Gwefan sydd wedi'i adeiladu gan addysgwyr, ar gyfer addysgwyr, rydych chi'n chwarae rhan ganolog wrth ddarparu adnodd gwerthfawr ar gyfer proffesiynau addysg yng Nghymru. Dyma'ch cyfle i arddangos yr ystod o gyfleoedd gyrfaol sydd gennych ar gael yn eich sefydliad i ymgeiswyr nid yn unig yn eich ardal leol, ond dros Gymru gyfan. Os yr ydych am recriwtio pobl ar gyfer swyddi addysgu yn eich sefydliad neu'ch rhanbarth, y cyfan sy'n rhaid i chi gwneud yw creu'ch proffil, rhestru'ch swyddi gwag a gwylio'r ymgeiswyr yn rholio mewn i ddechrau'r cam cyntaf o ehangu eich tîm.

SUT MAE ADDYSGWYR CYMRU'N GWEITHIO
Cofrestrwch i ddechrau ehangu eich tîm. Byddwch yn gallu hyrwyddo'ch sefydliad, hysbysebu swyddi gwag am ddim a dod o hyd i'ch ymgeisydd perffaith o dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA.
Ymunwch ag Addysgwyr Cymru

Crëwch gyfrif neu cofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfrif FyCGA presennol.

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Crëwch eich proffil yn barod i hysbysebu'ch swyddi gwag ac i hyrwyddo'ch sefydliad fel cyflogwr o ddewis. 

Rhannwch eich swyddi gwag yn rhad ac am ddim

Cyrraeddwch dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA a'r rheini sy'n ystyried ymuno â'r sector addysg yng Nghymru.

Derbyn ceisiadau

Caniatewch i ymgeiswyr gwneud cais trwy blatfform Addysgwyr Cymru neu'n uniongyrchol trwy'ch sianeli presennol.

Lluniwch rhestr fer o'ch hoff ymgeiswyr

Cymharwch a lluniwch rhestr fer o geisiadau i gyd mewn un lle trwy blatfform Addysgwyr Cymru.

Penodwch eich gweithiwr nesaf!

Ehangwch eich tîm o addysgwyr rhagorol.