MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £23.58 - £46.39 / awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Achlysurol Darlithydd Gwyddor Anifeiliaid

Coleg Sir Gar

Cyflog: £23.58 - £46.39 / awr

Achlysurol Darlithydd Gwyddor Anifeiliaid
Application Deadline: 2 March 2026

Department: Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Deon a'r Pennaeth Cwricwlwm

Compensation: £23.58 - £46.39 / awr

DescriptionMae'r Gyfadran Celfyddydau Creadigol a Choginiol, Gwyddor Anifeiliaid, Modurol a Thechnoleg am benodi darlithydd gwyddor anifeiliaid dynamig, blaengar sydd â gweledigaeth ac ysfa i weithio gyda'r tîm presennol i lywio darpariaeth gwyddor anifeiliaid yn y dyfodol yng Ngholeg Ceredigion.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol ac arloesol sy'n barod i gyflwyno darpariaeth gwyddor anifeiliaid rhagorol i ddysgwyr o Lefel 1 i Lefel 3.

Gan fynd i'r afael â'r gwaith o gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm, byddwch yn paratoi deunyddiau dysgu o safon broffesiynol uchel ac yn gweithio'n hyblyg. Bydd deilydd y swydd yn frwdfrydig, yn rhagweithiol, ac yn uchelgeisiol.

Mae rhaglenni gwyddor anifeiliaid yn amrywio o gyrsiau Addysg Bellach ar Lefel 1 i Lefel 3. Mae'r dysgwyr yn elwa ar ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a system cymorth tiwtorial sefydledig.

Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i chi:
  • ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau mewn Gwyddor Anifeiliaid o Lefel 1 i Lefel 3;
  • darparu cefnogaeth, fel aelod o'r tîm, o ran gweinyddu a datblygu adnoddau o fewn y maes;
  • cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu Gwyddor Anifeiliaid trwy gysylltu â'r diwydiant a'r posibilrwydd o ddatblygu cyrsiau masnachol;
  • cyfrannu at ansawdd y ddarpariaeth trwy'r system dilysu mewnol;
  • paratoi deunydd addysgu perthnasol ar gyfer pynciau penodedig;
  • paratoi deunyddiau adnodd a chyfleusterau i ategu'r gwaith addysgu penodedig;
  • ymgymryd â'r holl weithgarwch asesu ar gyfer pynciau penodedig;
  • sicrhau bod yr holl ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant ymarferol yn cydymffurfio ag iechyd a diogelwch a gofynion deddfwriaethol eraill;
  • cysylltu â budd-ddeiliaid trydydd parti fel y'i nodwyd gan reolwyr y gyfadran, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, sefydliadau AU, cyrff diwydiannol, cyflogwyr ac ati;
  • trefnu cyfleoedd lleoliad gwaith a monitro profiad y dysgwr;
  • cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster Addysg Uwch/Lefel Uwch cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
  • Profiad ymarferol/diwydiannol perthnasol ym maes gwyddorau anifeiliaid
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
  • Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
Dymunol
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Profiad busnes yn y diwydiannau ar dir
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein