BETH YW TIWTOR OEDOLION?

Rydym yn cynorthwyo oedolion ôl-16 o bob gallu gan ffurfio rhaglenni dysgu yn ofalus yn seiliedig ar uchelgeisiau a galluoedd y dysgwyr.

Rydym yn deall mewn unrhyw ddosbarth, nad yw’r un ymagwedd at ddysgu i bawb yn ddigonol. Yn hytrach, mae’r rôl hon yn gofyn am ystyriaeth ofalus i barchu anghenion personol a chymdeithasol pob dysgwr sy’n oedolyn. 
Fel Tiwtoriaid Oedolion, rydym yn ystyried y gwahanol alluoedd o fewn pob grŵp bob amser. Felly, er mwyn helpu dysgwyr i deimlo eu bod wedi’u grymuso trwy gydol eu hastudiaethau, rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd, anffurfiol i roi’r cyfle gorau posibl o lwyddo i bob dysgwr. Yn ogystal, rydym yn hapus i ddarparu cymorth ychwanegol un i un pan fydd angen i ddysgwyr a all fod yn gofyn am ragor o gyfarwyddyd. 

Rydym yn gyfforddus â newid – nid rôl ailadrodd yw hon. Rydym yn empathetig ac yn annog a gallwn addasu ein dulliau dysgu, strwythurau gwersi ac adborth i sicrhau bod pob dysgwr yn cael pob cyfle, nid yn unig i lwyddo, ond i fwynhau eu hailgyflwyno i addysg.  

Yn bennaf oll, rydym yn gofalu. Rydym yn gofalu am les a thaith pob un o’n dysgwyr sy’n oedolion. 
 

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

•    Diploma/Lefelau A, CGC Lefel 3 neu gymwysterau cyfatebol a/neu rywfaint o brofiad ymarferol mewn rôl debyg. Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant (isafswm)
•    Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (mewn naill ai Cyfathrebu, Cymhwyso Rhifau neu Lythrennedd Digidol) ar Lefel 3
 

SGILIAU DYMUNOL
  • Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr i gyflawni canlyniadau cytunedig
  • Y gallu i weithio gyda a hyfforddi pobl ar bob lefel
  • Hyder wrth addysgu i grŵp o ddysgwyr sy’n oedolion 
  • Y gallu i addasu dulliau addysgu i anghenion amrywiol y dysgwyr
  • Sgiliau cyfathrebu cryf
     
  • Deallusrwydd emosiynol
  • Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • Gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o dreftadaeth a diwylliant Cymru
  • Y gallu i ysgrifennu adroddiadau a chynhyrchu gwybodaeth ystadegol