chymorth addysgu mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, lleoliadau ôl-orfodol, ysgolion arbennig, ac unedau atgyfeirio disgyblion ar draws Cymru. Mae'r sector yn amrywiol ac mae pobl yn dewis gweithio ar sail cyflenwi am ystod eang o resymau. Rydym wrth ein bodd a'r hyblygrwydd y mae gwaith cyflenwi yn ei gynnig yn ogystal â'r cyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau ac ennill ystod o brofiad.
CYFLOGWYR STAFF CYFLENWI
Mae staff cyflenwi yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan asiantaethau recriwtio addysg, ysgolion yn uniongyrchol, a chan awdurdodau lleol. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion yng Nghymru i ddefnyddio asiantaethau a benodwyd i gytundeb fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
DYSGU PROFFESIYNOL AR GYFER STAFF CYFLENWI
Mae ystod o adnoddau ac offer ar gael i gefnogi staff cyflenwi yng Nghymru i gynnal eu dysgu proffesiynol. Mae'r rhain yn gynnwys:
- Cyrsiau sydd ar gael gan ddarparwyr cyrsiau sydd yn ymddangos ar Addysgwyr Cymru
- Adnoddau sydd ar gael ar Addysgwyr Cymru
- Dysgu proffesiynol a ddarperir gan asiantaethau cyflenwi
- Hwb (i gofrestru ar gyfer cyfrif Hwb fel Athro Cyflenwi, cliciwch yma)
- Pasbort Dysgu Proffesiynol sydd ar gael trwy eich cyfrif ar-lein ‘FyCGA’