MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5BF
  • Testun: Anogwr Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,925 - £23,797
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau

Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau

Coleg Caerdydd a'r Fro
Y SWYDD: Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau - tymor penodol tan 31/7/2022


LLEOLIAD: Safleoedd Canol y Ddinas yn bennaf, ond gallai gynnwys teithio i holl safleoedd y Coleg ar draws Caerdydd a'r Fro

YN ADRODD I: Goruchwyliwr yr Hyfforddwyr Dysgu / Arweinydd Tîm Hyfforddwyr Dysgu

CYFLOG: £21,925 - £23,797 pro rata (30 awr yr wythnos, yn gweithio 38 wythnos o’r dechrau)

1. CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL

• Helpu i wireddu gweledigaeth, cenhadaeth a chynlluniau'r Coleg yn llwyddiannus wrth gyflwyno Coleg newydd sy'n bodloni ei ddisgwyliadau a'i ddyheadau.
• Gweithio fel rhan o dimau sy'n perfformio'n dda, a chyfrannu atynt.
• Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu'n rhagweithiol a darparu gwasanaethau i'r safonau gorau posib.
• Cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith o weithredu a monitro gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd a Chynllun Gweithredol y Coleg.
• Hyrwyddo newid, cyfathrebu, gwella'n barhaus a grymuso, gan sicrhau bod cydweithwyr wedi'u cymell, yn deyrngar ac yn gefnogol.
• Bod yn rhan o'r gwaith o adolygu, gwella ac optimeiddio effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich prosesau adrannol yn barhaus.

ROLAU ALLWEDDOL

Rolau Penodol

Darparu cymorth (yn y dosbarth, sesiynau astudio preifat uniongyrchol ac mewn Canolfannau Sgiliau) i fyfyrwyr/staff sydd ag anghenion sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a/neu rifedd, yn ogystal â chynnig cymorth gyda TG, sgiliau astudio a Saesneg academaidd (ar bob lefel, o gyn-mynediad i Addysg Uwch (AU) a phroffesiynol).

Cynnig cefnogaeth, arweiniad a gwasanaeth cyfeirio yn fewnol ac yn allanol, er mwyn galluogi'r dysgwr i aros yn y coleg, gwneud cynnydd a chwblhau ei daith trwy'r coleg a symud ymlaen ohono. Cefnogi’r cwricwlwm o ran adnabod, olrhain a monitro dysgwyr sydd ‘mewn perygl’ o adael y coleg.


2. Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

• Bod yn hyfforddwr dysgwr - cynnig lefelau priodol o gymorth ac arweiniad i fyfyrwyr i’w helpu i ddeall eu harddulliau dysgu, gwneud y mwyaf o brosesau hyfforddi i alluogi’r dysgwyr i ddysgu’n fwy effeithiol;
• Gweithio gyda staff addysgu i wneud y mwyaf o allu’r myfyriwr i ddysgu a helpu eu cymhelliant i aros mewn addysg, a chyflawni cymwysterau mewn meysydd academaidd a/neu alwedigaethol.
• Cydweithio â staff addysgu i adnabod rhesymau dros dangyflawni ymhlith myfyrwyr a gweithredu amrywiaeth o adnoddau megis atgyfeirio, gwaith un i un a grŵp, gosod targedau heriol o fewn Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU) a rhoi hwb i gymhelliant a hyder dysgwyr.
• Gweithio gyda staff addysgu i sicrhau bod y myfyrwyr hynny sydd ‘mewn perygl’ o adael y coleg yn cael sesiynau hyfforddi;
• Darparu cymorth (yn y dosbarth, astudiaeth breifat uniongyrchol, apwyntiadau a chymorth galw-i-mewn mewn Canolfannau Sgiliau) i fyfyrwyr/staff sydd ag anghenion sgiliau mewn llythrennedd a/neu rifedd, yn ogystal â chynnig cymorth gyda TG, sgiliau astudio a Saesneg academaidd (ar bob lefel, o gyn-mynediad i Addysg Uwch (AU) a phroffesiynol);
• Ymgymryd â gwaith cynllunio, trefnu a gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r uchod;
• Darparu asesiadau sgrinio a dechreuol i fyfyrwyr sy’n defnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST), yn cynnwys bod yn rhan o’r broses asesu, cyfweld a chynefino, casglu canlyniadau a’u trosglwyddo i staff perthnasol yn ôl cyfarwyddyd y Goruchwyliwr Hyfforddwyr Dysgu ac Arweinydd y Tîm Hyfforddwyr Dysgu;
• Cynorthwyo staff addysgu i ddefnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) i sicrhau bod asesiadau dechreuol yn cael eu cwblhau, a bod sgiliau dysgwyr yn datblygu;
• Cefnogi a monitro cynnydd myfyrwyr WEST, yn cynnwys ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol, gwneud adroddiadau a throsglwyddo gwybodaeth i staff perthnasol fel y cynghorwyd gan y Goruchwyliwr Hyfforddwyr Dysgu;
• Llunio cynllun dysgu unigol (CDU) ar gyfer myfyriwr, ac ychwanegu cofnodion ar eu eCDU bugeiliol gyda Thiwtoriaid Sgiliau Hanfodol a Thiwtoriaid Cwrs y myfyriwr, fel sy’n berthnasol;
• Monitro, olrhain a chofnodi cynnydd yn erbyn CDU a gweithio gyda staff perthnasol;
• Cynnig cymorth i fyfyrwyr gydag ysgrifennu datganiad personol UCAS a sgiliau astudio, yn cynnwys Ysgrifennu Academaidd, Sgiliau Cyflwyno, Rheoli Amser, Llên-ladrad a Chyfeirnodi;
• Cynhyrchu adnoddau i’w defnyddio gyda myfyrwyr ac i wella’r Ganolfan Dysgu a Sgiliau - mae hyn yn cynnwys datblygu tudalennau Dysgu a Sgiliau Moodle a’r cyfryngau cymdeithasol;
• Sefydlu cysylltiadau cadarnhaol gyda myfyrwyr, blaenoriaethu anghenion dysgu unigol er mwyn eu harwain a’u cefnogi drwy gydol y broses o gwblhau eu llwybr dysgu dewisol yn llwyddiannus;
• Defnyddio gweithdrefnau monitro a gwerthuso priodol;
• Hyrwyddo’r gwasanaethau cymorth a gynigir gan y Ganolfan Dysgu a Sgiliau i staff a myfyrwyr;
• Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a sicrhau amgylchedd cynnes, cyfeillgar a diogel ledled y Coleg sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Dulliau Adferol;
• Cefnogi CAVC gyda’r Agenda Sgiliau fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac Estyn;
• Bod yn rhan o dîm y Ganolfan Dysgu a Sgiliau, cefnogi dyletswyddau llyfrgell lle fo’n ofynnol, yn cynnwys cefnogi gweithgareddau datblygu darllen;
• Gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau fel sy'n ofynnol.

Efallai y bydd angen gweithio yn unrhyw rai o’r Canolfannau Dysgu a Sgiliau fel rhan o’r swydd hon.

3. Rolau Cyffredinol
• Cynrychioli'r Coleg gydag asiantaethau allanol fel sy'n ofynnol i gyflawni eich dyletswyddau neu yn ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.
• Cyflawni targedau dangosyddion perfformiad allweddol cytunedig ar draws pob maes cyfrifoldeb.
• Cydymffurfio â pholisïau'r Coleg, yn enwedig y rheiny sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
• Cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch a mesurau diogelwch yn unol â gofynion statudol a gofynion y Coleg.
• Bod yn fodel rôl gan gefnogi gwerthoedd a rheolaeth gorfforaethol y Coleg.
• Datblygu eich hun yn weithredol drwy weithgareddau hyfforddiant a datblygiad staff ac adolygu eich perfformiad eich hun a pherfformiad y rheiny sy'n atebol i chi.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gyson â chyfrifoldebau a dyletswyddau'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd eich Rheolwr Llinell.

4. Amcanion y Swydd
Ansawdd: Gwella canlyniadau i ddysgwyr o ran:
• Recriwtio;
• Presenoldeb;
• Llwyddiant;
• Cyflogadwyedd;
• Dilyniant.
Darparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmer i'r holl randdeiliaid

Effeithlonrwydd: Darparu arbedion effeithlonrwydd i gynnal hyfywedd ariannol a chefnogi buddsoddiadau. Lleihau'r ddibyniaeth ar Gyllid Llywodraeth Cymru a sicrhau cyflawniad yn erbyn targedau cyllid.

Twf: Darparu twf mewn meysydd blaenoriaeth allweddol.

5. Dangosyddion Perfformiad Allweddol Adran
• 100% o ddysgwyr cymwys i wneud Asesiad Dechreuol o fewn 4 wythnos ar ôl dechrau eu cwrs
• Boddhad dysgwyr â gweithdrefnau perthnasol i’r maes hwn, o fewn y chwartel uchaf wrth feincnodi ar draws y sector
• Gwerthuso effeithiolrwydd cymorth drwy gynydd mewn cyrhaeddiad dysgwyr perthnasol
• Dangos y pellter a deithiwyd ym Mhecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru. Gweithredu 70% fel meincnod.
• Cyfrannu at darged cynhyrchu incwm yr Adran a’r Coleg, fel y gosodwyd gan Ddeon Taith y Dysgwr

EIN BLAENORIAETHAU

Blaenoriaeth 1: Ansawdd

Bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant addysg sy'n flaenllaw yn y sector. Byddwn yn helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau trwy dechnegau a hyfforddiant arloesol rhagorol, datblygu cyfleusterau sy'n flaenllaw yn y sector a darparu profiad cwsmer rhagorol.
Byddwn yn gweithio mewn cyd-destun gwelliant parhaus, gan ymdrechu i wella ansawdd bob agwedd ar y gwasanaeth a gynigiwn. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy gyrhaeddiad rhagorol, dilyniant ystyrlon ac asesu effaith.
Bydd y flaenoriaeth hon yn cael ei monitro trwy strategaethau sicrhau ansawdd trwyadl, gan gynnwys arsylwi addysgu, dysgu a'r canlyniadau asesu a rhaglen gynhwysfawr o ymgysylltiad dysgwyr a rhanddeiliaid.

Blaenoriaeth 2: Effeithlonrwydd

Bydd ein ffocws ar effeithlonrwydd yn sicrhau y gallwn fanteisio'n llawn ar ein hadnoddau i gynnig y gwasanaeth mwyaf effeithiol, effeithlon a chynaliadwy i unigolion a chymunedau. Bydd yr ymrwymiad hwn yn golygu y byddwn yn rheoli'r holl adnoddau a gweithgareddau mewn modd sy'n gwarantu darpariaeth ragorol sy'n flaenllaw yn y sector a gwasanaeth sy'n darparu'r gwerth gorau am arian, yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn parhau'n ddichonadwy a chynaliadwy.
Byddwn yn gweithio ar y cyd â rhwydwaith eang o bartneriaid, gan gydnabod manteision cydweithio a gweithio mewn partneriaeth.

Blaenoriaeth 3: Twf

Mae gan Coleg Caerdydd a'r Fro weledigaeth uchelgeisiol i ddatblygu a thyfu ein Coleg. Byddwn yn gwrando ar gyflogwyr, cymunedau, a blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol, gan ddatblygu cynnig eang ac ymatebol sy'n bodloni anghenion ein rhanbarth. Bydd ein gwaith helaeth â chyflogwyr yn cefnogi busnes a diwydiant yn uniongyrchol, gan greu rhanbarth gyda'r cyfuniad cywir o sgiliau a datblygu diwylliant o arloesedd.

Ein Gweledigaeth: Ysbrydoledig. Cynhwysol. Dylanwadol.
Ein Cenhadaeth: Trawsnewid bywydau drwy ddatgloi potensial a datblygu sgiliau.

YMDDYGIAD A GWERTHOEDD
Byddwch yn arddangos y gwerthoedd ac ymddygiadau canlynol:
Ysbrydoledig
• Dychmygus, creadigol a dyfeisgar
• Gwydn a hyblyg - rydym ni'n croesawu newid
• Cadarnhaol ac ysgogol - rydym ni'n dod â phobl gyda ni.
Cynhwysol
• Gonest a dibynadwy - rydym yn gweithio gydag uniondeb
• Arweinwyr mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth - rydym yn parchu a dathlu gwahaniaethau unigol ac yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth Gymreig
• Rydym yn un tîm - yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein gweledigaeth
Dylanwadol
• Beiddgar ac uchelgeisiol - entrepreneuraidd yn y ffordd y gweithiwn
• Cyfathrebu, cydweithio a grymuso
• Ymrwymedig ac angerddol - rydym ni'n credu yn yr hyn a wnawn


MANYLEB PERSON A CHYMWYSEDDAU’R SWYDD

Cymwysterau
• Addysg i o leiaf lefel 3
• Gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg TGAU
• Cymhwyster Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol L2 neu L3 (neu gymhwyster Sgiliau Sylfaenol cyfwerth)
• Cymhwyster Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) (neu gyfwerth)
• Cymhwyster Hyfforddwr Dysgu neu brofiad perthnasol
• Cymwysterau ESOL perthnasol (dymunol)

Profiad Blaenorol a Gwybodaeth am y Swydd
• Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
• Profiad o weithio gyda TG
• Profiad o ddarparu cymorth dysgu ychwanegol/cymorth sgiliau sylfaenol i ddysgwyr
• Profiad o annog a chefnogi dysgu
• Profiad o gynnig cymorth a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg - (Cymraeg LASC)
• Profiad o gynnig cymorth a hyfforddiant i fyfyrwyr ESOL - (ESOL LASC)
• Profiad o gynnig cymorth a hyfforddiant i ysgolion a darpariaeth NEET - (Ysgol/NEET LASC)
• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Sgiliau trefnu a rheoli amser da
• Sgiliau TG da
• Gallu gweithio’n annibynnol
• Gallu gweithio dan bwysau
• Gallu cynnal cyfrinachedd

Sgiliau (Cymwyseddau a Gallu)

• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol
• Sgiliau trefnu a rheoli amser da
• Sgiliau digidol da, yn cynnwys Microsoft Office a'r cyfryngau cymdeithasol
• Gallu gweithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau fel sy’n ofynnol
• Gallu gweithio dan bwysau
• Gallu cynnal cyfrinachedd
• Hyblyg, ac yn ymateb i anghenion a cheisiadau

Gofynion Ychwanegol
• Bod ag ymrwymiad i wella ansawdd yn barhaus.
• Y gallu i siarad Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu.

Cyffredinol
• Cymryd rhan weithredol yn y broses arfarnu.
• Cydymffurfio â'r holl reoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol a chynorthwyo'r Coleg i weithredu ei Bolisi Iechyd a Diogelwch ei hun.
• Hyrwyddo Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Coleg yn rhagweithiol, a chydymffurfio ag o.
• Hyrwyddo Arferion a Pholisi Diogelu’r Coleg yn rhagweithiol, a chydymffurfio â nhw.
• Cefnogi polisïau cynaliadwyedd y Coleg, a chydnabod y cyfrifoldeb a rennir o gwblhau dyletswyddau yn effeithlon o ran adnoddau.
• Cymryd rhan yn y broses gofrestru.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill fel y manylwyd gan ein rheolwr llinell sy’n gymesur â lefel y swydd hon.


Bydd pob Swydd Ddisgrifiad yn cael ei adolygu;

1. O fewn chwe mis o benodi

2. Ar ôl hynny, yn flynyddol

3. O ganlyniad i anghenion datblygu personol / staff cytunedig

4. O ganlyniad i ofynion tîm/gweithredol neu newidiadau i strategaeth.