Coleg Caerdydd a'r Fro

Cardiff and Vale College
Further Education Institution
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF10 5BF
OUR WEBSITE:
https://cavc.ac.uk/en
Amdanom Ni
Coleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) yw un o'r colegau mwyaf yn y wlad, yn cyflwyno addysg a hyfforddiant o safon uchel i dros 30,000 o ddysgwyr y flwyddyn ar draws cyrsiau coleg, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth llawn amser a rhan amser, ynghyd â darpariaeth hyfforddiant penodol ar gyfer cyflogwyr.

Gyda gweithlu dynamig o arbenigwyr pwnc a diwydiant, mae CAVC yn hyfforddi pobl mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws Caerdydd a'r Fro, ar-lein, yn y gymuned ac yn y gweithle, ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt.

Mae CAVC yn sefydliad sy'n blaenoriaethu iechyd a llesiant ei staff a'i ddysgwyr. Cafodd ei ymrwymiad at degwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad ei gydnabod yn 2021, wrth ennill gwobr Darparwr Addysg Bellach y Flwyddyn yng ngwobrau'r Ganolfan Genedlaethol er Amrywiaeth, mae hefyd wedi cyrraedd yr ail safle yn Mynegai'r 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol 2021. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi derbyn achrediad arian yn erbyn Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, gan ddangos ei ymrwymiad i berfformiad uchel drwy reolaeth dda ar bobl.