Rhagair y Gweinidog
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn addysg Cymru.

Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfartal y ddau lwybr o fewn system addysg sy’n abl i greu'r gweithlu medrus, arloesol a hyblyg sydd ei angen ar Gymru. Mae Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 o ansawdd uchel sy'n amrywiol, yn hyblyg, yn gydweithredol ac yn darparu ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru yn ganolog i'r weledigaeth hon.

Boed drwy ddarparu opsiynau deniadol i bobl ifanc 14 i 19 oed, drwy gefnogi dysgwyr i ailgydio mewn dysgu yn ein cymunedau, neu drwy ddarparu cyfleoedd parhaus i'r rhai mewn cyflogaeth, rydym yn anelu at gynnig cyfleoedd dysgu o'r ansawdd uchaf. O fewn y cyd-destun hwn, mae'n hanfodol bod ein hymarferwyr yn cael yr adnoddau a'r gefnogaeth gywir i hwyluso rhagoriaeth yn eu hymarfer proffesiynol.

Nod y Safonau Proffesiynol a nodir yma yw darparu fframwaith uchelgeisiol i'r sector weithio tuag ato, â dysgu proffesiynol a chydweithio wrth ei wraidd. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r sector i ddatblygu'r safonau hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwella cyfleoedd dysgu proffesiynol unigol mewn ffordd strwythuredig a chydlynol. Rydym yn hyderus y bydd y safonau hyn yn ennyn brwdfrydedd ymarferwyr a'u cyflogwyr ac yn eu hysgogi ymhellach wrth iddynt anelu am ragoriaeth a gwella profiadau pawb.

Nid safonau Llywodraeth Cymru yw'r safonau hyn. Maent yn perthyn i'r gweithlu ôl-16 - wedi'u creu gan y sector, yn cael eu gyrru gan y sector, ac yn eiddo i'r sector.

 

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cefndir a chyd-destun

Rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2017, gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â gweithgor oedd yn cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, ynghyd ag unigolion eraill sy’n arbenigo yn y meysydd hyn. Ym mis Mai 2017, cyhoeddwyd safonau proffesiynol drafft ar gyfer ymgysylltu yn ehangach ac i gael sylwadau gan y sector. O ganlyniad i’r broses ymgysylltu, cryfhawyd y safonau diwygiedig hyn a’r canllawiau cyfatebol diolch i sawl awgrym defnyddiol gan unigolion o’r meysydd eu hunain.

Yn 2022-23 sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r safonau proffesiynol a’u diweddaru i gynnwys y sector addysg oedolion.

Un elfen sy’n dangos yn amlwg bod y sector yn perchnogi’r safonau yw eu bod wedi’u hysgrifennu yn y person cyntaf, ‘Wrth fy ngwaith a chydag eraill, byddaf yn . . . ‘.

Elfen hollbwysig arall yw’r syniad creiddiol hwnnw sy’n rhan o addysg alwedigaethol mewn gwledydd eraill ledled y byd, sef bod y rheini sy’n gweithio yn y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion yn tueddu i wisgo dwy het wrth eu gwaith proffesiynol, gan arbenigo mewn ‘galwedigaeth’ ac fel ‘athro’. Dyma llinyn sy’n ganolog i’r safonau a’r canllawiau hyn.

Agwedd arall sy’n benodol i addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion yw’r iaith a ddefnyddir. Mae colegau, canolfannau hyfforddiant a gweithleoedd yn wahanol iawn i ysgolion fel lleoliadau ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu. Mae’r unigolion sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith yn ystyried eu hunain mwy fel ymarferwyr, tiwtoriaid, hyfforddwyr ac aseswyr na fel athrawon. Anaml iawn y bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn defnyddio’r gair ‘addysgeg’ i ddisgrifio’r dulliau addysgu a dysgu y maent yn eu dewis, tra bod hynny’n fwy arferol mewn ysgolion.Yn y sectorau addysg bellach ac addysg oedolion, ‘tiwtor’ neu ‘darlithydd’ yw’r termau cyffredin. Fel arfer, nid yw ymarferwyr y sector dysgu seiliedig ar waith yn gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. Mae deall y gwahaniaethau hyn o ran cyddestun a therminoleg yn bwysig wrth baratoi safonau proffesiynol credadwy, sy’n golygu rhywbeth i’r gynulleidfa darged.

Mae’r safonau proffesiynol hyn yn rhan bwysig o gefnogi pob ymarferydd i roi sylw llawn i’w dysgu proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd, yn unigol ac ar y cyd, er mwyn cael effaith gydweithredol, gydlynus, arloesol, sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gynaliadwy ar bob dysgwr.

Rydym hefyd yn annog cyflogwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r safonau proffesiynol hyn i gefnogi dysgu proffesiynol a’i wneud yn rhan annatod o’u systemau a phrosesau datblygu proffesiynol presennol.

Er nad yw’r safonau proffesiynol yn statudol, maent yn elfen bwysig i’r sector eu hystyried ochr yn ochr â chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) (lle bo’n berthnasol) a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

Rhoddwyd ystyriaeth lawn i fframwaith arolygu Estyn, sy’n pwysleisio pwysigrwydd dysgu proffesiynol. O ystyried hyn, datblygwyd y safonau i ategu’r pwynt hwnnw.

Diben y safonau proffesiynol

Diben y safonau proffesiynol

 

Nod y safonau proffesiynol yw hyrwyddo pa mor broffesiynol yw ymarferwyr y sectorau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion, gosod fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, hyrwyddo gwell arferion drwy hunanfyfyrio a chydweithredu, gan sicrhau addysgu, dysgu ac asesu o safon uchel. Eu prif ddiben yw cefnogi unigolion i fanteisio i’r eithaf ar eu dysgu proffesiynol personol ac fel sail i lywio dadansoddiad o anghenion dysgu proffesiynol.

 

Ar gyfer pwy mae’r safonau hyn?

 

Rhagwelir y bydd y safonau proffesiynol hyn yn cael eu defnyddio gan ymarferwyr ym mhob un o’r grwpiau canlynol:

  • athrawon a sefydliadau addysg bellach
  • ymarferwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • ymarferwyr a darparwyr addysg oedolion a’r gymuned
  • sefydliadau’r sectorau gwirfoddol a chymunedol
  • sefydliadau masnachol a darparwyr hyfforddiant annibynnol
  • cyflogwyr
  • sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus.

 

Sut gellir defnyddio’r safonau?

 

Fel unrhyw ddatganiad o ansawdd, gellir defnyddio’r safonau mewn amryw ffordd, er enghraifft:

  • i gychwyn trafodaeth
  • fel ffocws ar gyfer ymchwil ac ymholiadau
  • fel ysbrydoliaeth ar gyfer mewnbynnau hyfforddi penodol
  • fel fframwaith ar gyfer cynnydd
  • fel agenda ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid
  • fel ffordd o feincnodi darpariaethau hyfforddiant o fewn sefydliadau
  • fel ffordd o ddatblygu strategaethau sefydliadol i wella addysgu a dysgu
  • fel canllaw ar gyfer y broses ymsefydlu
  • i lywio’r gwaith o lunio disgrifiadau swyddi a manylebau o’r person
  • fel dangosydd ar gyfer perfformiad a dysgu proffesiynol a phersonol
  • fel ffordd o sefydlu iaith a disgwyliadau cyffredin
  • i lywio datblygiad y cwricwlwm
  • ar gyfer datblygu sefydliadol, fel egwyddorion craidd ar gyfer sefydlu a rhedeg gwasanaethau.

Lluniwyd y safonau proffesiynol i gefnogi ac ysbrydoli ymarferwyr ac nid i asesu cymhwysedd. Yn ein barn ni, sgwrs o ansawdd uchel ar sail gwybodaeth rhwng ymarferwyr a’u rheolwyr yw’r ffordd orau o wella safonau addysgu, a bydd hynny’n ei dro’n gwella deilliannau i bob dysgwr

Ein dull o fynd ati

Dyma’r egwyddorion allweddol a ddefnyddiwyd i lywio’r gwaith o lunio’r safonau.

  • Proffesiynoldeb deuol – parchu’r ffaith y gall nifer o ymarferwyr fod yn arbenigwyr pwnc a galwedigaeth, ac yn arweinwyr ac arbenigwyr addysgu, dysgu ac asesu.
  • Perchnogaeth – wedi’u datblygu gan ymarferwyr o’r sector yng Nghymru drwy gydweithredu â chyflogwyr, undebau llafur, a rhanddeiliaid eraill, fel fframwaith cryno a defnyddiol.
  • Continwwm twf – yn ysbrydoli staff profiadol a pherthnasol i’r rheini sy’n dechrau o’r newydd.
  • Ymarferwyr yn meddwl yn feirniadol ac yn arloesi – defnyddio’r dulliau addysgu, dysgu ac asesu gorau yn unol ag anghenion amrywiol y dysgwyr.
  • Iaith gyffredin – fframwaith hwylus sy’n cefnogi dysgu proffesiynol unigol a chydweithredol.
Ein model ar gyfer proffesiynoldeb
Mae angen cymysgedd arbennig o werthoedd, sgiliau a gwybodaeth ar ymarferwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion. Gyda’i gilydd mae’r rhain yn diffinio pa mor broffesiynol ydynt, ac mae hynny’n arwain yn anuniongyrchol at well deilliannau i ddysgwyr.

Nod y model tebyg i DNA isod yw dangos sut mae’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n ffurfio proffesiynoldeb yn perthyn i’w gilydd, a sut mae hynny yn ei dro yn arwain at well deilliannau i’r holl ddysgwyr.

Wrth lunio'r model hwn, rydym wedi ystyried Fframwaith ar gyfer Addysg yn 2030 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac rydym yn fwriadol yn gwneud cysylltiadau rhwng addysg pobl ifanc a datblygiad proffesiynol ar gyfer oedolion. Mae’r fframwaith yn ymddangos ar dudalen 2 o Global Competency for an Inclusive World (OECD, 2016) (Saesneg yn unig).

Fel mae’r diagramau sydd i’w gweld uchod ac isod yn awgrymu, rydym yn gweld gwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fel elfennau sydd ynghlwm â’i gilydd yn hytrach na thri pheth ar wahân fel y cânt eu hystyried mewn safonau proffesiynol ar draws y byd.

Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr addysg oedolion yng Nghymru
Caiff y safonau proffesiynol ar gyfer Cymru eu mynegi ar ffurf cyfres o ymrwymiadau personol – Wrth fy ngwaith, a chydag eraill, byddaf yn . . . .

Arddangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles

  • ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu man cychwynnol a’u hopsiynau o ran gwneud cynnydd
  • cydweithio ag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn
  • sicrhau amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant 

  • croesawu amrywiaeth ac arddel agwedd o gynhwysiant
  • herio pob ffurf ar wahaniaethu

Deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog 

  • manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd
  • manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill

Arddangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill

  • gwrando ar farn, sylwadau a syniadau pobl eraill, a’u parchu
  • bod yn enghraifft i eraill wrth arddel ymddygiad teg, cwrtais a pharchus
  • cefnogi lles dysgwyr a chydweithwyr, gan ofyn am gymorth lle bo angen

Diweddaru fy ngwybodaeth am fy mhwnc/pynciau, a sut orau i’w haddysgu a’u hasesu

  • bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes fy mhwnc neu alwedigaeth ac o’r dulliau dysgu ac asesu effeithiol
  • defnyddio asesiadau o ddysgu ac ar gyfer dysgu i gefnogi cynnydd dysgwyr

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arferion

  • defnyddio ac arbrofi gydag ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau
  • ystyried y theorïau a’r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr, gan roi sylw i ba mor berthnasol ydynt yng nghyd-destun fy nulliau dysgu ac addysgu fy hun

Cynllunio dulliau addysgu, dysgu ac asesu effeithiol a’u rhoi ar waith

  • pennu, paratoi, cyflawni ac asesu rhaglenni dysgu
  • defnyddio ystod o wahanol gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau digidol, yn effeithiol er mwyn gwella’r broses ddysgu

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

  • gweithio i feithrin a chynnal perthynas â dysgwyr, cydweithwyr, cyflogwyr, ac unigolion eraill lle bo hynny’n briodol
  • arwain ar bob agwedd ar arferion proffesiynol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt

Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesu eu hunain

  • gweithio gyda phob dysgwr i’w grymuso i osod amcanion a thargedau heriol, ac i werthuso eu cynnydd yn eu herbyn
  • cyfathrebu’n effeithio gyda phob dysgwr, cyflogwr ac eraill fel sy’n briodol

Myfyrio’n feirniadol ar fy ngwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fy hun i wella dysgu

  • datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ar y cyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill
  • gwerthuso fy arferion yn feirniadol a’u haddasu ar ôl myfyrio a chael adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr.

Arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

  • ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau a fydd yn gwarantu dyfodol cynaliadwy i bawb
  • cefnogi dysgwyr i ddysgu’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy.
Enghreifftiau o sut i ddefnyddio’r safonau proffesiynol
Nod yr enghreifftiau isod yw cynnig syniadau ac awgrymiadau o sut y gellid dehongli’r safonau proffesiynol a’u defnyddio o ddydd i ddydd. Ni ddylai eich enghreifftiau fod wedi’u cyfyngu i’r awgrymiadau hyn yn unig a dylid eu defnyddio i lywio sgwrs broffesiynol ac i’ch cefnogi chi gyda’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Caiff y safonau proffesiynol ar gyfer Cymru eu mynegi ar ffurf cyfres o ymrwymiadau personol – Wrth fy ngwaith, a chydag eraill, byddaf yn . . . .

Arddangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles

  • ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu man cychwynnol a’u hopsiynau o ran gwneud cynnydd
  • cydweithio ag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu
  • cefnogi dysgwyr i nodi eu hanghenion a’u hamcanion dysgu
  • cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial drwy osod gwaith/tasgau heriol
  • cydweithio gydag eraill i leihau rhwystrau i ddysgu a chael gwared arnynt
  • sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u haddysgu mewn amgylchedd dysgu diogel, a chymryd camau priodol pan fo angen gan defnyddio polisïau a chanllawiau perthnasol.
  • defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu ac asesu, gan fanteisio i’r eithaf ar wybodaeth a sgiliau i gefnogi dysgwyr.

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant

  • croesawu amrywiaeth ac arddel agwedd o gynhwysiant
  • herio pob ffurf ar wahaniaethu

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd
  • creu amgylchedd lle mae’r dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i herio gwahaniaethu
  • annog dysgwyr i ddeall manteision amrywiaeth
  • trin pob dysgwr a rhanddeiliad yn gyfartal a theg
  • herio ymddygiad annerbyniol.

Deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog

  • manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant Cymru a’i lle yn y byd
  • manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo pwysigrwydd diwylliant Cymru drwy gyflwyno pwnc/maes arall
  • annog a chefnogi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg i ddysgu a gwneud eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • hyrwyddo manteision datblygu sgiliau Cymraeg i ddysgwyr, staff a chyflogwyr, yn arbennig yng nghyd-destun y gweithle/sector a/neu’r pwnc.

Arddangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill

  • gwrando ar farn, sylwadau a syniadau pobl eraill, a’u parchu
  • bod yn enghraifft i eraill wrth arddel ymddygiad teg, cwrtais a pharchus

Er enghraifft, drwy:

  • drin pob dysgwr a chydweithiwr yn gyfartal a theg, gan sicrhau eu bod i gyd yn cael cyfle cyfartal i ddweud eu dweud
  • gwrando ar farn eraill, ac ymateb yn gadarnhaol
  • ymddwyn yn broffesiynol bob amser
  • ystyried fy agweddau a chredoau personol a phroffesiynol fy hun.

Diweddaru fy ngwybodaeth am fy mhwnc/pynciau, a sut orau i’w haddysgu a’u hasesu

  • bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ym maes fy mhwnc neu alwedigaeth ac o’r dulliau dysgu ac asesu effeithiol
  • defnyddio asesiadau o ddysgu ac ar gyfer dysgu i gefnogi cynnydd dysgwyr

Er enghraifft, drwy:

  • gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol
  • bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn fy maes pwnc/galwedigaeth gan sicrhau bod y dysgwyr yn elwa ar yr wybodaeth a sgiliau diweddaraf
  • bodloni gofynion datblygiad proffesiynol parhaus sefydliadau lle bo hynny’n briodol
  • cadw Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) wedi’i ddiweddaru neu system arall yn cynnwys enghreifftiau o ymarfer myfyriol
  • myfyrio ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arferion

  • defnyddio ac arbrofi gydag ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau
  • ystyried y theorïau a’r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr, gan roi sylw i ba mor berthnasol ydynt yng nghyd-destun fy nulliau dysgu ac addysgu fy hun

Er enghraifft, drwy:

  • gydweithio â chydweithwyr i rannu a thrafod syniadau a dulliau arloesol o ganlyniad i ymchwil ar y cyd
  • cymryd rhan lawn mewn rhwydweithiau arfer broffesiynol
  • rhannu arferion gorau a chanfyddiadau ymchwil gyda chydweithwyr i gefnogi gwelliant parhaus.

Cynllunio dulliau addysgu, dysgu ac asesu effeithiol a’u rhoi ar waith

  • pennu, paratoi, cyflawni ac asesu rhaglenni dysgu
  • defnyddio ystod o wahanol gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau digidol, yn effeithiol er mwyn gwella’r broses ddysgu

Er enghraifft, drwy:

  • ddefnyddio systemau addysgu a dysgu digidol i gefnogi addysgu, dysgu ac asesu
  • defnyddio data dysgwyr i olrhain ac adolygu cynnydd dysgwyr er mwyn llywio’r gwaith cynllunio, gan sicrhau y cyflwynir y rhaglen/pwnc yn effeithiol
  • creu a chynllunio amgylcheddau dysgu lle mae dysgwyr yn cymryd rhan lawn fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cydweithredol
  • sicrhau bod pob dysgwr yn cael adborth rheolaidd, adeiladol i gefnogi ei gynnydd.

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

  • gweithio i feithrin a chynnal perthynas â dysgwyr, cydweithwyr, cyflogwyr, ac unigolion eraill lle bo hynny’n briodol
  • arwain ar bob agwedd ar arferion proffesiynol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt

Er enghraifft, drwy:

  • helpu dysgwyr i reoli ac arwain eu dysgu eu hunain
  • cymryd rhan lawn mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol
  • cydweithio â chyfoedion i adolygu effaith addysgu, dysgu ac asesu ar ddeilliannau dysgwyr a’u perfformiad eu hunain
  • cydweithio â chyfoedion, dysgwyr a rhanddeiliaid i gefnogi ac ysgogi cynnydd dysgwyr
  • cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a cheisio cyfleoedd i rannu gwybodaeth â’r rhwydwaith 
  • bod yn barod i rannu profiadau i hyrwyddo addysgu, dysgu ac asesu ardderchog yn lleol a chenedlaethol
  • sicrhau cyfathrebu priodol â’r holl randdeiliaid.

Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesu eu hunain

  • gweithio gyda phob dysgwr i’w grymuso i osod amcanion a thargedau heriol, ac i werthuso eu cynnydd yn eu herbyn
  • cyfathrebu’n effeithio gyda phob dysgwr, cyflogwr ac eraill fel sy’n briodo

Er enghraifft, drwy:

  • cefnogi dysgwyr i nodi eu hanghenion a’u hamcanion dysgu
  • cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial drwy osod gwaith/tasgau heriol
  • arwain dysgwyr i adolygu eu cynnydd eu hunain
  • defnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth fy hun i ennyn diddordeb, annog a chymell dysgwyr
  • deall y cysylltiadau rhwng cyflogaeth/gyrfaoedd a fy ngwybodaeth am fy mhwnc/galwedigaeth fy hun
  • dangos dealltwriaeth o holl anghenion rhanddeiliaid
  • defnyddio technoleg i gyfathrebu, rhannu gwybodaeth ac annog y defnydd o lwyfannau ar-lein i rannu profiadau addysgu, dysgu ac asesu.

 

Myfyrio’n feirniadol ar fy ngwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fy hun i wella dysgu

  • datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ar y cyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill
  • gwerthuso fy arferion yn feirniadol a’u haddasu ar ôl myfyrio a chael adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr

Er enghraifft, drwy:

  • adolygu sampl o fy nghynlluniau gwersi/asesu yn gyson er mwyn asesu a mesur effaith pob sesiwn ar ddysgwyr
  • ceisio barn dysgwyr am fy nulliau addysgu/asesu a/neu gyflwyno, ac adolygu hynny
  • creu cyfleoedd a manteisio arnynt i drafod ac asesu fy ngwaith â chydweithwyr ac ymarferwyr eraill
  • ceisio rhannu syniadau sy’n gweithio’n dda a rhannu arferion da ar y cyd â chydweithwyr i gefnogi gwell deilliannau dysgu
  • bod yn ymwybodol o sut y gellir defnyddio technoleg i ddilyn hynt a chefnogi dysgwyr i ddysgu
  • bod yn ymwybodol o dechnoleg sy’n newid yn barhaus lle bo hynny’n briodol, a’r gofynion i roi cymorth llythrennedd a rhifedd effeithiol

Arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

  • ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau sefyllfa sero net
  • cefnogi dysgwyr i ddysgu’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Er enghraifft, drwy:

  • annog cydweithwyr a dysgwyr i adolygu erthyglau a llenyddiaeth ar newid hinsawdd
  • bod yn ymwybodol o’r adnoddau rydym yn eu defnyddio bob dydd
  • lleihau adnoddau carbon uchel o blaid opsiynau carbon isel.