BETH YW CYDLYNYDD CWRICWLWM DIGIDOL?

Rydym yn helpu’r gymuned i ailymuno’n bersonol, ac yn broffesiynol â chyrsiau wedi’u cynllunio i arfogi pob dysgwr â gwybodaeth a chymhwysiad digidol hanfodol. 

Rydym yn cynnig cyfarwyddyd trwy asesu anghenion pob un o’n dysgwyr ac yn awgrymu’r cyrsiau mwyaf priodol. 

Mae’r byd digidol yn esblygu’n barhaus, gan gael ei gymysgu mwyfwy â’n bywydau bob dydd. Fel Cydlynwyr Cwrwicwlwm Digidol, rydym yn darparu cyrsiau digidol i ddysgwyr sy’n oedolion ôl-16 yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag ar-lein. 

Gyda chymorth cydweithwyr, mae’n rhaid i ni barhau i ddatblygu cwricwlwm arloesol, hyblyg a chyfoes, ynghyd ag adnoddau addysgu sy’n cydredeg, i ateb anghenion dysgwyr yn y gymuned a rhanddeiliaid. 

Rydym yn angerddol am bopeth digidol ac yn defnyddio’r brwdfrydedd hwn i ysbrydoli a chynorthwyo ein dysgwyr sy’n oedolion yn ogystal â thîm o diwtoriaid sgiliau digidol. Pan ddaw hi’n fater o gymhwyso digidol, rydym oll yn gallu dysgu oddi wrth ein gilydd yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn rhoi’r hyder i’n dysgwyr rannu gwybodaeth a rhyngweithio yn yr ystafell ddosbarth i annog amgylchedd cydweithredol. 

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

  • Cymhwyster Lefel 3, er yn ddelfrydol yn gymhwyster TAR
  • Profiad o achredu hyfforddiant, arsyllu, gwirio mewnol a sicrwydd ansawdd hyfforddiant. Byddai gan yr ymgeisydd brofiad o reoli eraill a chynorthwyo staff darparu. Byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ardderchog o strategaethau cynhwysiant digidol lleol a chenedlaethol gan gynnwys strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru 2030.
     
SGILIAU DYMUNOL
  • Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr sy’n oedolion
  • Hyder wrth gyflwyno i grwpiau o ddysgwyr
  • Profiad o arwain tîm
  • Gallu dangos lefel uchel o allu trefniadol, gan reoli a blaenoriaethu adnoddau i sicrhau darparu gwasanaeth yn effeithiol
     
  • Sgiliau cyfathrebu cryf, yn y cnawd ac ar-lein
  • Y gallu i aros ar y blaen i dueddiadau digidol
  • Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth gymhleth ac i wneud penderfyniadau effeithiol ac adrodd ar y canfyddiadau
  • Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol