Datblygiad
Proffesiynol
Parhaus
(DPP)

Beth yw DPP?
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio ymrwymiad i ddysgu gydol oes, caffael sgiliau newydd yn barhaus, gwella gwybodaeth bresennol, a bod yn ymwybodol o arferion diweddaraf y diwydiant.

Mae tri math penodol o DPP.

Dysgu a bennir gan y sefydliad rydych yn gweithio iddo

Adwaenir hyn fel DPP Sefydliadol, ac mae’n cael ei guradu gan eich sefydliad i’ch helpu i ddeall negeseuon a disgwyliadau corfforaethol. Gallai rhywfaint ohono fod o ganlyniad i reolau’ch sefydliad, ac mae rhywfaint ohono o ganlyniad i ofynion y llywodraeth, fel sicrhau y cydymffurfir â phynciau hollbwysig fel diogelu.

Mae asesu, cofrestru a hyfforddiant staff gorfodol yn enghreifftiau o DPP Sefydliadol

 

Dysgu sy’n angenrheidiol i gadw eich sgiliau presennol yn gyfredo

Mae DPP o’r math hwn yn canolbwyntio ar barhau i ddysgu a chadw’r sgiliau proffesiynol sy’n ofynnol fel rhan o’ch rôl yn gyfredol. Fel gweithwyr proffesiynol deuol, rydych yn dechnegwyr arbenigol yn ogystal ag addysgwyr, felly mae’n allweddol bwysig parhau i ddatblygu’ch sgiliau. 

 

O fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol i’r holl staff addysgu mewn addysg bellach feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf. Gall eich sefydliad eich helpu gyda hyn trwy gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

Dysgwch fwy am ba gymwysterau sydd ar gael i chi.

 

Dysgu a bennir gennych chi, ar gyfer eich datblygiad eich hun. 


CPD also encompasses self-directed learning for your professional and personal growth. This form of CPD, which you choose and tailor to your needs, often proves to be the most effective and fulfilling, as you can direct your learning to match your aspirations and interests.
Before you embark on self-directed learning CPD, it’s important to engage in self-reflection; to think about your knowledge gaps and where you want to take your professional practice, and to refer to the professional standards as your guidance.
 

Y Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn offeryn ar-lein hyblyg, sydd ar gael i holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sy’n llawn nodweddion a ddyluniwyd i’ch helpu i gofnodi eich dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod o wella’ch ymarfer, yn y pen draw. 

Mae hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad am ddim at EBSCO, sef y gronfa ddata ymchwil testun llawn fwyaf yn y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sy’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.

Darllenwch fwy am sut gallwch ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i wella’ch ymarfer.

 

Ymchwil Weithredu 

Mae ymchwil weithredu yn offeryn defnyddiol sy’n caniatáu i chi ymchwilio i’ch ymarfer eich hun, dadansoddi gwybodaeth, a rhoi gwelliannau ar waith sy’n sbarduno newid cadarnhaol yn eich ymarfer, eich amgylchedd dysgu, a’ch sefydliad.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddod yn ymchwilydd gweithredu

 

Nid dim ond acronym bachog yw DPP; ymrwymiad gydol oes ydyw i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth drwy gydol eich taith yrfaol. Nid yw dysgu’n dod i ben pan fyddwch yn cael swydd – yn hytrach, dyma ddechrau pennod newydd o’ch datblygiad! 


Archwiliwch ein hystod o gyfleoedd dysgu i gefnogi’ch DPP

Cymrodoriaeth Addysgu Technegol 

 

Mae’r rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu Technegol yn dathlu, datblygu a rhannu ymarfer eithriadol ym maes addysgu technegol, gan rymuso arbenigedd diwydiannol a thechnegol y genhedlaeth nesaf.

Dysgwch fwy yma

 

Y Gronfa Dysgu Proffesiynol

Mae dysgu proffesiynol mewn addysg yn galluogi'r gweithlu i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn bod yn barod i addysgu'n effeithiol er budd y dysgwr. 

 

Mae Adran 5 Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn nodi bod yn rhaid i Medr hyrwyddo gwelliannau parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Cymru, a thrwy gyflawni'r ddyletswydd yma, bod yn rhaid iddynt nodi:

  1. pwysigrwydd sicrhau bod aelodau o'r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel
  2. gofynion rhesymol aelodau o'r gweithlu addysg drydyddol ar gyfer datblygiad proffeisynol parhaus

 

Mae Adran 5(3) yn nodi mai aelodau'r gweithlu addysg drydyddol yw:

  1. athrawon personau sy'n derbyn addysg drydyddol
  2. personau sy'n darparu cefnogaeth i athrawon o'r fath
  3. personau sy'n darparu cefnogaeth i ddysgwyr i gyfranogi o addysg drydyddol

 

Dyrennir y Gronfa Dysgu Proffesiynol i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru i ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol ac ymgorfforu ac adlewyrchu datblygiadau polisi presennol i gryfhau gwybodaeth a sgiliau'r gweithlu AB.

 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn - Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 neu gallwch e-bostio gweithlu@medr.cymru

 

Previous Chapter
Professional Standards
Next Chapter
Working through the medium of Welsh