MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,328 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £34,328 / blwyddyn

Aseswr mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Application Deadline: 22 May 2025

Department: Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol

Employment Type: Parhaol - Llawn Amser

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol

Compensation: £34,328 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae'r coleg yn ymrwymedig i gyflwyno hyfforddiant a datblygiad o'r safon uchaf drwy ein contract dysgu seiliedig ar waith, gan gefnogi cyflogwyr a chyflogeion y rhanbarth i wella sgiliau a bodloni Blaenoriaethau Sgiliau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru o fewn ystod eang o sectorau. Bydd yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon yn golygu cydweithio helaeth ag ystod eang o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr, prentisiaid, cyfadrannau a thimau canolog y coleg. Bydd ymgysylltiad effeithiol â chyflogwyr yn ffurfio rhan o'r rôl i hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau'r coleg.

Rhaid i ddeilydd y swydd ddangos menter, sgiliau trefniadol da a sgiliau rheoli amser cadarn. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio i lwyth achosion y cytunwyd arno ac fel y cyfryw gofynnir iddo/iddi weithio'n helaeth oddi ar y safle i ateb galwadau'r rôl.

Bydd disgwyl I ddeiliad y swydd weithio i safon a fydd yn ei alluogi i fodloni'r holl ddangosyddion perfformiad allweddol a osodwyd gan y coleg.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cynllunio, monitro a gwerthuso cynnydd dysgwr yn erbyn ei fframwaith;
  • Cysylltu â chyflogwyr a dysgwyr ynglŷn â chynnydd dysgwr;
  • Cynorthwyo gyda rheolaeth hyfforddiant penodedig yn y gweithle a / neu'r coleg a monitro cyflwyniad y rhaglen brentisiaeth;
  • Cysylltu â rheolwyr, athrawon, aseswyr a dysgwyr i sicrhau cwblhau a chyflawni'n effeithiol.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • NVQ Lefel 3-5 neu uwch (sy'n berthnasol i'r sector)
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Dyfarniadau Aseswr (fodd bynnag bydd hyfforddiant yn
    cael ei ddarparu)
  • Profiad sector diweddar perthnasol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sydd yn dangos cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal gwybodaeth a sgiliau cyfoes y diwydiant o ran arferion,
    cynhyrchion a chyfarpar
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD ac EXCEL
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Trwydded yrru gyfredol a'ch cludiant eich hun
Dymunol:
  • IOSH Rheoli'n Ddiogel
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein