Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn addysg Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfartal y ddau lwybr o fewn system addysg sy’n abl i greu'r gweithlu medrus, arloesol a hyblyg sydd ei angen ar Gymru. Mae Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 o ansawdd uchel sy'n amrywiol, yn hyblyg, yn gydweithredol ac yn darparu ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru yn ganolog i'r weledigaeth hon.
Boed drwy ddarparu opsiynau deniadol i bobl ifanc 14 i 19 oed, drwy gefnogi dysgwyr i ailgydio mewn dysgu yn ein cymunedau, neu drwy ddarparu cyfleoedd parhaus i'r rhai mewn cyflogaeth, rydym yn anelu at gynnig cyfleoedd dysgu o'r ansawdd uchaf. O fewn y cyd-destun hwn, mae'n hanfodol bod ein hymarferwyr yn cael yr adnoddau a'r gefnogaeth gywir i hwyluso rhagoriaeth yn eu hymarfer proffesiynol.
Nod y Safonau Proffesiynol a nodir yma yw darparu fframwaith uchelgeisiol i'r sector weithio tuag ato, â dysgu proffesiynol a chydweithio wrth ei wraidd. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r sector i ddatblygu'r safonau hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwella cyfleoedd dysgu proffesiynol unigol mewn ffordd strwythuredig a chydlynol. Rydym yn hyderus y bydd y safonau hyn yn ennyn brwdfrydedd ymarferwyr a'u cyflogwyr ac yn eu hysgogi ymhellach wrth iddynt anelu am ragoriaeth a gwella profiadau pawb.
Nid safonau Llywodraeth Cymru yw'r safonau hyn. Maent yn perthyn i'r gweithlu ôl-16 - wedi'u creu gan y sector, yn cael eu gyrru gan y sector, ac yn eiddo i'r sector.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2017, gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â gweithgor oedd yn cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, ynghyd ag unigolion eraill sy’n arbenigo yn y meysydd hyn i ddatblygu set o safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Ym mis Mai 2017, cyhoeddwyd safonau proffesiynol drafft ar gyfer ymgysylltu yn ehangach ac i gael sylwadau gan y sector. O ganlyniad i’r broses ymgysylltu, cryfhawyd y safonau diwygiedig hyn a’r canllawiau cyfatebol, diolch i sawl awgrym defnyddiol gan unigolion o’r meysydd eu hunain. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.
Ym mis Ebrill 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu safonau proffesiynol ar gyfer staff ac arweinwyr cymorth mewn AB a WBL, ac i ymarferwyr dysgu oedolion.
Rhwng mis Medi 2022 a mis Mawrth 2023, bu’r Cyngor Gweithlu Addysg ar rhan Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion i gyd-lunio dwy set ychwanegol o safonau (ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith) ac i ymgorffori addysg oedolion yn y safonau presennol.
Mae’r safonau proffesiynol hyn yn rhan bwysig o gefnogi pob ymarferydd i roi sylw llawn i’w dysgu proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd, yn unigol ac ar y cyd, er mwyn cael effaith gydweithredol, gydlynus, arloesol, sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gynaliadwy ar bob dysgwr.
Rydym hefyd yn annog cyflogwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r safonau proffesiynol hyn i gefnogi dysgu proffesiynol a’i wneud yn rhan annatod o’u systemau a phrosesau datblygu proffesiynol presennol.
Er nad yw’r safonau proffesiynol yn statudol, maent yn elfen bwysig i’r sector eu hystyried ochr yn ochr â chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).
Diben y safonau proffesiynol
Nod y safonau proffesiynol yw hyrwyddo proffesiynoldeb arweinwyr ym meysydd addysg bellach (AB) a dysgu seiliedig ar waith, darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, hyrwyddo ymarfer gwell trwy hunanfyfyrdod a chydweithredu, ac felly helpu i sicrhau arweinyddiaeth o ansawdd uchel mewn addysgu, dysgu ac asesu. Eu prif ddiben yw cefnogi unigolion i wneud y mwyaf o’u dysgu proffesiynol personol a bod yn sylfaen i lywio dadansoddiad o anghenion dysgu proffesiynol.
I bwy mae’r safonau hyn?
Rhagwelir y byddant yn cael eu defnyddio gan ymarferwyr yn yr holl grwpiau canlynol:
- arweinwyr a sefydliadau addysg bellach
- arweinwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- unigolion sy’n awyddus i weithio mewn swyddi arwain ym meysydd AB a dysgu seiliedig ar waith
- sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol
- sefydliadau masnachol a darparwyr hyfforddiant annibynnol
- darparwyr addysg oedolion a dysgu yn y gymuned
- cyflogwyr
- sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.
Sut gellir defnyddio’r safonau?
Fel unrhyw ddatganiad o ansawdd, gellir defnyddio’r safonau mewn amryw ffordd, er enghraifft:
- i gychwyn trafodaeth
- fel ffocws ar gyfer ymchwil ac ymholiadau
- fel ysbrydoliaeth ar gyfer mewnbynnau hyfforddi penodol
- fel fframwaith ar gyfer cynnydd
- fel agenda ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid
- fel ffordd o feincnodi darpariaethau hyfforddiant o fewn sefydliadau
- fel ffordd o ddatblygu strategaethau sefydliadol i wella addysgu a dysgu
- fel canllaw ar gyfer y broses ymsefydlu
- i lywio’r gwaith o lunio disgrifiadau swyddi a manylebau o’r person
- fel dangosydd ar gyfer perfformiad a dysgu proffesiynol a phersonol
- fel ffordd o sefydlu iaith a disgwyliadau cyffredin
- i lywio datblygiad y cwricwlwm
- ar gyfer datblygu sefydliadol, fel egwyddorion craidd ar gyfer sefydlu a rhedeg gwasanaethau.
Cawsant eu llunio i gefnogi system dysgu proffesiynol lle y caiff arweinwyr mewn colegau AB a sefydliadau dysgu seiliedig ar waith y ffydd a’r grym i ddewis y dulliau gorau i ddatblygu eu hymarfer, mewn ffordd sy’n addas i’w cyd-destun lleol penodol.
Dyma’r egwyddorion allweddol a ddefnyddiwyd i lywio’r gwaith o lunio’r safonau.
- Proffesiynoldeb deuol – parchu bod llawer o ymarferwyr yn gallu bod yn arbenigwyr pwnc a galwedigaethol, yn ogystal ag arwain (a meddu ar arbenigedd mewn) addysgu, dysgu ac asesu
- Perchnogaeth – wedi’u datblygu gan ymarferwyr o’r sector yng Nghymru, ar y cyd â chyflogwyr, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, fel fframwaith cryno a defnyddiol
- Continwwm twf – defnyddiol ac ysbrydoledig i arweinwyr profiadol, yn ogystal â bod yn berthnasol i’r rhai sy’n awyddus i ymgymryd â rolau arwain.
- Ymarferwyr fel meddylwyr beirniadol ac arloeswyr – datrys problemau a gweithredu newid er mwyn sicrhau bod addysgu, dysgu ac asesu o’r ansawdd uchaf a’u bod yn bodloni anghenion amrywiol dysgwyr.
- Iaith gyffredin – fframwaith hygyrch i gefnogi dysgu proffesiynol unigol a chydweithredol.
Nod y model tebyg i DNA uchod yw dangos sut mae’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n ffurfio proffesiynoldeb yn perthyn i’w gilydd, a sut mae hynny yn ei dro yn arwain at well deilliannau i’r holl ddysgwyr.
Fel mae'r diagramau sydd i'w gweld uchod ac isod yn awgrymu, rydym yn gweld gwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fel elfennau sydd ynghlwm â'i gilydd yn hytrach na thri pheth ar wahân fel y cânt eu hystyried mewn safonau proffesiynol ar draws y byd.
Yn dangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles
- galluogi staff i ddatblygu strategaethau a dulliau i ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu mannau cychwyn a’u hopsiynau dilyniant
- sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi, eu hyfforddi a’u mentora’n llawn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn
- sicrhau amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol
Yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant
- sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn ymwneud ag amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hyrwyddo, eu gweithredu, eu diweddaru’n gyson, a’u heffaith yn cael ei hasesu
- sicrhau bod prosesau ar waith, ac yn cael eu monitro, i alluogi staff ar draws y sefydliad i herio gwahaniaethu o bob math
Yn deall pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru fel cenedl ddwyieithog
- nodi a manteisio ar gyfleoedd i’r sefydliad (a chydweithwyr) ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd
- dilyn cyfleoedd ar gyfer fy natblygiad fy hun yn y Gymraeg, a sicrhau bod gan staff yr hyder a’r medrau
Yn dangos arweinyddiaeth, uniondeb, cwrteisi a pharch tuag at bobl eraill
- gweithredu fel model rôl ar gyfer ymddygiadau teg, cwrtais a pharchus a dangos gwerthoedd proffesiynol arweinyddiaeth
- gwrando ar safbwyntiau pobl eraill, a’u parchu, a sicrhau bod barnau a syniadau cydweithwyr ar draws y sefydliad yn cael eu clywed
- cefnogi lles dysgwyr a chydweithwyr a gofyn am gymorth gan bobl eraill pan fydd angen
Yn cynnal ac yn diweddaru gwybodaeth am bolisïau a strategaethau sy’n berthnasol i’m sector
- dilyn hynt a helynt ymarfer da allanol ac ymchwil o ran fy meysydd arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth am y rhaglenni rydym yn eu cyflwyno fel sefydliad, a deall newidiadau
- sicrhau bod strategaethau asesu priodol ar waith i gefnogi cynnydd dysgwyr, a monitro eu heffaith
- cynnal ymwybyddiaeth o’r cyd-destun polisi addysg ehangach (ar lefel leol, ranbarthol, Cymru a’r DU) sy’n effeithio ar fy sefydliad
Yn gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ymchwil a datblygiadau allweddol mewn polisi a deddfwriaeth addysg a manteisio ar gyfleoedd i rannu a chymhwyso mewnwelediadau
- myfyrio ar yr ymchwil a’r damcaniaethau diweddaraf gyda chydweithwyr ac archwilio’u perthnasedd i’m cyd-destun arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth gyfoes am ddatblygiadau lleol a chenedlaethol i gynorthwyo â strategaeth a meincnodi
- ymgysylltu ag ymchwil weithredu ystyrlon i wella addysgu a dysgu, a phrofiad dysgwyr
Yn datblygu ac yn gweithredu polisïau a strategaethau effeithiol i gefnogi cyflwyno dysgu, addysgu ac asesu effeithiol
- hyrwyddo a hwyluso darpariaeth effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi leol a chenedlaethol
- arwain arferion a dulliau sy’n galluogi llythrennedd digidol a’r defnydd o dechnolegau digidol i ymestyn addysgu a dysgu
Yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol
- meithrin a chynnal perthnasoedd strategol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys dysgwyr
- gweithredu fel llysgennad ar ran y sefydliad
- chwarae rôl arweiniol mewn grwpiau mewnol a chynrychioli fy sefydliad trwy gymryd rhan yn weithredol mewn grwpiau a rhwydweithiau allanol
- defnyddio sgiliau trafod uwch i hwyluso perthnasoedd proffesiynol â chydweithwyr a rhanddeiliaid
Yn sefydlu ac yn cynnal prosesau a dulliau strategol sy’n galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesiadau eu hunain
- sicrhau bod prosesau ar waith sy’n grymuso dysgwyr i osod nodau a thargedau heriol a gwerthuso’u cynnydd eu hunain yn erbyn y rhain, a monitro gweithredu ac effaith y dulliau hyn
- sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, a phobl eraill, fel y bo’n briodol
Yn myfyrio’n feirniadol ar eu gwerthoedd, eu gwybodaeth a’u sgiliau eu hunain i wella dysgu ac arweinyddiaeth
- datblygu fy sgiliau arwain fy hun ynghyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill
- gwerthuso fy ymarfer fy hun yn feirniadol, a’i addasu yn sgil myfyrio ac adborth
Yn dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd
- sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn ymwneud â chynaliadwyedd yn cael eu datblygu, eu hyrwyddo, eu gweithredu, a’u heffaith yn cael ei hasesu
- ysbrydoli, cymell a galluogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net
- sicrhau bod prosesau ar waith i alluogi dysgwyr i gaffael y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy
Yn dangos arweinyddiaeth a llywodraethu strategol effeithiol
- sicrhau bod fy ngwybodaeth am lywodraethu sefydliadol ac arweinyddiaeth strategol effeithiol yn parhau i fod yn gyfoes a pherthnasol
- sicrhau bod fy arweinyddiaeth a’m llywodraethu strategol yn diwallu anghenion dysgwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid
- deall y ffactorau allweddol sydd eu hangen i gyflawni fy rôl yn effeithiol o ran ansawdd, rheolaeth ariannol a chydymffurfio deddfwriaethol
Caiff y safonau proffesiynol ar gyfer Cymru eu mynegi ar ffurf cyfres o ymrwymiadau personol – Wrth fy ngwaith, a chydag eraill, byddaf yn . . .
Yn dangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles
- galluogi staff i ddatblygu strategaethau a dulliau i ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu mannau cychwyn a’u hopsiynau dilyniant
- sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi, eu hyfforddi a’u mentora’n llawn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn
- sicrhau amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol
Er enghraifft, trwy:
- hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ddysgu
- cydweithio â phobl eraill i leihau a dileu rhwystrau rhag dysgu
- cynorthwyo staff i ddatblygu a gweithredu polisïau ac arweiniad sy’n sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynorthwyo a’u haddysgu mewn amgylchedd dysgu diogel
- datblygu polisïau ac arweiniad sy’n sicrhau diogelwch ar-lein a lles dysgwyr a staff
- arwain a chymryd rhan mewn grwpiau a fforymau rhanddeiliaid dysgwyr
Yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant
- sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn ymwneud ag amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hyrwyddo, eu gweithredu, eu diweddaru’n gyson, a’u heffaith yn cael ei hasesu
- sicrhau bod prosesau ar waith, ac yn cael eu monitro, i alluogi staff ar draws y sefydliad i herio gwahaniaethu o bob math
Er enghraifft, trwy:
- fynd ati i hyrwyddo amrywiaeth a chyfle a hyrwyddo ymarfer gwrth-hiliol
- creu amgylchedd lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i herio gwahaniaethu
- annog dysgwyr a staff i ddeall manteision amrywiaeth
- trin yr holl ddysgwyr, staff a rhanddeiliaid yn gyfartal ac yn deg
- herio ymddygiad annerbyniol
Yn deall pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru fel cenedl ddwyieithog
- nodi a manteisio ar gyfleoedd i’r sefydliad (a chydweithwyr) ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd
- dilyn cyfleoedd ar gyfer fy natblygiad fy hun yn y Gymraeg, a sicrhau bod gan staff yr hyder a’r medrau
Er enghraifft, trwy:
- hyrwyddo pwysigrwydd diwylliant amrywiol Cymru (gan gynnwys trwy ddiwrnodau a digwyddiadau arbennig)
- sicrhau bod prosesau ar waith i gynorthwyo dysgwyr sy’n siarad Cymraeg i ddysgu a chael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg
- hyrwyddo manteision datblygu medrau Cymraeg ymhlith dysgwyr, staff a chyflogwyr, yn enwedig yng nghyd-destun y gweithle/sector a/neu’r maes pwnc
Yn dangos arweinyddiaeth, uniondeb, cwrteisi a pharch tuag at bobl eraill
- gweithredu fel model rôl ar gyfer ymddygiadau teg, cwrtais a pharchus a dangos gwerthoedd proffesiynol arweinyddiaeth
- gwrando ar safbwyntiau pobl eraill, a’u parchu, a sicrhau bod barnau a syniadau cydweithwyr ar draws y sefydliad yn cael eu clywed
- cefnogi lles dysgwyr a chydweithwyr a gofyn am gymorth gan bobl eraill pan fydd angen
Er enghraifft, trwy:
- drin yr holl ddysgwyr a chydweithwyr yn gyfartal ac yn deg, gan sicrhau bod pob un ohonynt yn cael cyfle cyfartal i gael eu clywed
- gwrando ar safbwyntiau pobl eraill, ac ymateb yn gadarnhaol iddynt
- ymddwyn yn broffesiynol bob amser
- myfyrio ar ymddygiad proffesiynol ac agweddau a chredoau personol
Yn cynnal ac yn diweddaru gwybodaeth am bolisïau a strategaethau sy’n berthnasol i’m sector
- dilyn hynt a helynt ymarfer da allanol ac ymchwil o ran fy meysydd arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth am y rhaglenni rydym yn eu cyflwyno fel sefydliad, a deall newidiadau
- sicrhau bod strategaethau asesu priodol ar waith i gefnogi cynnydd dysgwyr, a monitro eu heffaith
- cynnal ymwybyddiaeth o’r cyd-destun polisi addysg ehangach (ar lefel leol, ranbarthol, Cymru a’r DU) sy’n effeithio ar fy sefydliad
Er enghraifft, trwy:
- gymryd rhan yn weithredol mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol
- dilyn hynt a helynt datblygiadau o ran fy meysydd arweinyddiaeth, gan sicrhau bod dysgwyr a staff yn elwa ar y wybodaeth a’r medrau diweddaraf
- myfyrio ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf ar y cyd â chydweithwyr i sicrhau gwelliant parhaus
- diweddaru polisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd i sicrhau prosesau a strwythurau cyson
Yn gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ymchwil a datblygiadau allweddol mewn polisi a deddfwriaeth addysg a manteisio ar gyfleoedd i rannu a chymhwyso mewnwelediadau
- myfyrio ar yr ymchwil a’r damcaniaethau diweddaraf gyda chydweithwyr ac archwilio’u perthnasedd i’m cyd-destun arweinyddiaeth
- cynnal gwybodaeth gyfoes am ddatblygiadau lleol a chenedlaethol i gynorthwyo â strategaeth a meincnodi
- ymgysylltu ag ymchwil weithredu ystyrlon i wella addysgu a dysgu, a phrofiad dysgwyr
Er enghraifft, trwy:
- gydweithio â chydweithwyr i rannu a thrafod syniadau ac arloesiadau o ganlyniad i ymchwil ar y cyd
- mynd ati i ymgysylltu â rhwydweithiau ymarfer proffesiynol
- rhannu ymarfer gorau (a dysgu oddi wrtho) a chanfyddiadau ymchwil, gyda chydweithwyr, i gefnogi gwelliant parhaus
- adolygu mesurau gweithredu ac effaith yn rheolaidd er mwyn sicrhau ymagwedd at ymarfer sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth
Yn datblygu ac yn gweithredu polisïau a strategaethau effeithiol i gefnogi cyflwyno dysgu, addysgu ac asesu effeithiol
- hyrwyddo a hwyluso darpariaeth effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi leol a chenedlaethol
- arwain arferion a dulliau sy’n galluogi llythrennedd digidol a’r defnydd o dechnolegau digidol i ymestyn addysgu a dysgu
Er enghraifft, trwy:
- ddefnyddio data i olrhain ac adolygu cynnydd dysgwyr i lywio cynllunio, gan sicrhau darpariaeth effeithiol
- hwyluso a hyrwyddo amgylcheddau dysgu cefnogol lle mae dysgwyr yn gyfranogwyr gweithredol fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cydweithredol
- sicrhau bod asesu ffurfiannol yn ffurfio rhan o’r broses addysgu i gefnogi dilyniant
- sicrhau ymagwedd integredig at asesu ac addysgeg
- cynllunio ar gyfer dilyniant dysgwyr
Yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol
- meithrin a chynnal perthnasoedd strategol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys dysgwyr
- gweithredu fel llysgennad ar ran y sefydliad
- chwarae rôl arweiniol mewn grwpiau mewnol a chynrychioli fy sefydliad trwy gymryd rhan yn weithredol mewn grwpiau a rhwydweithiau allanol
- defnyddio sgiliau trafod uwch i hwyluso perthnasoedd proffesiynol â chydweithwyr a rhanddeiliaid
Er enghraifft, trwy:
- chwarae rôl arweiniol mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol
- cydweithio â chydweithwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid i gefnogi a gyrru cynnydd dysgwyr
- cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain a chwilio am gyfleoedd i rannu gwybodaeth â rhwydweithiau
- bod yn barod i rannu profiadau i hyrwyddo arweinyddiaeth ragorol yn lleol ac yn genedlaethol
- sicrhau cyfathrebu priodol â’r holl randdeiliaid
- cynrychioli fy sefydliad mewn grwpiau a rhwydweithiau mewnol ac allanol
Yn sefydlu ac yn cynnal prosesau a dulliau strategol sy’n galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesiadau eu hunain
- sicrhau bod prosesau ar waith sy’n grymuso dysgwyr i osod nodau a thargedau heriol a gwerthuso’u cynnydd eu hunain yn erbyn y rhain, a monitro gweithredu ac effaith y dulliau hyn
- sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â’r holl ddysgwyr, cyflogwyr, a phobl eraill, fel y bo’n briodol
Er enghraifft, trwy:
- sefydlu prosesau a dulliau sy’n cynorthwyo staff i alluogi dysgwyr i nodi eu hanghenion a’u nodau fel dysgwyr
- dangos dealltwriaeth o holl anghenion rhanddeiliaid
Yn myfyrio’n feirniadol ar eu gwerthoedd, eu gwybodaeth a’u sgiliau eu hunain i wella dysgu ac arweinyddiaeth
- datblygu fy sgiliau arwain fy hun ynghyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill
- gwerthuso fy ymarfer fy hun yn feirniadol, a’i addasu yn sgil myfyrio ac adborth
Er enghraifft, trwy:
- ofyn am farn cydweithwyr am fy arweinyddiaeth, a’i hadolygu
- creu ac achub ar gyfleoedd i drafod fy ngwaith a chael cymheiriaid i’w asesu gyda chydweithwyr ac ymarferwyr eraill
- ceisio rhannu pethau sy’n gweithio’n dda a rhannu ymarfer da ar y cyd â chymheiriaid i gefnogi deilliannau dysgu gwell
- bod yn ymwybodol o sut y gellir defnyddio technoleg i olrhain a chynorthwyo dysgwyr
- dilyn hynt a helynt technoleg sy’n newid yn barhaus, lle bo’n berthnasol, a gofynion sicrhau bod cymorth effeithiol ar gyfer llythrennedd a rhifedd
Yn dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd
- sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn ymwneud â chynaliadwyedd yn cael eu datblygu, eu hyrwyddo, eu gweithredu, a’u heffaith yn cael ei hasesu
- ysbrydoli, cymell a galluogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net
- sicrhau bod prosesau ar waith i alluogi dysgwyr i gaffael y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy
Er enghraifft, trwy:
- sicrhau bod polisïau perthnasol yn cael eu hyrwyddo, eu gweithredu, a’u heffaith yn cael ei hasesu
- sbarduno cydweithwyr a dysgwyr i adolygu erthyglau a llenyddiaeth ar newid hinsawdd
- gweithredu a hyrwyddo mentrau gwyrdd, yn fewnol ac yn allanol
- ymgysylltu â chyflenwyr i sicrhau arferion busnes cynaliadwy
Yn dangos arweinyddiaeth a llywodraethu strategol effeithiol
- sicrhau bod fy ngwybodaeth am lywodraethu sefydliadol ac arweinyddiaeth strategol effeithiol yn parhau i fod yn gyfoes a pherthnasol
- sicrhau bod fy arweinyddiaeth a’m llywodraethu strategol yn diwallu anghenion dysgwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid
- deall y ffactorau allweddol sydd eu hangen i gyflawni fy rôl yn effeithiol o ran ansawdd, rheolaeth ariannol a chydymffurfio deddfwriaethol
Er enghraifft, trwy:
- ymgysylltu’n feirniadol ag ymchwil a datblygiadau i ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o arweinyddiaeth a rheolaeth
- ystyried effaith fy arweinyddiaeth ar ddysgwyr, cydweithwyr a’r sefydliad ehangach
- sicrhau cydymffurfio â’r holl gyfrifoldebau statudol a rheoleiddio, ac achub ar gyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu