Rhagair y Gweinidog
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn addysg Cymru

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn addysg Cymru.  Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfartal y ddau lwybr o fewn system addysg sy’n abl i greu'r gweithlu medrus, arloesol a hyblyg sydd ei angen ar Gymru. Mae Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 o ansawdd uchel sy'n amrywiol, yn hyblyg, yn gydweithredol ac yn darparu ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru yn ganolog i'r weledigaeth hon.

Boed drwy ddarparu opsiynau deniadol i bobl ifanc 14 i 19 oed, drwy gefnogi dysgwyr i ailgydio mewn dysgu yn ein cymunedau, neu drwy ddarparu cyfleoedd parhaus i'r rhai mewn cyflogaeth, rydym yn anelu at gynnig cyfleoedd dysgu o'r ansawdd uchaf. O fewn y cyd-destun hwn, mae'n hanfodol bod ein hymarferwyr yn cael yr adnoddau a'r gefnogaeth gywir i hwyluso rhagoriaeth yn eu hymarfer proffesiynol.

Nod y Safonau Proffesiynol a nodir yma yw darparu fframwaith uchelgeisiol i'r sector weithio tuag ato, â dysgu proffesiynol a chydweithio wrth ei wraidd. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r sector i ddatblygu'r safonau hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwella cyfleoedd dysgu proffesiynol unigol mewn ffordd strwythuredig a chydlynol.  Rydym yn hyderus y bydd y safonau hyn yn ennyn brwdfrydedd ymarferwyr a'u cyflogwyr ac yn eu hysgogi ymhellach wrth iddynt anelu am ragoriaeth a gwella profiadau pawb.

Nid safonau Llywodraeth Cymru yw'r safonau hyn.  Maent yn perthyn i'r gweithlu ôl-16 - wedi'u creu gan y sector, yn cael eu gyrru gan y sector, ac yn eiddo i'r sector.

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
 

Cefndir a chyd-destun

Rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2017, gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â gweithgor oedd yn cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, ynghyd ag unigolion eraill sy’n arbenigo yn y meysydd hyn i ddatblygu set o safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Ym mis Mai 2017, cyhoeddwyd safonau proffesiynol drafft ar gyfer ymgysylltu yn ehangach ac i gael sylwadau gan y sector. O ganlyniad i’r broses ymgysylltu, cryfhawyd y safonau diwygiedig hyn a’r canllawiau cyfatebol, diolch i sawl awgrym defnyddiol gan unigolion o’r meysydd eu hunain. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac  ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Ym mis Ebrill 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu safonau proffesiynol ar gyfer staff ac arweinwyr cymorth mewn AB a WBL, ac i ymarferwyr dysgu oedolion.

Rhwng mis Medi 2022 a mis Mawrth 2023, bu’r Cyngor Gweithlu Addysg ar rhan Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion i gyd-lunio dwy set ychwanegol o safonau (ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr mewn addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith) ac i ymgorffori addysg oedolion yn y safonau presennol. 

Mae’r safonau proffesiynol hyn yn rhan bwysig o gefnogi pob ymarferydd i roi sylw llawn i’w dysgu proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd, yn unigol ac ar y cyd, er mwyn cael effaith gydweithredol, gydlynus, arloesol, sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gynaliadwy ar bob dysgwr.

Rydym hefyd yn annog cyflogwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r safonau proffesiynol hyn i gefnogi dysgu proffesiynol a’i wneud yn rhan annatod o’u systemau a phrosesau datblygu proffesiynol presennol.

Er nad yw’r safonau proffesiynol yn statudol, maent yn elfen bwysig i’r sector eu hystyried ochr yn ochr â chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

 

Diben y safonau proffesiynol

Nod y safonau proffesiynol yw hyrwyddo pa mor broffesiynol yw staff cymorth y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, gosod fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, hyrwyddo gwell arferion drwy hunanfyfyrio a chydweithredu, gan sicrhau cymorth o safon uchel. Eu prif ddiben yw cefnogi unigolion i fanteisio i’r eithaf ar eu dysgu proffesiynol personol ac fel sail i lywio dadansoddiad o anghenion dysgu proffesiynol

 

Ar gyfer pwy mae’r safonau hyn? 

 

At ddibenion y safonau hyn, diffinnir 'staff cymorth' fel staff sy'n delio â myfyrwyr ac sy'n cefnogi proses ddysgu a lles y myfyrwyr a’r prosesau addysgu a dysgu. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o rolau, gan gynnwys (ymhlith eraill) cyfarwyddo, asesu, gwaith technegol, coetsio dysgu a chymorth arbenigol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu broblemau ymddygiad.

Rhagwelir y byddant yn cael eu defnyddio gan ymarferwyr ym mhob un o'r grwpiau canlynol:

  • staff cymorth a sefydliadau addysg bellach
  • staff cymorth a darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • sefydliadau'r sectorau gwirfoddol a chymunedol
  • sefydliadau masnachol a darparwyr hyfforddiant annibynnol
  • darparwyr addysg oedolion a’r gymuned
  • cyflogwyr
  • sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus.

 

Sut gellir defnyddio’r safonau? 

 

Fel unrhyw ddatganiad o ansawdd, gellir defnyddio’r safonau mewn amryw ffordd, er enghraifft: i gychwyn trafodaeth

  • fel ffocws ar gyfer ymchwil ac ymholiadau
  • fel ysbrydoliaeth ar gyfer mewnbynnau hyfforddi penodol
  • fel fframwaith ar gyfer cynnydd
  • fel agenda ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid
  • fel ffordd o feincnodi darpariaethau hyfforddiant o fewn sefydliadau
  • fel ffordd o ddatblygu strategaethau sefydliadol i wella addysgu a dysgu
  • fel canllaw ar gyfer y broses ymsefydlu
  • i lywio’r gwaith o lunio disgrifiadau swyddi a manylebau o’r person
  • fel dangosydd ar gyfer perfformiad a dysgu proffesiynol a phersonol
  • fel ffordd o sefydlu iaith a disgwyliadau cyffredin
  • i lywio datblygiad y cwricwlwm
  • ar gyfer datblygu sefydliadol, fel egwyddorion craidd ar gyfer sefydlu a rhedeg gwasanaethau.

Lluniwyd y safonau proffesiynol i gefnogi ac ysbrydoli ymarferwyr ac nid i asesu cymhwysedd. Yn ein barn ni, sgwrs o ansawdd uchel ar sail gwybodaeth rhwng ymarferwyr a’u rheolwyr yw’r ffordd orau o wella safonau, a bydd hynny yn ei dro yn gwella deilliannau i bob dysgwr.

 

Ein dull o fynd ati

Dyma’r egwyddorion allweddol a ddefnyddiwyd i lywio’r gwaith o lunio’r safonau.

  • Proffesiynoldeb deuol – parchu’r ffaith y gall nifer o ymarferwyr fod yn arbenigwyr pwnc a galwedigaeth, ac yn arweinwyr ac arbenigwyr addysgu, dysgu ac asesu.
  • Perchnogaeth – wedi’u datblygu gan ymarferwyr o’r sector yng Nghymru drwy gydweithredu â chyflogwyr, undebau llafur, a rhanddeiliaid eraill, fel fframwaith cryno a defnyddiol.
  • Continwwm twf – yn ysbrydoli staff profiadol a pherthnasol i’r rheini sy’n dechrau o’r newydd.
  • Ymarferwyr yn meddwl yn feirniadol ac yn arloesi – defnyddio’r dulliau addysgu, dysgu ac asesu gorau yn unol ag anghenion amrywiol y dysgwyr.

Iaith gyffredin – fframwaith hwylus sy’n cefnogi dysgu proffesiynol unigol a chydweithredol.

Ein model ar gyfer proffesiynoldeb
Mae angen cymysgedd arbennig o werthoedd, sgiliau a gwybodaeth ar staff cymorth addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn diffinio pa mor broffesiynol ydynt, ac mae hynny'n arwain yn anuniongyrchol at well deilliannau i ddysgwyr.

Nod y model tebyg i DNA yw dangos sut mae’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n ffurfio proffesiynoldeb yn perthyn i’w gilydd, a sut mae hynny yn ei dro yn arwain at well deilliannau i’r holl ddysgwyr1.

 

Wrth lunio'r model hwn, rydym wedi ystyried Fframwaith ar gyfer Addysg yn 2030 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac rydym yn fwriadol yn gwneud cysylltiadau rhwng addysg pobl ifanc a datblygiad proffesiynol ar gyfer oedolion. Mae’r fframwaith yn ymddangos ar dudalen 2 o Global Competency for an Inclusive World (OECD, 2016) (Saesneg yn unig).

Fel mae'r diagramau sydd i'w gweld uchod ac isod yn awgrymu, rydym yn gweld gwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau fel elfennau sydd ynghlwm â'i gilydd yn hytrach na thri pheth ar wahân fel y cânt eu hystyried mewn safonau proffesiynol ar draws y byd.

 

Safonau proffesiynol ar gyfer staff cymorth addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru
Caiff y safonau proffesiynol ar gyfer Cymru eu mynegi ar ffurf cyfres o ymrwymiadau personol – Wrth fy ngwaith, a chydag eraill, byddaf yn . . .

Arddangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a'u lles

  • ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu hanghenion unigol o ran dysgu a chymorth
  • cydweithio ag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn
  • sicrhau amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant

  • croesawu amrywiaeth ac arddel agwedd o gynhwysiant
  • herio pob ffurf ar wahaniaethu

Deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog

  • manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd 
  • manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill

Arddangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill

  • gwrando ar farn, sylwadau a syniadau pobl eraill, a'u parchu
  • bod yn enghraifft i eraill wrth arddel ymddygiad teg, cwrtais a pharchus
  • cefnogi lles dysgwyr a chydweithwyr, gan ofyn am gymorth lle bo angen

Cynnal a diweddaru gwybodaeth ofynnol a'r ffordd orau o gefnogi dysgwyr

  • bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn fy maes cyfrifoldeb penodol (a all gynnwys ADY, technolegau digidol i gefnogi dysgwyr neu eu lles)
  • darparu cefnogaeth bersonol i ddysgwyr, yn seiliedig ar eu hanghenion unigol

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arferion

  • defnyddio ac arbrofi gydag ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau
  • ystyried y theorïau a'r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr, gan roi sylw i ba mor berthnasol ydynt yn fy nghyd-destun fy hun

Cefnogi dulliau addysgu, dysgu ac asesu effeithiol

  • cefnogi'r gwaith o baratoi, cyflwyno ac asesu rhaglenni dysgu, lle bo hynny'n briodol
  • cefnogi dysgwyr i fanteisio ar addysgu, dysgu ac asesu effeithiol
  • defnyddio ystod o wahanol gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau digidol, yn effeithiol er mwyn cefnogi’r  broses ddysgu

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

  • gweithio i feithrin a chynnal perthynas â dysgwyr, cydweithwyr,  cyflogwyr, ac unigolion eraill lle bo hynny'n briodol
  • cymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt

Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hasesu eu hunain 

  • canolbwyntio ar yr unigolyn bob amser i hyrwyddo annibyniaeth a’u hannog i gymryd rhan lawn yn eu dysgu
  • cyfathrebu'n effeithiol gyda phob dysgwr, cydweithiwr, cyflogwr ac eraill fel sy'n briodol 

Myfyrio'n feirniadol ar fy ngwerthoedd, gwybodaeth a'm sgiliau fy hun i wella dysgu

  • datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ar y cyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill 
  • gwerthuso fy arferion yn feirniadol a'u haddasu ar ôl myfyrio a chael adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr 

Arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

  • ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau sefyllfa sero net
  • cefnogi dysgwyr i ddysgu’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy

 

Enghreifftiau o sut i ddefnyddio’r safonau proffesiynol
Nod yr enghreifftiau isod yw cynnig syniadau ac awgrymiadau o sut y gellid dehongli’r safonau proffesiynol a’u defnyddio o ddydd i ddydd. Ni ddylai eich enghreifftiau fod wedi’u cyfyngu i’r awgrymiadau hyn yn unig a dylid eu defnyddio i lywio sgwrs broffesiynol ac i’ch cefnogi chi gyda’ch datblygiad proffesiynol parhaus.

Caiff y safonau proffesiynol ar gyfer Cymru eu mynegi ar ffurf cyfres o ymrwymiadau personol – Wrth fy ngwaith, a chydag eraill, byddaf yn . . .

Arddangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a'u lles

  • ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan ystyried eu hanghenion unigol o ran dysgu a chymorth
  • cydweithio ag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth lawn
  • sicrhau amgylcheddau dysgu diogel a chynhwysol

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu
  • cefnogi dysgwyr i nodi eu hanghenion a’u hamcanion dysgu
  • cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial
  • cydweithio gydag eraill i leihau rhwystrau i ddysgu a chael gwared arnynt
  • sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a'u haddysgu mewn amgylchedd dysgu diogel, a chymryd camau priodol pan fo angen gan ddefnyddio polisïau a chanllawiau perthnasol

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant

  • croesawu amrywiaeth ac arddel agwedd o gynhwysiant
  • herio pob ffurf ar wahaniaethu

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd
  • creu amgylchedd lle mae’r dysgwyr yn teimlo'n ddiogel i herio gwahaniaethu
  • annog dysgwyr i ddeall manteision amrywiaeth
  • trin pob dysgwr a rhanddeiliad yn gyfartal a theg
  • herio ymddygiad annerbyniol.

Deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a’r Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog

  • manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd
  • manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill

Er enghraifft, drwy:

  • hyrwyddo pwysigrwydd diwylliant amrywiol Cymru
  • annog a chefnogi dysgwyr sy'n siarad Cymraeg i ddysgu a gwneud eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • hyrwyddo manteision datblygu sgiliau Cymraeg i ddysgwyr, staff a chyflogwyr, yn enwedig yng nghyd-destun y gweithle/sector a/neu'r maes pwnc

Arddangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill

  • gwrando ar farn, sylwadau a syniadau pobl eraill, a'u parchu
  • bod yn enghraifft i eraill wrth arddel ymddygiad teg, cwrtais a pharchus
  • cefnogi lles dysgwyr a chydweithwyr, gan ofyn am gymorth lle bo angen

Er enghraifft, drwy:

  • drin pob dysgwr a chydweithiwr yn gyfartal a theg, gan sicrhau eu bod i gyd yn cael cyfle cyfartal i ddweud eu dweud
  • gwrando ar farn eraill, ac ymateb yn gadarnhaol
  • ymddwyn yn broffesiynol bob amser
  • ystyried fy agweddau a chredoau personol a phroffesiynol fy hun

Cynnal a diweddaru gwybodaeth ofynnol a'r ffordd orau o gefnogi dysgwyr

  • bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn fy maes cyfrifoldeb penodol (a all gynnwys ADY, technolegau digidol i gefnogi dysgwyr neu eu lles)
  • darparu cefnogaeth bersonol i ddysgwyr, yn seiliedig ar eu hanghenion unigol

Er enghraifft, drwy:

  • gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol
  • bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn fy maes cyfrifoldeb penodol, gan sicrhau bod y dysgwyr yn elwa ar yr wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf
  • cadw Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) wedi’i ddiweddaru neu system arall yn cynnwys enghreifftiau o ymarfer myfyriol
  • myfyrio ar yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arferion

  • defnyddio ac arbrofi gydag ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau
  • ystyried y theorïau a'r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr, gan roi sylw i ba mor berthnasol ydynt yng nghyd-destun fy nulliau dysgu ac addysgu fy hun

Er enghraifft, drwy:

  • gydweithio â chydweithwyr i rannu a thrafod syniadau a dulliau arloesol o ganlyniad i ymchwil ar y cyd
  • cymryd rhan lawn mewn rhwydweithiau arfer broffesiynol
  • rhannu arferion gorau a chanfyddiadau ymchwil gyda chydweithwyr i gefnogi gwelliant parhaus

Cefnogi dulliau addysgu, dysgu ac asesu effeithiol

  • cefnogi'r gwaith o baratoi, cyflwyno ac asesu rhaglenni dysgu, lle bo hynny'n briodol
  • cefnogi dysgwyr i fanteisio ar addysgu, dysgu ac asesu effeithiol
  • defnyddio ystod o wahanol gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau digidol, yn effeithiol er mwyn cefnogi’r  broses ddysgu

Er enghraifft, drwy:

  • ddefnyddio llwyfannau dysgu ac addysgu digidol i gefnogi dysgwyr a'r broses ddysgu
  • creu a chefnogi amgylcheddau dysgu lle mae dysgwyr yn cymryd rhan lawn fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cydweithredol

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

  • gweithio i feithrin a chynnal perthynas â dysgwyr, cydweithwyr, cyflogwyr, ac unigolion eraill lle bo hynny'n briodol
  • cymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt

Er enghraifft, drwy:

  • gefnogi dysgwyr i reoli ac arwain eu dysgu eu hunain
  • cydweithio i adolygu effaith addysgu, dysgu ac asesu ar ddeilliannau dysgwyr a'u perfformiad eu hunain
  • cydweithio â chydweithwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid i gefnogi ac ysgogi cynnydd dysgwyr
  • cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a cheisio cyfleoedd i rannu gwybodaeth â'r rhwydwaith
  • bod yn barod i rannu profiadau i hyrwyddo cefnogaeth ragorol i addysgu, dysgu ac asesu yn lleol ac yn genedlaethol
  • sicrhau cyfathrebu priodol â'r holl randdeiliaid

Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hasesu eu hunain

  • canolbwyntio ar yr unigolyn bob amser i hyrwyddo annibyniaeth a’u hannog i gymryd rhan lawn yn eu dysgu
  • cyfathrebu'n effeithiol gyda phob dysgwr, cydweithiwr, cyflogwr ac eraill fel sy'n briodol  

Er enghraifft, drwy:

  • gefnogi dysgwyr i nodi eu hanghenion a’u hamcanion dysgu
  • cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial drwy osod gwaith/tasgau heriol
  • cefnogi dysgwyr i adolygu eu cynnydd eu hunain
  • defnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth fy hun i ennyn diddordeb, annog a chymell dysgwyr
  • defnyddio technoleg i gyfathrebu, rhannu gwybodaeth ac annog y defnydd o lwyfannau ar-lein i rannu profiadau.

Myfyrio'n feirniadol ar fy ngwerthoedd, gwybodaeth a'm sgiliau fy hun i wella dysgu

  • datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ar y cyd â sgiliau proffesiynol priodol eraill
  • gwerthuso fy arferion yn feirniadol a'u haddasu ar ôl myfyrio a chael adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr

Er enghraifft, drwy:

  • ceisio barn cydweithwyr a dysgwyr am fy nulliau cefnogi, ac adolygu hynny
  • creu cyfleoedd a manteisio arnynt i drafod ac asesu fy ngwaith â chydweithwyr ac ymarferwyr eraill
  • ceisio rhannu syniadau sy'n gweithio'n dda a rhannu arferion da ar y cyd â chydweithwyr i gefnogi gwell deilliannau dysgu
  • bod yn ymwybodol o sut y gellir defnyddio technoleg i gefnogi dysgwyr
  • bod yn ymwybodol o dechnoleg sy'n newid yn barhaus lle bo hynny'n briodol, a’r gofynion i roi cymorth llythrennedd a rhifedd effeithiol

Arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

  • ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau sefyllfa sero net
  • cefnogi dysgwyr i ddysgu’r wybodaeth a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy

Er enghraifft, drwy:

  • annog cydweithwyr a dysgwyr i adolygu erthyglau a llenyddiaeth ar newid hinsawdd
  • bod yn ymwybodol o'r adnoddau rydym yn eu defnyddio bob dydd

lleihau adnoddau carbon uchel o blaid opsiynau carbon isel