Coleg Sir Gar

Coleg Sir Gar
Further Education Institution
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Sir Gar
  • Llanelli
  • Carmarthenshire
  • SA15 4DN
  • Coleg Sir Gar
  • Jobs Well
  • Carmarthenshire
  • SA31 3HY
  • Coleg Sir Gar
  • Pibwrlwyd
  • Carmarthenshire
  • SA31 2NH
  • Coleg Sir Gar
  • Ammanford
  • Carmarthenshire
  • SA18 3TA
  • Coleg Sir Gar
  • Gelli Aur
  • Carmarthenshire
  • SA32 8NJ
  • Coleg Sir Gar
  • Coleg Ceredigion
  • Aberystwyth
  • Ceredigion
  • SY23 3BP
Amdanom Ni
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gweithredu fel y Coleg Dewisol i ddysgwyr yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru gydag ethos dwyieithog cryf. Rydym yn cynnig Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith ac Addysg Uwch ar draws saith campws yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Rydym bob amser yn rhoi ein dysgwyr yn gyntaf ac mae ein cod rhagoriaeth wrth wraidd pob dim rydym yn ei wneud.

Mae'r Coleg yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sef Prifysgol sector deuol, sy'n ymgorffori addysg bellach ac uwch, gan wella cyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel ar draws y rhanbarth. Mae trosiant cyfredol y Coleg o £40m yn ffurfio un rhan o dair o holl incwm y grŵp. Mae'r Coleg yn darparu portffolio masnachol eang gan gynnwys fferm laeth lwyddiannus sy'n cynnal gweithgarwch ymchwil blaengar sy'n gysylltiedig yn benodol â datblygiadau ym maes iechyd anifeiliaid a'r sector amaethyddol. Rydym yn hynod falch o'n hystod amrywiol a helaeth o bartneriaethau sy'n ein galluogi i gyflwyno ein darpariaeth mewn modd arloesol a gwydn.