BETH YW ATHRO CYFLENWI?

Fel athrawon cyflenwi, rydym yn galluogi addysgu i barhau o fewn ysgolion yng Nghymru bob dydd, gan gyflenwi absenoldebau staff am gyfnod o ddydd-i-ddydd neu'n hirdymor i sicrhau nad yw'r absenoldebau yn cael effaith negyddol ar ddatblygiad a chanlyniadau dysgwyr.

Rydym yn gymysgedd amrywiol o addysgwyr proffesiynol cymwys; athrawon newydd gymhwyso a phobl sydd wedi newid gyrfa, athrawon medrus a gweithwyr proffesiynol wedi lled-ymddeol. Beth bynnag ein cefndir neu ein profiad, rydym bob amser yn barod i gamu i mewn ac achub y dydd, y mis neu hyd yn oed y flwyddyn gyfan.

Mae natur anrhagweladwy ein swydd yn golygu mewn cyfnod o un wythnos, gallem arwain pum dosbarth gwahanol neu gael ein gosod mewn pum ysgol wahanol. Mewn un diwrnod, gallem fod yn dysgu pwnc yr ydym yn gyfarwydd ag ef neu'n ymdrin ag ystod eang o bynciau a grwpiau blwyddyn sy'n hollol newydd i ni.

Mae hyn yn golygu ein bod bob amser yn addasu, yn agored i newid ac yn gallu meithrin perthynas â dysgwyr yn gyflym i gyflwyno gwersi o ansawdd uchel sy'n addysgu, yn ennyn brwdfrydedd ac yn ysbrydoli.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Er mwyn bod yn gymwys fel athro, mae angen ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a chwblhau cyfnod sefydlu'n llwyddiannus. Mae sawl llwybr AGA yng Nghymru.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

SGILIAU DYMUNOL
  • y gallu i annog, cymell ac ysbrydoli dysgwyr
  • arloesol, creadigol, brwdfrydig ac egnïol
  • cyfathrebwr rhagorol
  • amyneddgar ac arwahanol
  • yn drefnus a chyda sgiliau cynllunio rhagorol
  • y gallu i weithio'n dda o dan bwysau
  • wedi ymrwymo i arwain dysgu
  • mynediad i drafnidiaeth
DISGWYLIADAU CYFLOG
Gall Athrawon Cyflenwi a gyflogir gan Asiantaethau Cyflenwi sydd wedi'u cymeradwyo gan Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ennill isafswm cyfradd tâl dyddiol yn unol â'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon (Cymru) Ysgol (STPCD) gyfredol a'r swydd sy'n cael ei chyflawni.