Beth yw ymchwil weithredu?
Mae ymchwil weithredu yn offeryn defnyddiol sy’n caniatáu i chi ymchwilio i’ch ymarfer eich hun, dadansoddi gwybodaeth, a rhoi gwelliannau ar waith sy’n sbarduno newid cadarnhaol yn eich ymarfer, eich amgylchedd dysgu, a’ch sefydliad.

Mae ymchwil weithredu yn eich grymuso i ymchwilio i’r heriau pob dydd sy’n eich wynebu yn eich rôl, gan ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol ar gyfer eich twf eich hun ac er budd eich dysgwyr. Mae’n gyfle i brofi syniadau newydd a datblygu ymagweddau newydd, a hynny i gyd ar yr un pryd â bod yn ymarferydd myfyriol.

Mae ymchwil weithredu’n broses gylchol, barhaus, felly mae’n ffordd wych o wella’n barhaus a thyfu fel gweithiwr proffesiynol.

 

 

A alla' i fod yn Ymchwilydd Gweithredu?

Wrth gwrs – gall pob ymarferydd fod yn ymchwilydd gweithredu! Mae ymchwil weithredu’n ffordd o ymchwilio i’r materion pob dydd sy’n codi yn eich lleoliad a cheisio dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol er eich budd chi a’ch dysgwyr. 

Mewn gwirionedd, mae’n debygol eich bod eisoes yn defnyddio arferion ymchwil weithredu yn eich rôl.

 

 

Beth mae’n ei gynnwys?
Mae proses syml wrth wraidd ymchwil weithredu; amlygu problem, archwilio datrysiadau, gweithredu newid, a gwerthuso’r canlyniadau.
  • Amlygwch broblem yn eich amgylchedd dysgu
  • Edrychwch ar waith ymchwil i gynhyrchu syniadau ar gyfer datrysiadau 
  • Lle y bo’n bosibl, dylech gynnwys eich dysgwyr yn y gwaith ymchwil hwn. Mae cynnwys dysgwyr trwy ystyried eu hadborth a’u barn yn sicrhau bod pawb yn eich lle yn teimlo cyfrifoldeb am yr ymagwedd newydd.
  • Profwch y datrysiadau
  • Gwerthuswch eich camau gweithredu – yn rhan o’ch ymarfer myfyriol neu gyda mewnbwn gan eich dysgwyr. Beth oedd wedi gweithio a beth nad oedd wedi gweithio. A ellid addasu pethau i wella’r datrysiad?

Gan fod ymchwil weithredu’n gylchol, gallai’r cam gwerthuso achosi i chi ddatgelu cwestiynau a llwybrau newydd i’w harchwilio – ac felly mae’r broses yn dechrau eto!

Byddem yn argymell rhannu eich canfyddiadau â’ch sefydliad os ydych yn hapus i wneud hynny, naill ai fel cyflwyniad ffurfiol neu sgwrs anffurfiol gyda’ch cydweithwyr, i rannu gwybodaeth ac annog pobl eraill i fabwysiadu’r ymarfer.

 

A fydd ymchwil weithredu o fudd i mi, fy nysgwyr a’m sefydliad? 

 

Mae ymchwil weithredu nid yn unig yn cyfoethogi eich twf proffesiynol eich hun, ond hefyd yn dod yn sbardun ar gyfer newid ymarfer, ar lefel bersonol a sefydliadol. 

Ar y raddfa leiaf, gall eich amgylchedd dysgu a’ch dysgwyr elwa o’r ymarfer dysgu cydweithredol ac arloesol pan gyflwynir syniadau newydd ac wrth fyfyrio arnynt i’w mireinio. Y peth da am ymchwil weithredu yw y gellir ei theilwra i’ch anghenion a’ch amgylchedd penodol, gan sicrhau eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn lle mae ei angen fwyaf. 

Ar y raddfa fwyaf, gallai rhannu eich canfyddiadau gyda chydweithwyr (y tu mewn a’r tu allan i’ch lleoliad uniongyrchol) sbarduno newid ar draws y sector addysg cyfan!

 

A ddylwn rannu fy ymchwil weithredu y tu allan i’m canfyddiadau ymchwil weithredu?

 

Yn sicr! Er nad oes unrhyw ddau ddysgwr neu addysgwr yr un fath, mae llawer o gydweithwyr a sefydliadau’n wynebu heriau a chwestiynau tebyg am y sefydliad ac arferion dysgu. Diwylliant o chwilfrydedd, rhannu gwybodaeth a chyfathrebu agored yw’r ffordd orau o sbarduno datblygiad ar draws y sector cyfan ac annog pobl eraill i ddechrau defnyddio ymchwil weithredu yn eu harferion eu hunain. 

 

Sut galla’ i ddechrau arni?
Byddem yn argymell eich bod yn dechrau trwy archwilio beth sy’n eich poeni am eich ymarfer, meysydd rydych eisiau ymchwilio iddynt, ac unrhyw gwestiynau llosg ynglŷn â’ch ymarfer a’ch amgylchedd.

Nesaf, ymdrwythwch yn y broses ymchwilio, gan archwilio ystod o adnoddau yn amrywio o erthyglau, podlediadau, fideos, a chyngor ar-lein. Cymerwch ran mewn sgyrsiau ystyrlon â’ch cydweithwyr a’ch dysgwyr, gan eu gwahodd i ymuno â chi wrth i chi archwilio syniadau newydd.

Rydym wedi rhestru nifer o adnoddau isod i’ch helpu i ddechrau arni:

 

  • Y Grŵp Coleg Ymchwil: Sefydliad cefnogol sy’n canolbwyntio ar ymchwil ymarferwyr, ac sy’n cynnig hyfforddiant ac adnoddau DPP rhad ac am ddim.
  • Podlediad Ymchwil Addysg Bellach: Ymdrwythwch mewn sain-ddysgu, dan arweiniad ymchwilwyr addysg bellach ag arbenigedd o fywyd go iawn i’w rannu. Mae ar gael ble bynnag y cewch eich podlediadau.
  • FEResearchmeet: Ymunwch â gweithwyr proffesiynol o’r un anian mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein, lle y gallwch rannu’ch canfyddiadau a chyfnewid syniadau.
  • Arweiniad Ymarferol i Ymchwil Weithredu. Mae’n hunanesboniadol! Canllaw ymarferol i’ch cynorthwyo trwy’r broses Ymchwil Weithredu.
  • eth oedd wedi gweithio a beth nad oedd wedi gweithio. A ellid addasu pethau i wella’r datrysiad?